Broncitis

Cyflwyniad

Haint ar brif lwybrau anadlu'r ysgyfaint (bronci) yw Broncitis, sy'n achosi iddynt fynd yn llidiog a llidus.

Mae'r prif lwybrau anadlu yn ymestyn allan naill ochr i'ch pibell wynt (trachea). Maent yn arwain at lwybrau anadlu llai a llai y tu mewn i'ch ysgyfaint, a elwir yn bronciolau.

Mae waliau'r bronci'n cynhyrchu mwcws er mwyn dal llwch a gronynnau eraill a allai achosi llid, fel arall.

Mae'r rhan fwyaf o achosion o froncitis yn datblygu pan mae haint yn llidio'r bronci, gan achosi iddyn nhw gynhyrchu mwy o fwcws na’r arfer. Mae eich corff yn ceisio symud y mwcws ychwanegol hwn drwy besychu.

Gellir disgrifio broncitis fel naill ai broncitis acíwt neu broncitis cronig.

Llid dros dro ar y llwybrau anadlu sy'n achosi peswch a mwcws yw broncitis acíwt. Mae'n para hyd at 3 wythnos.

Mae'n gallu effeithio ar bobl o bob oed, ond yn bennaf ymhlith plant o dan 5 oed.

Mae'n fwy cyffredin yn y gaeaf ac yn aml yn digwydd ar ôl annwyd cyffredindolur gwddf neu’r ffliw.

Mae broncitis cronig yn beswch cynhyrchiol dyddiol sy'n para am 3 mis o'r flwyddyn ac am o leiaf 2 flynedd yn olynol.

Mae'n un o nifer o gyflyrau'r ysgyfaint, gan gynnwys emffysema, sy'n cael eu hadnabod ar y cyd fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).

Mae'n effeithio ar oedolion dros 40 oed yn bennaf.

Mae'n bwysig eich bod chi’n stopio ysmygu os oes gennych chi broncitis.

Mae mwg sigaréts a'r cemegau mewn sigaréts yn gwneud broncitis yn waeth ac yn cynyddu eich risg o ddatblygu broncitis cronig a COPD.

Symptomau broncitis

Prif symptomau broncitis acíwt yw peswch hacio, a allai godi mwcws clir, llwyd melyn neu wyrddlas (fflem).

Mae symptomau eraill yn debyg i rai annwyd cyffredin neu llid y sinysau, a gall gynnwys:

  • dolur gwddf
  • cur pen
  • trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi’i flocio
  • poenau
  • blinder

Os oes gennych chi froncitis aciwt, gall eich peswch bara am rai wythnosau ar ôl i symptomau eraill fynd.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld bod y peswch parhaus yn gwneud y cyhyrau yn eich brest a'ch stumog yn boenus

Efallai y bydd rhai pobl yn dioddef diffyg anadl neu wichian, oherwydd llwybrau anadlu llidus.

Ond mae hyn yn fwy cyffredin gyda broncitis hirdymor (cronig).

Pryd y dylech fynd i weld meddyg teulu

Gellir trin y rhan fwyaf o achosion o broncitis acíwt gartref yn hawdd gyda gorffwys, cyffuriau gwrthlidiol ansteroidol (NSAIDs) a digon o hylifau.

Dim ond os yw eich symptomau yn ddifrifol neu'n anarferol y mae angen i chi fynd i weld eich meddyg teulu.

Er enghraifft, ewch i weld meddyg teulu os:

  • yw eich peswch yn ddifrifol neu'n para mwy na 3 wythnos
  • oes gennych dymheredd uchel am fwy na 3 diwrnod - gall hyn fod yn arwydd o'r ffliw neu gyflwr mwy difrifol, fel niwmonia
  • ydych chi'n peswch mwcws gydag ychydig o waed
  • oes gennych gyflwr isorweddol y galon neu’r ysgyfaint, fel asthma, methiant y galon neu emffysema
  • ydych chi'n colli eich anadl yn fwy
  • ydych chi wedi cael penodau ailadroddus o broncitis

Efallai y bydd angen i feddyg teulu ddiystyru heintiau eraill yr ysgyfaint, fel niwmonia, sydd â symptomau tebyg i rai broncitis.

Os yw meddyg teulu yn credu y gallai fod niwmonia arnoch, mae'n debyg y bydd arnoch angen pelydr-x o’ch brest, ac efallai y bydd sampl o fwcws yn cael ei gymryd i'w brofi.

Os yw meddyg teulu'n credu y gallai fod gennych gyflwr isorweddol, efallai y bydd hefyd yn awgrymu eich bod chi’n cael prawf swyddogaeth yr ysgyfaint.

Bydd angen i chi gymryd anadl ddofn a'i chwythu i ddyfais o'r enw spiromedr, sy'n mesur cyfaint aer yn eich ysgyfaint.

Gall llai o gapasiti'r ysgyfaint ddangos problem iechyd isorweddol.

Achosion broncitis

Heintiau feirysol a bacterol

Fel arfer, mae broncitis yn cael ei achosi gan feirws. Yn llai aml, caiff ei achosi gan facteria.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae broncitis yn cael ei achosi gan yr un firysau sy'n achosi annwyd cyffredin neu'r ffliw.

Mae'r feirws wedi'i gynnwys yn y miliynau o ddiferion bach sy'n dod allan o'r trwyn a'r geg pan fydd rhywun yn peswch neu'n tisian.

Mae'r diferion hyn fel arfer yn lledaenu tua 1m. Maen nhw'n hongian yn yr aer am gyfnod, yna'n glanio ar arwynebau lle gall y feirws oroesi am hyd at 24 awr.

Gall unrhyw un sy'n cyffwrdd â'r arwynebau hyn ledaenu'r feirws ymhellach drwy gyffwrdd â rhywbeth arall.

Darganfyddwch fwy am sut mae germau annwyd a’r ffliw yn lledaenu

Anadlu sylweddau llidus

Gall broncitis hefyd gael ei sbarduno trwy anadlu sylweddau llidus, fel mwrllwch, cemegau mewn cynhyrchion cartref neu fwg tybaco.

Ysmygu yw prif achos broncitis cronig, a gall effeithio ar bobl sy'n anadlu mwg ail-law, yn ogystal â'r rheiny sy'n ysmygu eu hunain.

Yn aml, mae pobl sydd â broncitis cronig yn datblygu clefyd arall yr ysgyfaint sy'n gysylltiedig ag ysmygu o'r enw emffysema - lle mae'r sachau aer y tu mewn i'r ysgyfaint yn cael eu difrodi, gan achosi diffyg anadl.

Os ydych chi'n ysmygu, ceisiwch stopio ar unwaith gan fod ysmygu’n gwaethygu broncitis ac yn cynyddu'ch risg o ddatblygu emffysema.

Mae stopio ysmygu tra bod gennych broncitis hefyd yn gallu bod yn gyfle perffaith i roi'r gorau i ysmygu’n gyfan gwbl.

Darganfyddwch fwy am driniaethau stopio ysmygu

Amlygiad galwedigaethol

Mae'n bosib y byddwch hefyd mewn perygl o ddatblygu broncitis cronig a mathau eraill o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) os ydych chi’n aml wedi’ch amlygu i ddeunyddiau a all niweidio eich ysgyfaint, fel:

  • llwch grawn
  • tecstilau (ffibrau ffabrig)
  • amonia
  • asidau cryf
  • clorin

Gelwir hyn weithiau'n "broncitis galwedigaethol", ac fel arfer mae'n lleddfu unwaith nad ydych yn agored i'r sylwedd llidus mwyach.

Trin broncitis

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd broncitis acíwt yn clirio ar ei ben ei hun o fewn ychydig wythnosau heb fod angen triniaeth.

Yn y cyfamser, dylech yfed llawer o hylif a chael digon o orffwys.

Mewn rhai achosion, gall symptomau broncitis bara'n llawer hirach. Os yw'r symptomau'n para am o leiaf 3 mis, mae'n cael ei alw'n broncitis cronig.

Nid oes modd gwella broncitis cronig, ond gall rhai newidiadau i ffordd o fyw helpu i leddfu eich symptomau, fel:

Mae sawl meddyginiaeth i leddfu'r symptomau.

Mae meddyginiaethau o'r enw “ronchodilators” a steroidau yn ‘agor’ y llwybrau anadlu a gellir eu rhagnodi fel mewnanadlydd neu fel tabledi.

Mae meddyginiaethau mwcolytig yn teneuo'r mwcws yn yr ysgyfaint gan ei gwneud hi'n haws peswch.

Rheoli symptomau gartref

Os oes gennych chi broncitis aciwt:

  • dylech gael digon o orffwys
  • yfwch lawer o hylif - mae hyn yn helpu i atal dadhydradu ac yn teneuo'r mwcws yn eich ysgyfaint, gan ei gwneud hi'n haws peswch
  • dylech drin cur pen, tymheredd uchel, a phoenau gyda paracetamol neu ibuprofen - er nad yw ibuprofen yn cael ei argymell os oes gennych asthma
  • ceisiwch aros gartref ac osgoi cyswllt â phobl eraill os oes gennych dymheredd uchel neu os nad ydych yn teimlo'n ddigon da i wneud eich gweithgareddau arferol

Byddwch yn wyliadwrus o feddyginiaethau peswch

Prin yw'r dystiolaeth bod meddyginiaethau peswch yn gweithio.

Darganfyddwch fwy am drin pedwch

Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi argymell na ddylid rhoi meddyginiaethau peswch dros y cownter i blant dan 6 oed.

Dylai plant rhwng 6 a 12 oed ond eu defnyddio ar ôl cael cyngor meddyg neu fferyllydd.

Fel dewis arall yn lle meddyginiaeth peswch dros y cownter, ceisiwch wneud eich cymysgedd eich hun o fêl a lemwn, sy'n gallu helpu i leddfu dolur gwddf a lleddfu'ch peswch.

Gwrthfiotigau

Nid yw gwrthfiotigau yn cael eu rhagnodi'n rheolaidd ar gyfer broncitis oherwydd ei fod fel arfer yn cael ei achosi gan feirws.

Nid yw gwrthfiotigau'n cael unrhyw effaith ar feirysau, a bydd eu rhagnodi pan nad oes eu hangen yn gallu, dros amser, wneud bacteria yn fwy gwrthiannol i driniaeth wrthfiotig.

Darganfyddwch fwy am ymwrthedd i wrthfiotigau

Bydd meddyg teulu ond yn rhagnodi gwrthfiotigau os oes gennych fwy o risg o ddatblygu cymhlethdodau, fel niwmonia.

Gellir argymell gwrthfiotigau hefyd ar gyfer:

  • babanod cynamserol
  • hen bobl dros 80 oed
  • pobl sydd â hanes o glefyd y galon, yr ysgyfaint, yr arennau neu'r afu
  • pobl sydd â system imiwnedd wan, a allai fod o ganlyniad i gyflwr isorweddol neu sgil-effaith triniaeth fel steroidau
  • pobl â ffibrosis systig

Os byddwch chi'n cael gwrthfiotigau rhagnodedig ar gyfer broncitis, mae'n debygol o fod yn gwrs 5 diwrnod o amoxicillin neu doxycycline.

Mae sgil-effeithiau'r cyffuriau hyn yn anghyffredin, ond maent yn cynnwys teimlo'n sâl, cyfog a dolur rhydd.

Cymhlethdodau broncitis

Niwmonia yw cymhlethdod mwyaf cyffredin broncitis.

Mae'n digwydd pan mae'r haint yn lledaenu ymhellach i'r ysgyfaint, gan achosi i'r sachau aer bach y tu mewn i'r ysgyfaint lenwi â hylif.

Mae tua 1 o bob 20 achos o froncitis yn arwain at niwmonia.

Mae pobl sydd â risg uwch o ddatblygu niwmonia yn cynnwys:

  • pobl oedrannus
  • pobl sy'ny smygu
  • pobl â chyflyrau iechyd eraill, fel clefyd y galon, yr afu neu’r arennau
  • pobl â system imiwnedd wan

Fel arfer, gellir trin niwmonia ysgafn gyda gwrthfiotigau gartref. Efallai y bydd angen mynd i'r ysbyty ar gyfer achosion mwy difrifol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 25/09/2023 16:15:52