Pigyn Clust / Clust Dost

Cyflwyniad

Earache
Earache

Mae pigyn clust a phoen clust yn gyffredin, yn enwedig mewn pobl ifanc. Mae'n gallu bod yn boenus ond nid yw'n arwydd o unrhyw beth difrifol fel arfer.

Am ba hyd mae pigyn clust yn para

Mae'n dibynnu beth sy'n ei achosi. Mae'r rhan fwyaf o achosion o bigyn clust ymhlith plant yn cael eu hachosi gan haint y glust, sy'n dechrau gwella fel arfer ar ôl ychydig ddyddiau.

Canfod pigyn clust mewn babanod a phlant ifanc

Gall plentyn ifanc fod â phigyn clust:

  • os yw'n rhwbio neu'n tynnu ei glust
  • os nad yw'n adweithio i rai seiniau
  • os oes ganddo dymheredd o 38C neu uwch
  • os yw'n groendenau neu'n aflonydd
  • os yw'n gwrthod ei fwyd
  • os yw'n cadw colli'i gydbwysedd

Gall pigyn clust a phoen clust effeithio ar un glust neu ar y ddwy glust.

Sut i drin pigyn clust eich hun

Mae rhai pethau gallwch chi eu gwneud i helpu i liniaru pigyn clust a phoen clust:

  • Defnyddiwch gyffuriau lleddfu poen fel parasetamol neu ibuprofen (ni ddylai plant iau nag 16 oed gymryd aspirin)
  • Gosodwch glwt 'molchi cynnes neu oer ar y glust 

Peidiwch â

  • rhoi unrhyw beth y tu mewn i'ch clust, fel ffyn cotwm
  • ceisio tynnu cwyr o'r glust
  • gadael i ddwr fynd i mewn i'r glust

Gall fferyllydd helpu gyda phigyn clust

Efallai y bydd eich fferyllydd yn gallu dweud wrthych:

  • beth arall gallwch chi ei wneud i drin pigyn clust eich hun
  • os gallwch brynu unrhyw beth i helpu - diferion clust, er enghraifft
  • os oes angen i chi weld meddyg teulu

Dod o hyd i'ch fferyllfa agosaf

Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych chi neu eich plentyn:

  • dymheredd uchel iawn neu'n teimlo'n boeth ac yn crynu
  • chwyddo o gwmpas y glust
  • pigyn clust yn y ddwy glust
  • hylif yn dod o'r glust
  • rhywbeth yn gaeth yn y glust
  • pigyn clust am fwy na 3 diwrnod
  • colli clyw neu newid mewn clyw
  • dolur gwddf difrifol neu chwydu 

Os na allwch gael apwyntiad, cysylltwch â 111.

Beth sy'n achosi pigyn clust a phoen clust

Gall llawer o bethau achosi pigyn clust a phoen clust, ond weithiau, nid yw'r achos yn hysbys. Dyma rai o'r achosion mwyaf cyffredin:

  • gall y symptom fod yn boen clust gyda'r ddanoedd - cyflwr posibl fyddai plentyn yn torri dannedd neu grawniad deintiol 
  • gall y symptom fod yn boen clust heb newid yn y clyw - cyflwr posibl fyddai clust ludiog, croniad o gwyr yn y glust, rhywbeth yn gaeth yn y glust (peidiwch â cheisio'i dynnu eich hun - ewch i weld eich meddyg teulu), tympan drydyllog y glust - yn enwedig ar ôl swn mawr neu ddamwain
  • gall y symptom fod yn boen clust gyda phoen wrth lyncu - cyflwr posibl fyddai dolur gwddf, tonsilitis, ysbinagl (quinsy)- cymhlethdod tonsilitis
  • gall y symptom fod yn boen clust gyda thwymyn - cyflwr posibl fyddai haint y glust, y ffliw neu annwyd


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 07/12/2022 08:37:32