Meigryn

Cyflwyniad

Fel arfer, mae meigryn yn ben tost/cur pen difrifol sy'n teimlo fel poen gwyniol ar un ochr y pen.

Mae llawer o bobl yn cael symptomau eraill hefyd, fel cyfog, chwydu a sensitifrwydd ychwanegol i olau neu sŵn.

Mae meigryn yn gyflwr iechyd cyffredin sy'n effeithio ar oddeutu un o bob pump o fenywod a thuag un o bob pymtheg o ddynion. Mae fel arfer yn dechrau mewn oedolion ifanc.

Mae sawl math o feigryn, gan gynnwys:

  • meigryn gydag awra - pan geir arwyddion rhybuddiol penodol fymryn cyn i'r meigryn ddechrau, fel gweld goleuadau'n fflachio
  • meigryn heb awra - y math mwyaf cyffredin, lle mae'r meigryn yn digwydd heb yr arwyddion rhybuddiol penodol
  • meigryn awra heb ben tost/cur pen, a elwir hefyd yn feigryn distaw - pan fyddwch yn cael awra neu symptomau eraill meigryn, ond ni fydd pen tost/cur pen yn datblygu

Mae rhai pobl yn cael meigryn yn aml, hyd at sawl gwaith yr wythnos. Mae pobl eraill ond yn cael meigryn o bryd i'w gilydd.

Mae'n bosibl i flynyddoedd fynd heibio rhwng pyliau o feigryn.

Pryd i geisio cyngor meddygol

Dylech weld eich meddyg os ydych yn cael symptomau meigryn yn aml, neu'n ddifrifol.

Gall poenladdwyr syml, fel parasetamol neu ibuprofen, fod yn effeithiol ar gyfer meigryn.

Ceisiwch beidio cymryd y dos mwyaf o boenladdwyr yn rheolaidd neu'n aml gan y gallai hyn ei gwneud hi'n anoddach trin pen tost/cur pen gydag amser.

Dylech hefyd drefnu apwyntiad i weld eich meddyg os ydych yn cael meigryn yn aml (mwy na 5 diwrnod y mis), hyd yn oed os ydych yn gallu eu rheoli â meddyginiaeth, oherwydd efallai y byddech yn elwa o driniaeth ataliol.

Dylech alw 999 am ambiwlans ar unwaith os ydych chi neu rywun arall yn profi:

  • parlys neu wendid mewn un neu ddwy fraich a/neu ar un ochr yr wyneb
  • lleferydd aneglur neu garbwl
  • pen tost/cur pen sydyn arteithiol yn arwain at boen ofnadwy sy'n wahanol i unrhyw beth rydych wedi'i brofi o'r blaen
  • pen tost/cur pen ynghyd â thymheredd uchel (twymyn), gwddf anystwyth, dryswch meddwl, ffitiau, golwg dwbl a brech

Gall y symptomau hyn fod yn arwydd o gyflwr mwy difrifol, fel strôc neu meningitis, a dylai meddyg eu hasesu cyn gynted â phosibl.

Achosion meigryn

Nid yw union achos meigryn yn hysbys, er y credir ei fod digwydd o ganlyniad i newidiadau dros dro yn y cemegau, y nerfau a'r gwaedlestri yn yr ymennydd.

Mae gan ryw hanner yr holl bobl sy'n dioddef meigryn berthynas agos sydd â'r cyflwr hefyd, sy'n awgrymu bod genynnau yn chwarae rôl.

Mae rhai pobl yn sylwi bod pyliau o feigryn yn gysylltiedig â sbardunau penodol, a all gynnwys:

  • dechrau'r mislif 
  • straen 
  • blinder
  • rhai bwydydd neu ddiodydd

Trin meigryn

Nid oes iâchad ar gyfer meigryn, ond mae nifer o driniaethau ar gael i helpu lleihau'r symptomau.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • poenladdwyr - gan gynnwys meddyginiaeth dros y cownter fel parasetamol ac ibuprofen
  • meddyginiaethau triptan - meddyginiaethau sy'n gallu helpu i wrthdroi'r newidiadau yn yr ymennydd a all achosi meigryn
  • cyffuriau gwrthgyfog - meddyginiaethau a ddefnyddir yn aml i helpu lleddfu teimladau cyfog neu chwydu unigolion

Yn ystod pwl, mae nifer o bobl yn gweld bod cysgu neu orwedd mewn ystafell dywyll yn gallu helpu hefyd.

Atal meigryn

Os ydych yn amau bod sbardun penodol yn achosi eich meigryn, fel straen neu fath penodol o fwyd, gall osgoi'r sbardun hwn helpu lleihau'ch risg o gael meigryn.

Gall hefyd eich helpu i gynnal ffordd iach o fyw yn gyffredinol, gan gynnwys ymarfer corff, cysgu a phrydau bwyd rheolaidd, yn ogystal â sicrhau eich bod yn yfed digon ac yn cyfyngu ar faint o gaffein ac alcohol rydych yn ei yfed.   

Os yw eich meigryn yn ddifrifol neu os ydych chi wedi ceisio osgoi sbardunau posibl ond rydych o hyd yn dioddef symptomau, efallai gall eich meddyg teulu ragnodi meddyginiaeth i helpu atal pyliau pellach.

Mae meddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio i atal meigryn yn cynnwys y feddyginiaeth gwrthffitiau, topiramate, a meddyginiaeth o'r enw propranolol, sydd fel arfer yn cael ei defnyddio i drin pwysedd gwaed uchel.

Gall gymryd sawl wythnos cyn i'ch symptomau meigryn ddechrau gwella. 

Rhagolwg

Gall meigryn effeithio'n ddifrifol ar ansawdd eich bywyd a'ch atal rhag gwneud eich gweithgareddau dyddiol arferol.

Mae angen i rai pobl aros yn y gwely am ddiwrnodau ar y tro.

Fodd bynnag, mae nifer o driniaethau effeithiol ar gael i leihau'r symptomau ac atal pyliau pellach o feigryn.

Weithiau, gall pyliau o feigryn waethygu gydag amser, ond maent yn tueddu i wella yn raddol dros nifer o flynyddoedd i'r rhan fwyaf o bobl.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 11/01/2024 09:54:03