Yr eryr

Cyflwyniad

Shingles
Shingles

Cyflwynwyd brechiad rhag yr eryr arferol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 2013 ac o 1 Medi 2023 mae ar gael i bobl 65 oed a 70 i 79 oed a phobl 50 oed a throsodd sydd â gwrthimiwnedd difrifol.

Mae'r eryr yn haint sy'n achosi brech boenus.

Gwirio os ydych wedi cael yr eryr

Gall arwyddion cyntaf yr eryr fod:

  • yn deimlad gogleisiol neu'n deimlad poenus ar ardal o groen
  • cur pen/pen tost neu deimlo'n anhwylus yn gyffredinol 

Fel arfer, bydd brech yn ymddangos ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach.

Byddwch yn cael yr eryr ar eich brest neu'ch bol fel arfer, ond gall ymddangos ar eich wyneb, llygaid ac organau cenhedlu.

Bydd brech yr eryr yn ymddangos fel blotiau coch ar eich croen, ar un ochr eich corff yn unig fel arfer. Mae'n annhebygol mai'r eryr yw brech ar ddwy ochr eich corff.

Mae'r blotiau'n troi'n bothelli coslyd sy'n gollwng hylif. Ymhen ychydig ddiwrnodau, bydd y pothelli yn sychu ac yn cramennu.

Bydd y croen yn boenus hyd nes bydd y frech wedi diflannu.

Os bydd yn effeithio ar eich llygad, gall yr eryr wneud i'ch llygad fod yn goch ac yn ddolurus, effeithio ar eich golwg neu'ch clyw, neu ei gwneud hi'n anodd symud un ochr eich wyneb.

Os credwch y gallai fod gennych yr eryr, ceisiwch gyngor gan GIG 111 Cymru cyn gynted â phosibl.

Gall fod angen meddyginiaeth arnoch i'ch helpu i wella'n gynt ac osgoi problemau sy'n para'n hirach.

Bydd y feddyginiaeth yn gweithio orau os byddwch yn ei chymryd o fewn 3 diwrnod o ddechrau'ch symptomau.

Sut i drin symptomau'r eryr eich hun

Gwnewch y canlynol:

  • cymerwch barasetamol i leddfu'r poen
  • cadwch y frech yn lân ac yn sych i leihau risg haint
  • gwisgwch ddillad llac
  • defnyddiwch glwtyn oer (bag o lysiau rhewedig wedi'i lapio mewn tywel neu glwtyn gwlyb) ychydig droeon y dydd 

Peidiwch:

  • gadael i orchuddion neu blastrau lynu wrth y frech
  • defnyddio hufen gwrthfiotig - mae hyn yn arafu'r gwella

Pa mor hir mae'r eryr yn para

Gall gymryd hyd at 4 wythnos i'r frech wella.

Gall eich croen fod yn boenus am wythnosau ar ôl i'r frech ddiflannu, ond bydd yn gwella gydag amser, fel arfer. Mae rhai pobl yn cael poen am gyfnod hirach o lawer.

Cadwch draw rhag rhai grwpiau o bobl os yw'r eryr arnoch

Ni allwch ledaenu'r eryr i bobl eraill, ond gallai pobl sydd heb gael brech yr ieir ddal brech yr ieir gennych chi.

Mae hyn yn digwydd oherwydd firws brech yr ieir sy'n achosi'r eryr.

Ceisiwch osgoi:

  • menywod beichiog sydd heb gael brech yr ieir o'r blaen
  • pobl â system imiwnedd wan - fel rhywun sy'n cael cemotherapi
  • babanod sy'n llai na mis oed - oni bai mai'ch baban chi ydyw, oherwydd dylai eich system imiwnedd amddiffyn eich baban rhag y firws

Pwysig

Cadw'ch draw o'r gwaith neu'r ysgol os bydd y frech yn gollwng hylif (yn diferu) ac ni allwch ei gorchuddio - neu hyd nes bydd y frech wedi sychu.

Byddwch yn heintus i bobl eraill dim ond tra bydd y frech yn gollwng hylif.

Gallwch orchuddio'r frech gyda dillad llac neu orchudd nad yw'n ludiog.

Yr eryr a beichiogrwydd

Os ydych chi'n feichiog ac yn cael yr eryr, nid oes perygl i'ch beichiogrwydd na'ch baban.

Ond, dylech gael eich cyfeirio at arbenigwr, oherwydd gallai fod angen triniaeth wrthfirol arnoch.

Ni allwch gael yr eryr gan rywun sydd â brech yr ieir

Ni allwch gael yr eryr gan rywun sydd â'r eryr neu frech yr ieir.

Ond gallwch ddal brech yr ieir gan rywun sydd â'r eryr os nad ydych wedi cael brech yr ieir o'r blaen.

Pan fydd pobl yn cael brech yr ieir, mae'r firws yn aros yn y corff. Mae'n bosibl i'r firws gael ei adfywio yn ddiweddarach ac achosi'r eryr os bydd system imiwnedd rhywun wedi'i wanhau.

Gall hyn ddigwydd oherwydd straen, cyflyrau penodol, neu driniaethau fel cemotherapi.

Brechiad rhag yr eryr

Mae brechlyn yr eryr am ddim ar gael gan GIG Cymru ar gyfer pobl 65 a 70 i 79 oed a phobl 50 oed a hŷn sydd â gwrthimiwnedd difrifol. Mae'n helpu i leihau eich risg o gael yr eryr.

Mae’r brechlyn eryr yn helpu i’ch diogelu drwy roi hwb i’ch imiwnedd a lleihau eich risg o gael yr eryr. Os cewch yr eryr ar ôl cael eich brechu, mae'r symptomau'n debygol o fod yn llawer mwynach.

Holwch yn eich meddygfa i weld a allwch gael y brechiad drwy'r GIG.

Dysgwch ragor am bwy sy'n gallu cael y brechlyn rhag yr eryr.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/09/2023 12:47:46