Pydredd dannedd

Cyflwyniad

Tooth decay
Tooth decay

Mae pydredd dannedd yn ddifrod i ddant ac mae'n cael ei achosi wrth i blac deintyddol droi siwgrau yn asid. 

Os gadewir i blac gronni, gall arwain at broblemau, fel tyllau yn y dannedd (carïedd dannedd) a chlefyd y deintgig.

Gall hyn arwain at grawniadau deintyddol. Casgliadau o grawn yw'r rhain wrth waelod y dant neu yn y deintgig. 

Symptomau pydredd dannedd 

Efallai na fydd pydredd dannedd yn achosi poen, ond gallech fod â'r canlynol:

  • y ddannoedd – naill ai poen parhaus sy'n eich cadw chi ar ddihun neu boen miniog achlysurol heb achos amlwg
  • dannedd sensitif – gallech deimlo tynerwch neu boen wrth fwyta neu yfed rhywbeth poeth, oer neu felys 
  • smotiau llwyd, brown neu ddu yn ymddangos ar eich dannedd 
  • anadl ddrwg 
  • blas annymunol yn eich ceg 

Defnyddiwch ein Gwiriwr Symptomau Deintyddol.

Gweld deintydd

Os ydych chi'n amau bod gennych bydredd dannedd, ffoniwch eich deintyddfa.

Os nad oes gennych ddeintydd rheolaidd, ffoniwch rif y llinell cymorth deintyddol ar gyfer eich ardal.

Ewch at y deintydd am archwiliadau mor aml ag y byddant yn cael eu hargymell, fel y gallant ddarganfod pydredd dannedd cyn gynted â phosibl.

Mae'n haws ac yn rhatach trin pydredd dannedd yn gynnar. 

Gall deintyddion ddarganfod pydredd dannedd a phroblemau pellach yn ystod archwiliad neu trwy wneud pelydr-X.

Chwiliwch am eich deintydd agosaf yma.

Triniaethau ar gyfer pydredd dannedd 

Pydredd dannedd ar y cychwyn 

Mae'n bosibl gwrthwneud pydredd dannedd ar y cychwyn, sef cyn bod twll wedi ffurfio yn y dant, trwy:

  • leihau faint o fwydydd a diodydd siwgraidd rydych chi'n eu bwyta a'u hyfed, a pha mor aml 
  • brwsio eich dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid

Gall eich deintydd roi gel neu farnais fflworid ar y dant dan sylw.

Mae fflworid yn cryfhau'r enamel, gan wella gallu dannedd i wrthsefyll asidau o blac sy'n achosi pydredd dannedd. 

Triniaethau ar gyfer tyllau mewn dannedd 

Pan fydd twll yn y dant, gall triniaeth gynnwys:

  • llenwad neu gorun – mae hyn yn cynnwys tynnu'r pydredd deintiol a llenwi'r twll neu orchuddio'r dant 
  • triniaeth sianel y gwreiddyn – tynnu pydredd sydd wedi lledaenu i ganol y dant lle mae'r gwaedlestri a'r nerfau (y bywyn) 
  • tynnu rhan o'r dant neu'r cyfan ohono – hyn sy'n cael ei gynghori pan fydd difrod mawr i'r dant ac nid yw'n gallu cael ei adfer.

Cost triniaeth y GIG

Mae'r llywodraeth yn gosod costau'r GIG ac maen nhw'n safonol i holl gleifion y GIG. Caiff costau eu hasesu'n flynyddol ac maent yn newid bob mis Ebrill, fel arfer. 

Nid oes rhaid i rai pobl dalu am driniaeth ddeintyddol, gan gynnwys plant, menywod beichiog a mamau newydd. 

Gall help ariannol fod ar gael hefyd i bobl ar incwm isel.

Darllenwch fwy am:

Costau deintyddol y GIG a chael help gyda chostau deintyddol.

Mae cost triniaeth ddeintyddol breifat yn amrywio. Nid oes pris gosod. Os byddwch chi'n dewis gweld deintydd preifat, cytunwch ar y gost cyn dechrau cael triniaeth. 

Atal pydredd dannedd mewn oedolion 

Mae'n bosibl atal pydredd dannedd.

Y ffordd orau o osgoi pydredd dannedd a chadw eich deintgig mor iach â phosibl yw trwy:

  • ymweld â'ch deintydd yn rheolaidd – bydd eich deintydd yn penderfynu pa mor aml y mae angen iddo eich gweld chi 
  • bwytewch ac yfwch lai o fwydydd a diodydd siwgraidd a startsh
  • Osgowch fwyta rhwng prydau neu o fewn awr cyn mynd i'r gwely 
  • Mae rhai meddyginiaethau'n cynnwys siwgr, felly chwiliwch am rai heb siwgr, lle y bo'n bosibl 
  • Brwsiwch eich dannedd gyda phast dannedd fflworid ddwywaith y dydd 
  • Defnyddiwch edau ddeintiol a brwsh rhyngddeintiol unwaith y dydd 
  • Ewch i weld eich deintydd neu feddyg teulu os oes gennych geg sych yn gyson – gall rhai meddyginiaethau, triniaethau neu gyflyrau meddygol achosi hyn 

Diogelu dannedd eich plant 

Gall sefydlu arferion bwyta da helpu eich plentyn i osgoi pydredd dannedd. Cyfyngwch ar faint o fyrbrydau a diodydd siwgraidd y mae'n eu hyfed a'u bwyta.

Dylai plant frwsio eu dannedd ddwywaith y dydd gan ddefnyddio past dannedd fflworid. Mae angen help ar blant o dan 8 oed lanhau eu dannedd. Gall fod angen help arnynt y tu hwnt i hyn, yn dibynnu ar anghenion y plentyn unigol. 

Am fwy o wybodaeth, gweler gwefan Cynllun Gwên

Beth sy'n achosi pydredd dannedd 

Mae bacteria sy'n byw yn y geg yn llunio gorchudd gludiog dros y dannedd, o'r enw plac deintiol.

Pan fyddwch chi'n bwyta ac yn yfed bwydydd a diodydd sy'n cynnwys siwgr, mae bacteria yn y plac yn troi'r siwgr yn egni. Ar yr un pryd, maen nhw'n cynhyrchu asid, sy'n gallu difrodi dannedd.

Gall yr asid dorri arwyneb eich dant i lawr, gan achosi tyllau. Heb driniaeth, gall y twll fynd yn ddyfnach a mynd yn boenus.

Yn y pen draw, gall y bacteria achosi haint yn y dant o'r enw crawniad deintiol. Os na chaiff ei drin, gall yr haint ledaenu i'r asgwrn wrth waelod y dant. Gall hyn arwain at chwyddo.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/03/2024 11:33:59