Anemia, diffyg Fitamin B12 a ffolad

Cyflwyniad

Anaemia, vitamin B12 and folate deficiency
Anaemia, vitamin B12 and folate deficiency

Bydd anemia diffyg fitamin B12 neu anemia diffyg ffolad yn datblygu pan fydd diffyg fitamin B12 neu ffolad yn achosi i'r corff ddatblygu celloedd coch y gwaed anarferol o fawr nad ydyn nhw'n gallu gweithio'n briodol.

Prif symptomau anemia diffyg fitamin B12 neu anemia diffyg ffolad yw:

  • blinder
  • syrthni (diffyg egni)

Dylech chi weld eich meddyg teulu os ydych yn teimlo blinder neu syrthni'n gyson. Os yw'n amau bod anemia gennych, gofynnir i chi gael prawf gwaed i gadarnhau'r diagnosis.

Darllenwch mwy am gwneud diagnosis o anemia diffyg fitamin B12 neu anemia diffyg ffolad.

Anemia

Mae sawl math gwahanol o anemia, ac mae achos gwahanol i bob un ohonynt. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar anemia sy'n cael ei achosi gan ddiffyg fitamin B12 neu ffolad yn y corff.

Mae hefyd yn ymdrin ag anemia dinistriol, sef achos mwyaf cyffredin diffyg fitamin B12. Darllenwch mwy am achosion anemia diffyg fitamin B12 neu ffolad.

I gael gwybodaeth am anemia sy'n datblygu pan na fydd y corff yn cynnwys digon o haearn, darllenwch anemia diffyg haearn.

Fitamin B12 a ffolad

Mae fitamin B12 a ffolad yn gweithio gyda'i gilydd i helpu cynhyrchu celloedd coch y gwaed. Mae nifer o swyddogaethau pwysig eraill ganddynt hefyd:

  • mae fitamin B12 yn helpu cadw'r system nerfol (yr ymennydd, y nerfau a llinyn asgwrn y cefn) yn iach
  • mae ffolad yn bwysig ar gyfer merched beichiog oherwydd ei fod yn lleihau risg namau geni mewn babanod heb eu geni

Mae fitamin B12 i'w gael mewn:

  • cig
  • wyau
  • cynnyrch llaeth

Y ffynhonnell orau o ffolad yw llysiau gwyrdd, fel:

  • brocoli
  • ysgewyll
  • pys

Trin anemia diffyg fitamin B12

Mae'n hawdd trin y rhan fwyaf o achosion o ddiffyg fitamin B12 a ffolad.

Bydd atchwanegiadau fitamin B12 yn cael eu rhoi drwy bigiad i gychwyn fel arfer, gan ddilyn hynny â thabledi nes bod y diffyg dan reolaeth. Mewn achosion lle ceir problemau o ran amsugno fitamin B12, fel mewn anemia dinistriol, bydd angen i chi gymryd atchwanegiadau am weddill eich oes.

Mae tabledi asid ffolig yn cael eu defnyddio i adfer lefelau ffolad, a bydd angen cymryd y rhain am bedwar mis fel arfer.

Gall gwella'ch deiet helpu i atal y cyflwr rhag dod yn ôl, gan ddibynnu ar achos sylfaenol eich diffyg fitamin B12 neu'ch diffyg ffolad.

Darllenwch mwy am sut i drin anemia diffyg fitamin B12 neu ffolad.

Mewn achosion prin, gall diffyg fitamin B12 neu ffolad arwain at gymhlethdodau, fel problemau gyda'r galon, yr ysgyfaint a'r system nerfol, a gall gynyddu eich risg o fod yn anffrwythlon. Mae modd trin y rhan fwyaf o'r cymhlethdodau hyn, fodd bynnag.

Pwy sy'n cael ei effeithio?

Mae diffyg fitamin B12 a diffyg ffolad yn fwy cyffredin mewn pobl hyn, ac mae'n effeithio ar ryw 1 o bob 10 o bobl dros 75 oed. Mae diffyg fitamin B12 yn brin mewn pobl iau, er bod pobl sy'n dilyn deiet fegan llym mewn mwy o berygl o ddatblygu diffyg fitamin B12.

Mae anemia dinistriol, sef achos mwyaf cyffredin diffyg fitamin B12, yn effeithio ar ryw 1 o bob 10,000 o bobl yng Ngogledd Ewrop.

Y Gwaed

Mae gwaed yn cynnwys hylif clir o'r enw plasma sy'n cynnwys tri math gwahanol o gelloedd:

  • celloedd gwyn y gwaed - yn rhan o system imiwnedd y corff, ac yn brwydro yn erbyn haint
  • celloedd coch y gwaed - yn cludo ocsigen o gwmpas y corff mewn sylwedd o'r enw hemoglobin
  • platennau - yn helpu'r gwaed i geulo

Hemoglobin

Mae hemoglobin yn cludo ocsigen yn y gwaed. Wrth i waed basio drwy'r ysgyfaint, mae'r hemoglobin yn tynnu molecylau ocsigen i mewn ac yn rhyddhau molecylau carbon deuocsid.

Ar ôl symud i ffwrdd o'r ysgyfaint, mae hemoglobin yn mynd â molecylau ocsigen i feinwe'r corff ac yn amsugno molecylau carbon deuocsid dros ben i fynd â nhw'n ôl i'r ysgyfaint.

Mêr yr esgyrn

Caiff celloedd coch y gwaed, sy'n cynnwys hemoglobin, eu cynhyrchu ym mêr yr esgyrn (y tu mewn i'r esgyrn mwyaf). Caiff miliynau o gelloedd newydd eu cynhyrchu bob dydd i ddisodli hen gelloedd sy'n torri i lawr.

Symptomau

Mae symptomau pob math o anemia yn amrywio, yn dibynnu beth yw achos sylfaenol yr anemia.

Fodd bynnag, mae rhai symptomau cyffredinol sy'n gysylltiedig â phob math o anemia. Mae'r symptomau hyn yn cynnwys:

  • gorflinder (blinder eithriadol)
  • syrthni (diffyg egni)
  • diffyg anadl (dyspnoea)
  • gwendid
  • cur pen / pen tost
  • tinitws (y canfyddiad o swn mewn un glust neu'r ddwy, neu'r tu mewn i'ch pen, sy'n dod o'r tu mewn i'ch corff, er enghraifft, canu yn eich clustiau)
  • colli archwaeth.

Diffyg Fitamin B12

Os yw'r anemia yn cael ei achosi gan ddiffyg fitamin B12, efallai y bydd y symptomau a restrwyd uchod gennych, yn ogystal â'r canlynol:

  • arlliw melyn i'ch croen
  • tafod dolurus a choch (llid ar y tafod)
  • wlserau y tu mewn i'ch ceg
  • synnwyr cyffwrdd yn newid, neu'n llai
  • llai o allu i deimlo poen
  • newid yn y ffordd yr ydych yn cerdded ac yn symud o gwmpas
  • golwg anesmwyth
  • anniddigrwydd
  • iselder - teimladau o dristwch eithafol sy'n para am gyfnod hir
  • seicosis - cyflwr sy'n effeithio ar eich meddwl ac yn newid y ffordd rydych chi'n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn
  • demensia - dirywiad yn eich galluoedd meddyliol, fel y cof, dealltwriaeth a'r gallu i farnu

Diffyg ffolad

Yn ogystal â symptomau cyffredinol anemia, gallai diffyg ffolad hefyd achosi:

  • colli teimlad, fel llai o synnwyr cyffwrdd neu boen
  • gwendid y cyhyrau
  • iselder

 

Achosion

Gall diffyg fitamin B12 a diffyg ffolad gael eu hachosi gan nifer o bethau sy'n effeithio ar allu'r corff i gynhyrchu celloedd coch y gwaed sy'n gweithio'n llawn (celloedd sy'n cludo ocsigen o amgylch y corff).

Mae rhai o'r rhain yn cael eu disgrifio isod.

Anemia diffyg fitamin B12

Anemia dinistriol

Yn y Deyrnas Unedig, anemia dinistriol yw'r prif beth sy'n achosi diffyg fitamin B12.

Cyflwr hunanimiwn yw anemia dinistriol sy'n effeithio ar eich stumog. Gyda chyflwr hunanimiwn, mae eich system imiwnedd (system amddiffyn naturiol y corff sy'n amddiffyn rhag salwch a haint) yn ymosod ar gelloedd iach eich corff.

Caiff fitamin B12 ei amsugno i mewn i'ch corff trwy eich stumog. Mae protein o'r enw 'ffactor cynhenid' yn cyfuno â fitamin B12 er mwyn iddo allu cael ei amsugno o'r bwyd rydych yn ei fwyta. 

Bydd anemia dinistriol yn achosi i'ch system imiwnedd ymosod ar y celloedd yn eich stumog sy'n cynhyrchu'r ffactor cynhenid. Mae hyn yn golygu na all eich corff amsugno fitamin B12 sy'n achosi diffyg.

Nid ydym yn gwybod yn union beth sy'n achosi hyn, ond mae rhai pethau'n cynyddu'ch risg o ddatblygu anemia dinistriol, gan gynnwys:

  • bod yn 60 oed - yn yr oed hwn y mae anemia dinistriol yn digwydd amlaf
  • bod yn fenyw - mae anemia dinistriol yn effeithio ar ychydig mwy o ferched na dynion
  • hanes o'r cyflwr yn y teulu - mae gan bron i draean o'r bobl sydd ag anemia dinistriol berthynas teuluol yn dioddef o'r cyflwr hefyd
  • bod â chyflwr hunanimiwn arall, fel clefyd Addison neu fitiligo - mae cysylltiad rhwng anemia dinistriol a chyflyrau hunanimiwn eraill

Deiet

Mae'r corff fel arfer yn storio digon o fitamin B12 i bara am oddeutu dwy i bedair blynedd. Fodd bynnag, mae'n bwysig i chi gael fitamin B12 yn eich deiet er mwyn sicrhau bod y cyflenwad hwn o'r fitamin yn cael ei gadw ar lefel iach. 

Mae deiet sy'n cynnwys cig, pysgod neu gynnyrch llaeth yn darparu digon o fitamin B12 fel arfer. Mae pobl nad ydyn nhw efallai'n cael digon o fitamin B12 yn eu deiet yn cynnwys feganiaid (pobl y mae eu deiet yn cynnwys bwyd o blanhigion yn unig) neu'r rheiny sydd â deiet gwael iawn am gyfnod hir.

Cyflyrau sy'n effeithio ar y stumog

Gall rhai cyflyrau'r stumog, neu lawdriniaethau sy'n cael eu gwneud ar y stumog, ei atal rhag amsugno digon o fitamin B12. Er enghraifft, mae gastrectomi (lle caiff rhan o'r stumog ei thynnu allan) yn cynyddu'ch risg o ddatblygu anemia diffyg B12.

Cyflyrau sy'n effeithio ar y coluddion

Mae rhai cyflyrau sy'n effeithio ar eich coluddion (rhan o'ch system dreulio) yn eich atal rhag amsugno cymaint o fitamin B12 ag arfer. Er enghraifft, mae clefyd Crohn (cyflwr tymor hir sy'n achosi llid yn leinin y system dreulio) weithiau'n gallu golygu nad yw eich corff yn cael digon o fitamin B12.

Meddyginiaeth

Gall rhai mathau o feddyginiaeth leihau faint o fitamin B12 sydd yn eich corff. Er enghraifft, mae atalyddion pwmp proton (meddyginiaeth sy'n trin camdreuliad) yn gallu gwneud diffyg fitamin B12 yn waeth. Mae atalyddion pwmp proton yn rhwystro'r stumog rhag cynhyrchu asid, sydd ei angen i ryddhau fitamin B12 o'r bwyd rydych chi'n ei fwyta.

Bydd eich meddyg teulu yn gwybod am unrhyw feddyginiaethau sy'n gallu effeithio ar eich lefelau fitamin B12, a bydd yn eich monitro os yw'n teimlo bod angen.

Anemia diffyg ffolad

Fitamin sy'n toddi mewn dwr yw ffolad, sy'n golygu nad yw eich corff yn gallu ei storio am gyfnodau hir. Mae cyflenwadau eich corff o ffolad fel arfer dim ond yn ddigon i bara am bedwar mis. Mae hyn yn golygu bod angen i chi gael ffolad yn eich diet bob dydd i sicrhau bod gan eich corff gyflenwadau digonol o'r fitamin.

Fel anemia diffyg fitamin B12, gall anemia diffyg ffolad ddatblygu am nifer o resymau, ac mae rhai ohonynt wedi'u hamlinellu isod.

Deiet

Nid yw rhai pobl yn cael digon o ffolad yn eu deiet bob dydd. Gall hyn fod oherwydd:

  • eu bod wedi newid eu deiet yn ddiweddar - er enghraifft, i golli pwysau
  • nad yw eu deiet yn ddigon iach a chytbwys

Camamsugno

Weithiau, nid yw'ch corff yn gallu amsugno ffolad mor effeithiol ag y dylai. Mae hyn fel arfer yn digwydd o ganlyniad i gyflwr sylfaenol sy'n effeithio ar eich system dreulio, fel Clefyd coeliag.

Troethi gormodol

Efallai eich bod yn colli ffolad o'ch corff os ydych chi'n troethi'n aml. Gall hyn gael ei achosi oherwydd cyflwr sylfaenol sy'n effeithio ar un o'ch organnau, fel yr arennau neu'r iau.

Gall y canlynol achosi i chi droethi'n aml:

  • methiant gorlenwol y galon - lle nad yw'r galon yn gallu pwmpio digon o waed o gwmpas y corff
  • difrod acíwt i'r iau - sy'n digwydd yn aml o ganlyniad i yfed gormod o alcohol
  • dialysis tymor hir - lle bydd peiriant dialysis yn hidlo cynhyrchion gwastraff o'r gwaed

 Meddyginiaeth

Mae rhai mathau o feddyginiaeth yn lleihau faint o ffolad sydd yn eich corff, neu'n gwneud y ffolad yn anoddach ei amsugno. Bydd eich meddyg teulu yn gwybod am unrhyw feddyginiaethau sy'n gallu effeithio ar eich lefelau ffolad, a bydd yn eich monitro os yw'n teimlo bod angen.

Achosion eraill

Weithiau, mae angen mwy o ffolad nag arfer ar eich corff. Gall hyn achosi diffyg ffolad oherwydd nad ydych chi'n gallu bodloni galw'ch corff am y fitamin. Efallai bod angen mwy o ffolad nag arfer ar eich corff pan fyddwch:

  • yn feichiog
  • yn dioddef o ganser
  • ag anhwylder gwaed, fel anemia cryman-gell (anhwylder etifeddol sy'n achosi i'r celloedd gwaed newid eu siâp)
  • yn ymladd haint neu gyflwr iechyd sy'n achosi llid (cochni a chwyddo)

Mae babanod cyn amser (babanod sy'n cael eu geni cyn wythnos 37 o'r beichiogrwydd) hefyd yn fwy tueddol o ddatblygu anemia diffyg ffolad oherwydd nad yw eu cyrff sy'n datblygu yn gallu bodloni'r galw am y fitamin.

Beichiogrwydd

Os ydych yn feichiog neu'n cynllunio i fynd yn feichiog, dylech gymryd atchwanegiad dyddiol o 0.4mg o asid ffolig am 12 wythnos gyntaf eich beichiogrwydd. Bydd hyn yn sicrhau eich bod chi a'ch babi yn cael digon o ffolad, a bydd yn helpu'ch babi i dyfu a datblygu.

Gallwch gael tabledi asid ffolig ar bresgripsiwn gan eich meddyg teulu neu gallwch eu prynu dros y cownter o:

  • fferyllfeydd
  • archfarchnadoedd mawr
  • siopau bwydydd iach

Os ydych chi'n feichiog ac mae gennych gyflwr arall hefyd sy'n gallu cynyddu angen eich corff am ffolad, fel y rhai y soniwyd amdanynt uchod, bydd eich meddyg teulu'n eich monitro yn fanwl er mwyn eich atal rhag mynd yn anemig.

Mewn rhai achosion, gall fod angen dos uwch o asid ffolig arnoch. Er enghraifft, os oes diabetes gennych (cyflwr hirdymor yn cael ei achosi gan ormod o glwcos yn y gwaed) dylech gymryd atchwanegiad 5mg o asid ffolig yn lle'r 0.4mg safonol.

Diagnosis

Os yw eich meddyg teulu yn amau bod gennych anemia diffyg B12 neu ffolad, bydd yn gofyn i chi gael prawf gwaed er mwyn cadarnhau'r diagnosis.

Bydd prawf cyfrif gwaed llawn yn cael ei gynnal i fesur mathau gwahanol o gelloedd gwaed yn y sampl.

Yn benodol, bydd eich meddyg teulu'n gwirio:

  • a oes gennych lai o hemoglobin na'r arfer
  • a yw celloedd coch y gwaed yn fwy na'r arfer
  • faint o fitamin B12 sydd yn eich gwaed
  • faint o ffolad sydd yn eich gwaed

Os yw eich canlyniadau prawf yn dangos bod gennych ddiffyg fitamin B12 neu ffolad, bydd yn helpu i bennu pa fath o anemia sydd gennych.

Efallai y bydd angen cynnal rhagor o brofion i bennu achos sylfaenol eich diffyg ac i benderfynu ar y driniaeth fwyaf priodol.

Darllenwch mwy am sut caiff anemia diffyg fitamin B12 neu ffolad ei drin.

Cyfeirio

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y cewch eich cyfeirio at arbenigwr. 

Hematolegydd

Meddyg sy'n arbenigo mewn trin cyflyrau gwaed yw hematolegydd.

Mae'n debygol y cewch chi'ch cyfeirio at hematolegydd os oes gennych anemia diffyg B12 neu ffolad ac rydych chi'n feichiog. 

Byddwch hefyd yn cael eich cyfeirio at hematolegydd os ydych chi'n dangos bod eich system nerfol (yr ymennydd, nerfau a llinyn asgwrn y cefn) wedi'i heffeithio. Gall y symptomau hyn gynnwys:

  • llai o synnwyr cyffwrdd a phoen, neu newid ynddo
  • newid yn eich golwg
  • anallu i reoli eich cyhyrau

Gastroenterolegydd

Meddyg sy'n arbenigo mewn trin cyflyrau sy'n effeithio ar y system dreulio yw gastroenterolegydd. Os yw eich meddyg teulu yn amau nad oes gennych ddigon o fitamin B12 neu ffolad gan nad yw eich system dreulio yn ei amsugno'n iawn, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at gastroenterolegydd.

Deietegydd

Gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n arbenigo mewn maeth yw deietegydd. Gall deietegydd roi cyngor i chi am eich deiet.

Os tybir bod eich diffyg fitamin B12 neu ffolad yn cael ei achosi gan ddeiet gwael, byddwch yn cael eich cyfeirio at ddeietegydd. Bydd yn gallu llunio cynllun bwyta personol er mwyn helpu cynyddu faint o fitamin B12 a ffolad rydych yn ei fwyta.

Darllenwch mwy am fitaminau B ac asid ffolig

Triniaeth

Bydd y driniaeth ar gyfer anemia diffyg fitamin B12 neu ffolad yn dibynnu ar beth sy'n achosi'r cyflwr.

Ceir amlinelliad isod o'r gwahanol driniaethau.

Anemia diffyg fitamin B12

Caiff anemia diffyg fitamin B12 fel arfer ei drin gan ddefnyddio pigiadau o fitamin B12. Mae'r fitamin ar ffurf sylwedd sy'n cael ei adnabod fel hydroxocobalamin.

Fel arfer, byddwch yn cael pigiadau bob yn ail ddiwrnod am bythefnos, neu nes bod eich symptomau wedi stopio gwella. Eich meddyg teulu neu'r nyrs fydd yn rhoi'r pigiadau i chi.

Ar ôl y driniaeth gychwynnol, bydd eich dos yn dibynnu ar a yw'r hyn sy'n achosi eich diffyg fitamin B12 yn ymwneud â'ch deiet neu beidio.

Cysylltwch gyda eich Meddyg Teulu am fwy o wybodaeth am pryd cewch y pigiadau.

Cysylltiedig â deiet

Os yw eich diffyg fitamin B12 yn cael ei achosi gan ddiffyg y fitamin yn eich deiet, efallai y byddwch yn cael tabledi fitamin B12 ar bresgripsiwn i'w cymryd bob dydd rhwng prydau bwyd. Fel arall, efallai bydd angen i chi gael pigiad o hydroxocobalamin ddwywaith y flwyddyn.

Efallai bydd angen i bobl sy'n ei chael yn anodd cael digon o fitamin B12 yn eu deiet, fel feganiaid (pobl y mae eu deiet yn cynnwys bwyd o blanhigion yn unig), gymryd tabledi fitamin B12 trwy gydol eu hoes. I bobl eraill, bydd eich meddyg teulu yn gallu stopio eich tabledi pan fydd eich lefelau fitamin B12 yn dychwelyd i'r hyn y dylent fod a bod eich deiet wedi gwella.

Mae ffynonellau da o fitamin B12 yn cynnwys:

  • cig
  • eog
  • llaeth
  • wyau

Os ydych chi'n llysieuwr, neu'n fegan, neu eich bod yn dymuno bwyta bwydydd eraill yn lle cynnyrch cig a llaeth, mae rhai bwydydd eraill sy'n cynnwys fitamin B12, fel:

  • rhai grawnfwydydd brecwast wedi'u cryfhau
  • rhai cynnyrch soi

Gallwch wirio'r labeli maeth ar y bwydydd hyn i weld faint o fitamin B12 y maent yn ei gynnwys.

Darllenwch mwy am ffynonellau da o fitaminau B a ffoladau.

Heb fod yn gysylltiedig â deiet

Os nad yw eich diffyg fitamin B12 yn cael ei achosi gan ddiffyg fitamin B12 yn eich deiet, bydd angen i chi fel arfer gael pigiad o hydroxocobalamin bob tri mis am weddill eich bywyd.

Os ydych wedi cael symptomau niwrolegol (symptomau sy'n effeithio ar eich system nerfol, fel newid yn y synnwyr cyffwrdd) oherwydd diffyg fitamin B12, cewch eich cyfeirio at hematolegydd (meddyg sy'n arbenigo mewn cyflyrau'r gwaed). Efallai y bydd angen i chi gael pigiadau bob deufis. Bydd eich hematolegydd yn dweud wrthych pa mor hir fydd angen i chi gael y pigiadau.

Os bydd angen pigiadau amnewid o fitamin B12 arnoch, mae hydroxocobalamin yn cael ei ddewis dros cyanocobalamin yn y DU. Mae hyn oherwydd bod hydroxocobalamin yn aros yn y corff yn hirach.

Os bydd angen pigiadau rheolaidd o fitamin B12 arnoch, bydd angen i cyanocobalamin gael ei roi unwaith y mis, ond gellir rhoi hydroxocobalamin bob tri mis.

O ganlyniad i hyn, nid yw pigiadau cyanocobalamin yn cael eu hargymell ac nid ydynt ar gael ar y GIG fel arfer. Fodd bynnag, os oes angen tabledi amnewid o fitamin B12 arnoch, cyanocobalamin fydd y rhain.

Anemia diffyg ffolad

I drin anemia diffyg ffolad, bydd eich meddyg teulu fel arfer yn rhoi tabledi asid ffolig ar bresgripsiwn i chi i'w cymryd yn ddyddiol er mwyn adeiladu eich lefelau ffolad. Efallai y bydd hefyd yn rhoi cyngor am ddeiet i chi er mwyn i chi allu cynyddu faint o ffolad rydych yn ei fwyta.

Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gymryd tabledi asid ffolig am ryw bedwar mis. Fodd bynnag, os yw achos sylfaenol yr anemia diffyg ffolad yn barhaus, efallai y bydd angen i chi gymryd tabledi asid ffolig am gyfnod hwy, ac efallai am oes.

Cyn i chi ddechrau cymryd asid ffolig, bydd eich meddyg teulu yn gwirio eich lefelau fitamin B12 er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn normal. Mae hyn oherwydd y gall triniaeth asid ffolig weithiau wella eich symptomau cymaint fel ei bod yn cuddio diffyg fitamin B12 sylfaenol. Os na chaiff y diffyg fitamin B12 ei ddarganfod a'i drin, gallai effeithio ar eich system nerfol (ymennydd, nerfau a llinyn asgwrn y cefn).

 Monitro eich cyflwr

I sicrhau bod eich triniaeth yn gweithio, bydd angen monitro eich lefelau fitamin B12 a ffolad yn fanwl.

Wedi ichi ddechrau ar driniaeth gall fod angen prawf gwaed arnoch chi i sicrhau bod eich lefelau fitamin B12 a ffolad yn dechrau cynyddu. Caiff hyn ei drefnu gan eich meddyg teulu.

Rhyw 10 diwrnod ar ôl dechrau'r driniaeth, bydd angen i chi gael prawf gwaed i wirio bod eich lefelau fitamin B12 neu ffolad yn dechrau codi. Bydd angen i chi gael prawf gwaed arall wedyn ar ôl tuag wyth wythnos i gadarnhau bod eich triniaeth wedi llwyddo.

Os ydych wedi bod yn cymryd tabledi asid ffolig, efallai y byddwch yn cael prawf arall ar ôl i'r driniaeth ddod i ben (ar ôl rhyw bedwar mis fel arfer)

Ni fydd angen monitro pellach ar y rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael diffyg fitamin B12 neu ffolad oni bai bod eu symptomau yn dychwelyd, neu os nad yw eu triniaeth yn effeithiol. Os yw eich meddyg teulu yn teimlo bod angen, efallai y bydd yn rhaid i chi ddychwelyd i gael prawf gwaed bob blwyddyn, er mwyn gwneud yn siwr nad yw eich cyflwr wedi dychwelyd.

Cymhlethdodau

Gan fod modd trin y rhan fwyaf o achosion o ddiffyg fitamin B12 neu ffolad yn hawdd ac yn effeithiol, mae cymhlethdodau yn gymharol brin.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall cymhlethdodau ddatblygu, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn ddiffygiol mewn fitamin B12 neu ffolad ers cryn amser.

Cymhlethdodau anemia

Mae anemia, beth bynnag sy'n ei achosi, yn gallu arwain at gymhlethdodau yn ymwneud â'r galon a'r ysgyfaint, gan fod y galon yn cael anhawster pwmpio ocsigen i'r organau hanfodol.

Mae oedolion sy'n dioddef o anemia difrifol mewn perygl o ddatblygu:

  • chwimguriad y galon – curiad calon anarferol o gyflym
  • methiant y galon – lle nad yw eich calon yn pwmpio gwaed o amgylch eich corff yn effeithiol iawn

Cymhlethdodau yn sgil diffyg fitamin B12

Gall diffyg fitamin B12 achosi'r cymhlethdodau canlynol:

Y system nerfol

Gall diffyg fitamin B12 effeithio ar eich system nerfol (yr ymennydd, y nerfau a llinyn asgwrn y cefn). Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael:

  • problemau â'ch golwg
  • anghofrwydd
  • paraesthesia (pinnau bach) – teimlad o bigo neu ferwino yn y breichiau, y dwylo neu'r traed
  • atacsia – colli cydsymudiad corfforol, sy'n gallu effeithio ar eich corff cyfan ac achosi anhawster siarad neu gerdded

Ffrwythlondeb

Gall diffyg fitamin B12 weithiau achosi anffrwythlondeb dros dro (anallu i genhedlu).

Diffygion y tiwb nerfol

Os ydych chi'n feichiog, gall peidio â chael digon o fitamin B12 gynyddu'r perygl y bydd eich babi yn datblygu diffyg y tiwb nerfol. Mae diffygion y tiwb nerfol yn effeithio ar dwf a datblygiad eich babi. Mae enghreifftiau o ddiffygion y tiwb nerfol yn cynnwys:

  • spina bifida - lle nad yw asgwrn cefn y babi yn ffurfio'n gywir
  • anenceffali - lle nad yw ymennydd ac esgyrn penglog y babi yn ffurfio'n gywir

Cymhlethdodau diffyg ffolad

Mae diffyg ffolad yn gallu achosi cymhlethdodau, ac amlinellir rhai ohonynt isod.

Ffrwythlondeb

Fel gyda diffyg fitamin B12, gall diffyg ffolad hefyd effeithio ar eich ffrwythlondeb. Fodd bynnag, mae'r effeithiau yn rhai dros dro yn unig, a gellir eu gwrth-droi trwy ddefnyddio atchwanegiadau fitamin.

Clefyd cardiofasgwlaidd

Mae ymchwil wedi dangos y gall diffyg ffolad yn eich corff gynyddu eich perygl o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn derm sy'n disgrifio nifer o gyflyrau iechyd sy'n effeithio ar:

  • eich calon
  • eich gwaedlestri
  • y ffordd y mae gwaed yn cylchredeg (llifo) o amgylch eich corff.

Canser

Mae ymchwil wedi dangos y gall diffyg ffolad fod yn gysylltiedig â rhai mathau o ganserau, fel canser y stumog. Er nad diffyg ffolad yw'r unig beth sy'n achosi i ganser ddatblygu, gall fod yn ffactor cyfrannol.

Diffygion y tiwb nerfol

Fel gyda diffyg fitamin B12, gall diffyg ffolad hefyd effeithio ar dwf a datblygiad eich babi yn y groth (wterws). Mae hyn yn cynyddu'r perygl o ddatblygu diffygion y tiwb nerfol, fel spina bifida, yn y baban heb ei eni.

Geni cyn amser

Yn ogystal â'r ffaith ei fod yn effeithio ar dwf eich babi, gall diffyg ffolad yn ystod eich beichiogrwydd hefyd gynyddu'r perygl y bydd eich babi yn cael ei eni cyn amser (cyn wythnos 37 o'r beichiogrwydd). 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 17/05/2022 13:07:11