Cwyr clust

Cyflwyniad

Fel arfer, mae cwyr clustiau yn dod allan ar ei ben ei hun. Pan mae cwyr clustiau yn blocio’ch clustiau, gall camau hunanreoli helpu.

Sut gallwch chi drin cwyr clustiau sydd wedi crynhoi?

Pwysig

Peidiwch â defnyddio’ch bysedd neu unrhyw wrthrychau megis ffyn cotwm i geisio tynnu cwyr o’ch clustiau. Bydd hyn yn gwthio’r cwyr i mewn i’r glust a gwaethygu’r sefyllfa. Gall hyn niweidio tiwb y glust hefyd, a hyd yn oed achosi rhwyg yn nhympan y glust.

Fel arfer, mae cwyr clustiau yn dod allan ar ei ben ei hun. Os nad yw’r cwyr yn dod allan ar ei ben ei hun a’i fod yn blocio’ch clustiau, rhowch dri diferyn o olew olewydd yn eich clust unwaith y dydd am saith diwrnod.

Argymhellir eich bod yn defnyddio diferwr wrth orwedd â’ch pen ar un ochr am ychydig funudau er mwyn gadael i’r olew fynd i lawr tiwbiau eich clust.

Efallai y byddai’n haws ichi wneud hyn peth cyntaf yn y bore neu cyn ichi fynd i gysgu.

Gydag amser, dylai lympiau o gŵyr clustiau ddod allan o’ch clust, yn enwedig yn ystod y nos pan rydych yn gorwedd.

Nid yw canhwyllau clust na theclynnau tynnu cwyr yn effeithiol ar gyfer trin cwyr clustiau problemus, ac maent yn gallu achosi anafiadau difrifol. Peidiwch â phrynu’r rhain, na’u defnyddio.

Gall fferyllydd eich helpu gyda chwyr clustiau sydd wedi crynhoi

Siaradwch â fferyllydd ynghylch cwyr clustiau sydd wedi crynhoi. Gall fferyllydd roi cyngor ichi ac awgrymu triniaethau, gan gynnwys y defnydd o ddiferion olew olewydd er mwyn helpu i dynnu’r cwyr o’ch clustiau.

Ar ôl tua wythnos, dylai’r cwyr clustiau doddi neu ddod o’ch clustiau ar ei ben ei hun.

Peidiwch â defnyddio diferion:

  • Os ydych chi wedi cael twll yn nhympan y glust (rhwyg yn nhympan y glust) yn y gorffennol
  • Os ydych chi wedi colli eich clyw yn sydyn neu’n gyflym
  • Os oes gennych boen neu redlif sylweddol yn dod o’ch clustiau
  • Os ydych chi wedi cael haint yn y glust yn ystod y 6 wythnos ddiwethaf
  • Os ydych chi wedi cael taflod hollt neu lawdriniaeth ar eich clust yn y gorffennol
  • Os ydych chi erioed wedi cael eich cynghori gan weithiwr iechyd proffesiynol i osgoi cael dŵr yn eich clustiau.

Os yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol i chi, cysylltwch â’ch meddyg teulu am gyngor

Atal cwyr clustiau sy’n crynhoi

Nid oes modd atal cwyr clustiau. Mae cwyr clustiau yn cael ei greu er mwyn gwarchod eich clustiau rhag baw a germau.

Gallwch barhau i ddefnyddio diferion clust i feddalu’r cwyr. Bydd hyn o gymorth i’r cwyr ddod allan ar ei ben ei hun a dylai hyn atal eich clustiau rhag blocio.

Beth sy’n achosi cwyr clustiau?

Dyma rai o’r rhesymau pam y gallech fod â chwyr clustiau sydd wedi crynhoi:

  • Mae gennych fwy o gŵyr yn eich clustiau – mae gan rai pobl fwy o gŵyr yn naturiol
  • Mae gennych diwbiau clust blewog neu gul (y tiwbiau sy’n cysylltu tympan y glust a’r glust allanol)
  • Wrth ichi fynd yn hŷn, mae’r cwyr yn caledu ac mae’n anoddach iddo ddod allan
  • Rydych yn gweithio mewn amgylchedd llychlyd
  • Rydych yn gwisgo cymhorthion clyw, plygiau clust a phethau eraill sy’n cael eu rhoi yn eich clustiau - gall y rhain wthio’r cwyr i mewn ymhellach

Sut gallwch wybod a yw eich clustiau wedi’u blocio â chwyr

Gallwch fod â:

  • Phigyn clust
  • Trafferthion clywed
  • Cosi
  • Teimlo’n benysgafn
  • Haint yn y glust
  • Eich clust yn teimlo’n llawn neu wedi’i flocio
  • Synau er enghraifft seiniau gwichlyd yn dod o du mewn y glust (tinitws)

Unwaith y mae’r cwyr wedi’i dynnu o’r glust, mae symptomau fel arfer yn gwella. Os nad ydynt yn gwella, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol am gyngor ynghylch trefnu apwyntiad y GIG i archwilio’ch clustiau a chael triniaeth briodol.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/03/2023 13:55:28