Twymyn ar Blant

Cyflwyniad

Fever in children
Fever in children

Mae tymheredd uchel yn gyffredin iawn ymhlith plant ifanc. Fel arfer, bydd yn dychwelyd i'r tymheredd arferol ymhen 3 neu 4 diwrnod.

Beth yw twymyn?

Pwysig

Mae tymheredd arferol ymhlith babanod a phlant tua 36.4C, ond gall hyn amrywio ychydig o blentyn i blentyn.

Mae twymyn yn dymheredd uchel o 38C neu uwch.

Twymyn yw ymateb naturiol y corff i ymladd heintiau fel peswch ac annwyd.

Gall llawer o bethau achosi tymheredd uchel mewn plant, o afiechydon cyffredin plentyndod, fel brech yr ieir a thonsilitis, i frechiadau.

Gwirio tymheredd uchel

Gallai eich plentyn:

  • deimlo'n fwy cynnes na'r arfer wrth gyffwrdd â'i dalcen, ei gefn neu ei fol
  • deimlo'n chwyslyd neu'n oer a llaith
  • fod â bochau coch 

Defnyddiwch thermomedr digidol i fesur tymheredd eich plentyn (gallwch brynu un o fferyllfa neu archfarchnad).

Sut i fesur tymheredd eich plentyn 

  1. Rhowch y thermomedr y tu mewn i dop y gesail.
  2. Caewch y fraich yn ofalus dros y thermomedr a dal y fraich wrth ochr y corff.
  3. Gadewch y thermomedr yn ei le am y cyfnod sy'n cael ei roi yn y daflen gyfarwyddiadau. Bydd rhai thermomedrau digidol yn gwneud swn pan fyddant yn barod.
  4. Tynnwch y thermomedr. Bydd y sgrin yn dangos tymheredd eich plentyn.

Os yw eich plentyn newydd gael bath neu wedi cael ei lapio'n dynn mewn blanced, arhoswch ychydig funudau yna mesurwch ei dymheredd eto.

Beth i'w wneud os oes gan eich plentyn dymheredd uchel

Fel arfer, gallwch ofalu am eich plentyn neu'ch baban gartref. Dylai'r tymheredd fynd i lawr dros 3 neu 4 diwrnod.

Gwnewch y canlynol

  • rhowch ddigon o ddiodydd i'ch plentyn
  • cadwch lygad allan am arwyddion dadhydradu
  • rhowch fwyd i'ch plentyn os oes awydd bwyd arno
  • cadwch lygad rheolaidd ar eich plentyn yn ystod y nos
  • cadwch y plentyn gartref
  • rhowch barasetamol neu ibuprofen iddo os yw'n aflonyddu neu'n sâl 
  • ceisiwch gyngor meddygol os ydych yn pryderu am eich plentyn

Peidiwch â gwneud y canlynol

  • dadwisgo'ch plentyn a'i oeri â dwr a sbwng – mae twymyn yn adwaith naturiol ac iach i haint
  • rhoi gormod o ddillad neu ddillad gwely drosto
  • rhoi asbrin i blant o dan 16 oed
  • cyfuno ibuprofen a pharasetamol, oni bai bod eich meddyg teulu'n dweud wrthych am wneud hynny
  • rhoi parasetamol i blentyn o dan 2 fis oed
  • rhoi ibuprofen i blentyn sydd o dan 3 mis oed neu sy'n pwyso llai na 5kg
  • rhoi ibuprofen i blant ag asthma

Darllenwch ragor am roi meddyginiaethau i blant

Mynnwch apwyntiad brys gyda'ch meddyg teulu:

  • os yw eich plentyn o dan 3 mis oed ac mae ganddo dymheredd o 38C neu uwch, neu rydych chi'n amau bod twymyn arno
  • os yw eich plentyn rhwng 3 a 6 mis oed ac mae ganddo dymheredd o 39C neu uwch, neu rydych chi'n amau bod twymyn arno
  • os oes gan eich plentyn arwyddion eraill salwch, fel brech, yn ogystal â thymheredd uchel 
  • os oes ganddo dymheredd uchel sydd wedi para 5 diwrnod neu fwy
  • os nad yw'ch plentyn eisiau bwyta, neu nid yw ei hun ac rydych chi'n pryderu
  • os oes ganddo dymheredd uchel nad yw'n gostwng wrth gymryd parasetamol neu ibuprofen
  • os yw eich plentyn yn dangos arwyddion dadhydradu – er enghraifft, nid yw ei gewynnau'n wlyb iawn, mae ei lygaid yn pylu ac nid oes dagrau pan fydd yn crïo

Ffoniwch rif 111 gyda'r nos ac ar y penwythnos.

Adnabod arwyddion salwch mwy difrifol

Mae'n eithaf anghyffredin i dwymyn fod yn arwydd o rywbeth difrifol (fel meningitis, heintiad y llwybr wrinol neu sepsis).

Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys os oes un o'r canlynol ar eich plentyn:

  • gwddf stiff
  • brech nad yw'n pylu pan fyddwch yn pwyso gwydr yn ei erbyn
  • mae golau'n ei boeni
  • mae'n cael ffit (confylsiwn twymyn) am y tro cyntaf (nid yw'n gallu stopio ysgwyd)
  • mae ganddo ddwylo neu draed anarferol o oer
  • mae ganddo groen gwelw, blotiog, glas neu lwyd
  • mae ganddo gri wan ac uchel, annhebyg i'w gri arferol
  • mae'n gysglyd ac yn anodd ei ddihuno
  • mae'n ei chael hi'n anodd anadlu ac mae'n sugno ei stumog i mewn o dan ei asennau
  • mae ganddo ardal feddal ar ei ben sy'n crymu (troi) tuag allan (ffontanél chwyddedig)

Ffoniwch GIG 111 Cymru

Os na allwch siarad â'ch meddyg teulu neu os nad ydych chi'n gwybod beth i'w wneud nesaf, ffoniwch rif 111 y GIG yng Nghymru (os yw ar gael yn eich ardal) neu 0845 46 47.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/12/2022 17:56:12