Byw’n Iach

Llinell Amser Di-Fwg

  • Ar ôl 20 munud

    Y pwysedd gwaed a churiad y galon yn dychwelyd i normal.

  • Ar ôl 1 awr

    Mae’r corff yn dechrau cael gwared tocsinau tybaco

  • Ar ôl 8 awr

    Bydd faint o garbon monocsid a nicotin sy’n y gwaed wedi haneru.

  • Ar ôl 24 awr

    Bydd eich corff wedi cael gwared â’r carbon monocsid.

    Bydd yr ysgyfaint yn dechrau clirio.

    Bydd eich siawns o gael trawiad ar y galon yn dechrau gostwng.

  • Ar ôl 48 awr

    Mae eich corff yn rhydd o nicotin a bydd eich synnwyr blas ac arogl yn gwella.

    Bydd terfynau’r nerfau yn dechrau ail-dyfu a bydd cerdded yn haws

  • Ar ôl 72 awr

    Byddwch yn anadlu’n haws a bydd gennych fwy o egni.

  • Ar ôl 2 – 12 wythnos

    Bydd cylchrediad a’r ysgyfaint yn gweithio’n well a byddwch yn ei chael hi’n haws rhedeg.

  • Ar ôl 3- 9 mis

    Dylech sylwi ar ostyngiad mewn tagu, gorlenwad sinws, blinder a phrinder anadl. Hefyd, rydych yn llai tebyg o gael haint ar y frest. Bydd swyddogaeth yr ysgyfaint wedi gwella 10%.

  • Ar ôl blwyddyn

    Mae’r risg o drawiad ar y galon wedi gostwng i hanner ar gyfer rhywun sy’n ysmygu.

  • Ar ôl 10 mlynedd

    Mae’r risg o ganser yr ysgyfaint wedi haneru - a pho fwyaf y byddwch wedi rhoi’r gorau i ysmygu, po isaf y risg.

  • Ar ôl 15 mlynedd

    Mae eich risg o drawiad ar y galon yn disgyn i’r un fath â rhywun sydd erioed wedi ysmygu.