Llosg haul

Cyflwyniad

Sunburn
Sunburn

Sylwch, mae’r pwnc hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd, felly rydym yn argymell eich bod chi’n croesgyfeirio at y fersiwn Saesneg hefyd i sicrhau eich bod chi’n cael gwybodaeth gywir a chyfredol.

Llosg haul yw niwed i'r croen sy'n cael ei achosi gan belydrau uwchfioled (UV). Mae gormod o olau UV yn gallu gwneud eich croen yn goch ac yn boenus. Yn ddiweddarach, gall hyn arwain at bilio neu bothellu.

Mae difrifoldeb llosg haul yn gallu amrywio yn ôl y math o groen sydd gennych a faint o amser y bydd y pelydrau UV ar eich croen.

Fodd bynnag, prif symptomau llosg haul yw croen coch, poenus sy'n pothellu. Efallai na fydd y symptomau'n ymddangos ar unwaith a gallant gymryd hyd at bum awr i ymddangos.

Darllenwch fwy am symptomau llosg haul.

Golau Uwchfioled

Mae ffynonellau golau uwchfioled yn cynnwys:

Bydd llosg haul yn aml yn digwydd pan fydd pelydrau'r haul ar eu cryfaf (rhwng 11am a 3pm fel arfer). Fodd bynnag, mae risg o gael eich llosgi gan yr haul mewn tywydd arall hefyd.

Er enghraifft, gall golau sy'n adlewyrchu oddi ar eira achosi llosg haul hefyd. Gall awyr gymylog neu awel wneud i chi deimlo'n oerach, ond gall golau'r haul dreiddio o hyd a niweidio'ch croen.

Pwy sy'n wynebu risg llosg haul?

Mae pawb sy'n cael eu hamlygu i olau uwchfioled yn wynebu risg llosg haul. Fodd bynnag, po leiaf o felanin sydd gennych, y llai o amddiffyniad sydd gennych rhag effeithiau golau uwchfioled.

Pigment yw melanin sy'n cael ei gynhyrchu pan fydd eich croen yn cael ei amlygu i olau'r haul. Mae'n amsugno'r ymbelydredd uwchfioled yng ngolau'r haul er mwyn helpu i amddiffyn eich croen. O ganlyniad i hyn, mae eich croen yn mynd yn dywyllach, sy'n arwydd iddo gael ei niweidio gan belydrau uwchfioled.

Os oes gennych groen golau neu wallt coch, neu os nad ydych wedi bod yn yr haul rhyw lawer, bydd eich lefelau melanin yn isel a bydd hyn yn cynyddu'ch risg o losgi'n gynt.

Darllenwch fwy am achosion llosg haul.

Mae melanin yn eich atal rhag llosgi mor hawdd ond nid yw'n atal effeithiau niweidiol eraill ymbelydredd uwchfioled.

Mae risg benodol i fabanod a phlant ifanc o ddioddef llosg haul.

Trin llosg haul

Nod triniaeth ar gyfer llosg haul yw oeri'r croen a lleddfu unrhyw boen neu symptomau. Bydd rhoi lliain oer dros yr ardal yn helpu i oeri'r croen a bydd trwythau a hufenau lleithio yn helpu i gadw'r croen yn llaith.

Bydd lleithyddion sy'n cynnwys alwys (aloe vera) yn helpu i leddfu'ch croen a gall trwyth calamin leddfu cosi neu boen.

Mewn achosion difrifol o losg haul, dylech ofyn i'ch fferyllydd am gyngor, oherwydd efallai y bydd angen triniaeth arbennig arnoch gan eich meddygfa.

Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os oes gennych losg haul a'ch bod yn teimlo llewyg, eich bod yn dadhydradu neu os oes gennych chi bothellu difrifol, neu os oes gan blentyn ifanc neu faban losg haul.

Darllenwch fwy am trin llosg haul.

Risgiau pelydrau uwchfioled

Fel arfer, mae llosg haul ysgafn yn gwella 4 i 7 niwrnod ar ôl i'ch croen gael ei amlygu i belydrau uwchfioled.

Fodd bynnag, gall niwed o losg haul gael effeithiau hirdymor ac mae amlygiad mynych i belydrau uwchfioled am gyfnodau hir yn cynyddu eich risg o ddatblygu problemau â'r croen, fel canser y croen a heneddio'n gynnar.

Darllenwch fwy am risgiau amlygiad hirdymor i belydrau uwchfioled.

Atal llosg haul

Gallwch leihau eich risg o ddatblygu canser y croen trwy amddiffyn eich croen gan ddefnyddio eli haul. Dilynwch y cyngor isod.

  • Osgowch olau haul cryf lle bynnag y bo'n bosibl, yn enwedig pan fo'r haul ar ei gryfaf, a gorchuddiwch eich croen trwy wisgo dillad llac a het.
  • Pan fyddwch yn prynu eli haul, dewiswch un sydd â ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o 15 o leiaf (gorau po uchaf) sy'n amddiffyn rhag pelydrau UVA ac UVB.
  • Rhowch haen drwchus o eli haul ar eich croen o leiaf 15 munud cyn mynd allan i'r haul a'i roi eto'n rheolaidd (o leiaf bob 2 i 3 awr). Dylai hyd yn oed elïau haul gwrth-ddwr gael eu rhoi eto ar ôl i chi ddod allan o'r dwr.
  • Mae ffon o eli haul gydag SPF uchel yn ddefnyddiol ar gyfer mannau diamddiffyn, fel eich trwyn, eich clustiau a'ch gwefusau. Mae'r mannau hyn yn dueddol o losgi'n haws.
  • Cadwch fabanod a phlant ifanc allan o olau uniongyrchol yr haul.

Ceisiwch gyngor ar unwaith gan eich meddyg teulu os byddwch yn sylwi ar newidiadau i unrhyw mannau geni, fel newid yn eu maint, eu lliw neu eu teimlad.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 15/06/2022 10:20:40