Llindag geneuol

Cyflwyniad

Oral thrush
Oral thrush

Nid yw llindag y geg yn gwneud drwg fel arfer. Mae’n gyffredin ymhlith babanod a phobl hŷn sydd â dannedd gosod. Gall gael ei drin yn hawdd gyda meddyginiaethau sy’n cael eu prynu o fferyllfa.

Gwirio ai llindag y geg ydyw

Oedolion

Bydd eich ceg yn goch y tu mewn a bydd patsys gwyn yno. Pan fyddwch yn sychu’r patsys gwyn i ffwrdd, byddant yn gadael smotiau coch sy’n gallu gwaedu.

Dyma symptomau eraill mewn oedolion:

  • craciau yng nghorneli’r geg
  • peidio â blasu pethau’n iawn
  • blas annymunol yn y geg
  • poen y tu mewn i’r geg (er enghraifft, tafod dolurus neu ddeintgig dolurus)
  • trafferth bwyta ac yfed

Nid yw llindag y geg mewn oedolion yn heintus.

Babanod

Caen gwyn ar y tafod fel caws colfran – nid yw hwn yn gallu cael ei rwbio i ffwrdd yn hawdd. Weithiau, bydd smotiau gwyn yn ei geg.

Dyma symptomau eraill mewn babanod:

  • nid ydynt am fwydo
  • brech clwt/cewyn

Gall babanod drosglwyddo llindag y geg trwy fwydo ar y fron. Gall hyn achosi llindag y deth i’r fam.

Gall fferyllydd helpu gyda llindag y geg

Mae llindag y geg yn un o’r cyflyrau sy’n dod o dan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion droi ato am gyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim ac mae ar gael o 99% o fferyllfeydd yng Nghymru.
Chwiliwch am eich fferyllfa agosaf yma.
Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaeth yma.

Gall llindag y geg gael ei drin yn hawdd gyda gel y geg sy’n cael ei brynu o fferyllfa. Mae’r gel yn addas i oedolion, plant a babanod dros 4 mis oed.

Gofynnwch i’ch fferyllydd am gyngor. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar becyn y feddyginiaeth.

Os na fyddwch yn trin llindag y geg, gall yr haint ledaenu i rannau eraill o’r corff.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os yw eich baban o dan 4 mis ac mae ganddo arwyddion o lindag y geg
  • os nad ydych yn gweld unrhyw welliant ar ôl wythnos o driniaeth gyda gel y geg
  • os ydych chi’n cael trafferth neu boen wrth lyncu

Sut gallwch chi atal llindag y geg?

Mae llindag y geg yn haint sy’n cael ei achosi gan ffwng o’r enw Candida. Mae rhai pethau’n gallu gwneud i’r ffwng dyfu’n fwy na’r arfer.

Gallech gael y llindag os ydych chi:

  • yn cymryd gwrthfiotigau am amser hir
  • yn defnyddio mewnanadlyddion asthma
  • yn cael triniaeth canser, fel cemotherapi

Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i helpu atal llindag y geg:

Gwnewch y canlynol:

  • gofalwch am eich dannedd: brwsiwch nhw ddwywaith y dydd, glanhewch eich dannedd gosod, ac ewch at y deintydd yn rheolaidd hyd yn oed os oes gennych ddannedd gosod
  • brwsiwch eich deintgig a’ch tafod gyda brwsh dannedd meddal os nad oes gennych ddannedd
  • diheintiwch ddymis yn rheolaidd
  • diheintiwch boteli ar ôl eu defnyddio bob tro
  • golchwch eich ceg ar ôl bwyta neu lyncu meddyginiaeth
  • ewch am archwiliadau rheolaidd os oes gennych gyflwr hirdymor fel diabetes

Peidiwch:

  • gwisgo eich dannedd gosod dros nos
  • dal ati i wisgo dannedd gosod os nad ydynt yn ffitio’n gywir – ewch i weld eich deintydd
  • ysmygu


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 24/03/2025 09:00:04