Straen yw'r teimlad o fod o dan bwysau. Mae straen yn effeithio pobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol a bydd gan unigolion symptomau meddyliol a chorfforol gwahanol o straen.
Fodd bynnag, weithiau, nid oes unrhyw achosion clir i straen. Mae rhai pobl yn naturiol yn teimlo'n fwy rhwystredig, pryderus, neu'n isel nag eraill, a all hyn eu harwain at deimlo dan straen yn fwy aml.
Mae'n bwysig siarad â rhywun am eich teimladau yn enwedig os yw'n amharu ar eich bywyd bob dydd. Siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych o dan straen neu o dan ormod o bwysau. Mae yna bethau gwahanol y gall eich meddyg teulu ei awgrymu. Gall y driniaeth yn dibynnu ar achos sylfaenol eich straen, y symptomau rydych yn eu dioddef neu a ydych wedi cael diagnosis o unrhyw cyflyrau eraill. Mae rhai o'r triniaethau yn cael eu hamlinellu isod (cliciwch ar y driniaeth rydych eisiau gwybod mwy amdano) :-
Ystyriwch hyn sy'n gwneud i chi deimlo dan straen a sut rydych yn ymddwyn/ymateb yn yr amgylchiadau hyn. Meddyliwch am ffyrdd y gallwch reoli'r pwysau hynny er mwyn i chi ddelio â hwy mewn ffyrdd gwahanol. Os ydych yn poeni am bethau y tu hwnt i'ch reolaeth - ceisiwch beidio. Yn hytrach meddyliwch am bethau sydd o fewn eich rheolaeth e.e. eich llwyth gwaith, neu eich amser i ffwrdd o'r gwaith. Dysgwch sut i ddweud 'na'. Gwnewch restr o'r blaenoriaethau newydd y gallwch wneud rhywbeth yn ei gylch. Gwnewch restr o'r pethau sy'n peri straen yn eich bywyd a rhestr o'r hyn a fyddai'n gwneud bywyd yn fwy haws. Cadwch digon o amser i wneud ychydig o ymarfer corff bob dydd a gwnewch yn siwr eich bod yn bwyta'n iach a chael digon o gwsg.
Byddwch yn gallu siarad â rhywun am ystod o faterion, megis yr hyn sy'n achosi i chi deimlo dan straen. Bydd cynghorydd yn eich annog i drafod eich teimladau, a gallan nhw eich helpu i ddod o hyd i atebion i'r problemau.
Er mwyn cael eu cyfeirio ar gyfer cwnsela, dylech siarad â'ch meddyg teulu. Os yw eich meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio, byddwch yn derbyn cwnsela drwy'r GIG yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, nid yw mathau hyn o therapiau ar gael bob amser ar y GIG, mae'n dibynnu ar yr adnoddau yn eich ardal. Efallai y byddwch yn penderfynu cael triniaeth breifat. Gall sesiwn breifat 50 munud costio rhwng £40-£100.
Mae yna nifer o gyrff proffesiynol gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i gynghorydd, gan gynnwys y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Cwnsela a Seicotherapi a'r Cyfeiriadur Cwnsela.
Mae hyn yn eich annog i ddelio gyda dicter mewn ffordd iach. Mae'n cynnwys cydnabod pan fyddwch yn dechrau digio, yn cymryd amser i ymdaweli ac yn lleihau eich lefelau straen cyffredinol mewn bywyd. Gall rhaglen rheoli dicter nodweddiadol cynnwys cwnsela un-i-un a gweithio mewn grwp bach. Siaradwch â'ch meddyg teulu i weld a ydynt yn cynnig cyrsiau rheoli dicter yn eich ardal.
Mae CBT yn disgrifio nifer o therapiau 'siarad' sydd wedi'u cynllunio i ddatrys problemau. Mae CBT yn dechrau gyda'r syniad bod eich problemau yn cael eu hachosi yn aml gennych eich hun. Nid y sefyllfa ei hun sy'n gwneud i chi fod yn anhapus, ond sut yr ydych yn meddwl amdani ac yn ymateb iddi.
Os ydych yn teimlo bod CBT yn gallu fod o fudd i chi, trafodwch y mater fel opsiwn triniaeth bosibl, gyda'ch meddyg teulu. Gallant eich cyfeirio at rywun sydd wedi ei hyfforddi yn CBT, megis seicolegydd, nyrs, gweithiwr cymdeithasol neu seiciatrydd. Fel arall, gallwch gael CBT yn breifat. Mae'r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Seicotherapi Ymddygiadol a Gwybyddol (BABCP) yn cadw cofrestr o'r holl therapyddion achrededig yn y DU. Mae'r gost o sesiynau therapy preifat yn amrywio, ond fel arfer maent yn costio rhwng £40-£100.
Mae nifer o grwpiau cymorth annibynnol sy'n helpu pobl i adnabod a goresgyn straen. Gallwch chwilio'r gronfa ddata gwasanaethau lleol ar gyfer grwpiau yn eich ardal a allai roi rhywfaint o gymorth i chi.
Dyma fanylion cyswllt ar gyfer rhai grwpiau cymorth cenedlaethol:
- Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando (CALL) - Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru - 0800 132 737 - www.callhelpline.org.uk. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig llinell gymorth 24 awr i unrhyw un sy'n bryderus am eu hiechyd eu hunain neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind. Mae'n cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a chefnogi.
- Llinell Cymorth MIND - ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-6pm - 0300 123 3393 - www.mind.org.uk.
- Dim Panig - elusen genedlaethol wirfoddol sy'n cynorthwyo dioddefwyr pyliau o banig, ffobiâu, anhwylder gorfodaeth obsesiynol, anhwylder gorbryder cyffredinol - 0808 808 0545 - www.nopanic.org.uk.
Gall meddyginiaeth gael ei ddefnyddio os bydd straen yn arwain at broblemau pellach ac rydych yn cael diagnosis o iselder neu/a phryder.
Mae nodi'r hyn sy'n arwain at straen yn gam pwysig yn y proses o'i hatal. Efallai y bydd rhai o'r syniadau hyn yn ddefnyddiol:-
Fel yr argymhellir gan Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) gall pobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl llai neu gymedrol, cael eu helpu gan ddarllen deunydd "hunan-gymorth" priodol. Mae llawer o lyfrau hunangymorth wedi cael eu profi i fod yn effeithiol wrth helpu pobl i reoli amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl. Mae llyfrau o'r fath, o restr a argymhellir, yn awr ar gael ar presgripsiwn i gleifion, o dan y cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru. I gael gwybod mwy, gweler yr adran cysylltiadau perthnasol ar gyfer ein tudalennau Presgripsiwn Llyfrau Cymru.
Bydd plant a phobl ifanc yn neilltuol yn gweld hi'n anodd siarad am eu hemosiynau. Gall ddarllen llyfru helpu iddynt ddygymod â'u teimladau a rhoi cyfarwyddyd ychwanegol ar sut mae ymdopi.
Rhestr o lyfrau hunangymorth ydy cynllun Llyfrau Llesol (Cymru) sydd yn annog i blant a phobl ifanc ystyried darllen llyfr i'w helpu byw trwy gyfnod anodd yn eu bywydau, neu eu bod yn ymdopi a phroblemau iechyd meddwl llai hyd at ganolig eu dwyster neu ofid emosiynol. Mae llyfrau ar gael hefyd i helpu rhieni a gwarcheidwaid.