Cyflwyniad
Nid yw blas metalaidd yn ddifrifol fel arfer a gall fod yn symptom o lawer o bethau gwahanol. Bydd y driniaeth yn dibynnu ar beth sy'n ei achosi.
Achosion cyffredin blas metalaidd
Beth sy'n ei achosi a beth allwch chi wneud:
- Clefyd y deintgig – dylech frwsio'ch dannedd yn rheolaidd, defnyddio fflos dannedd a mynd at y deintydd bob 6 mis
- Cymryd meddyginiaeth, fel metronidazole – siaradwch â fferyllydd i gael cyngor, ond peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn heb gyngor meddygol
- Triniaeth canser, fel cemotherapi neu radiotherapi – bwytewch fwydydd sydd â blas cryfach, fel sinsir, sbeisys a melysion berwi (boiled sweets)
- Anwydau, heintiau'r sinysau a phroblemau eraill y llwybr anadlu – dylai'r blas ddiflannu pan fydd y broblem wedi clirio
- Diffyg traul – dylai'r blas ddiflannu ar ôl trin diffyg traul
- Bod yn feichiog – dros dro fydd y blas gennych fel arfer ac mae'n clirio ar ei ben ei hun
Weithiau, gall blas metalaidd fod yn gysylltiedig â phroblem gyda'ch synnwyr arogleuo.
Ewch i weld meddyg teulu:
- os nad yw'r blas metalaidd yn diflannu
- os nad oes achos amlwg ar gyfer y blas metalaidd