Condomau (dynion a menywod)

Trosolwg

Condoms (male and female)
Condoms (male and female)

Condomau yw’r unig fath o ddull atal cenhedlu sy’n gallu atal beichiogrwydd ac amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).

Mae 2 fath o gondom:

  • condomau allanol, sy’n cael eu gwisgo ar y pidyn – weithiau, bydd y rhain yn cael eu galw’n gondomau dynion
  • condomau menywod, sy’n cael eu rhoi y tu mewn i’r wain

Mae’r dudalen hon yn ymwneud â chondomau allanol ac mae’n esbonio sut maen nhw’n gweithio ac o ble y gallwch eu cael.

Mae condomau wedi’u gwneud o latecs (rwber), polyisopren neu bolywrethan tenau iawn, a’u bwriad yw atal eich semen rhag dod i gysylltiad â’ch partner rhywiol.

Cipolwg: condomau

  • O’u defnyddio’n gywir bob tro byddwch chi’n cael rhyw, mae condomau dynion 98% yn effeithiol. Mae hyn yn golygu y bydd 2 o bob 100 o bobl yn beichiogi o fewn blwyddyn pan ddefnyddir condomau dynion fel dull atal cenhedlu.
  • Gallwch gael condomau am ddim o glinigau dulliau atal cenhedlu, clinigau iechyd rhywiol a rhai meddygfeydd.
  • Gall cynnyrch a wnaed o olew - fel lleithydd, eli a Vaseline - ddifrodi condomau latecs a pholyisopren, ond maent yn ddiogel i’w defnyddio gyda chondomau polywrethan.
  • Mae iraid a wnaed o ddŵr yn ddiogel i’w ddefnyddio gyda phob condom.
  • Mae’n bosibl i gondom ddod i ffwrdd yn ystod rhyw. Os bydd hyn yn digwydd, gall fod angen dull atal cenhedlu brys arnoch a chael archwiliad am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
  • Mae angen cadw condomau mewn mannau sydd ddim yn rhy boeth nac oer, a’u cadw rhag arwynebau miniog neu arw a allai eu rhwygo neu eu gwisgo.
  • Gall rhoi condom ymlaen fod yn rhan bleserus o ryw ac nid oes rhaid iddo deimlo’i fod yn tarfu.
  • Os oes gennych sensitifrwydd i latecs, gallwch ddefnyddio condomau polywrethan neu bolyisopren yn lle hynny.
  • Peidiwch â defnyddio condom fwy nag unwaith. Defnyddiwch un newydd bob tro y byddwch chi’n cael rhyw.
  • Mae dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar becynnu condomau. Peidiwch â defnyddio condomau heibio i’r dyddiad hwn.
  • Defnyddiwch gondomau sydd â marc barcud BSI a marc CE ar y pecyn. Mae hynny’n golygu eu bod wedi cael eu profi i safonau diogelwch uchel.

Sut mae condom yn gweithio

Mae condomau’n ddulliau atal cenhedlu sy’n “rhwystr”. Cânt eu gwneud o latecs (rwber), polywrethan neu bolyisopren tenau iawn a bwriedir iddynt atal beichiogrwydd trwy atal sberm rhag cwrdd ag wy.

Hefyd, gallant atal rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol o’u defnyddio’n gywir yn ystod rhyw trwy’r wain, yr anws neu’r geg.

Gwnewch yn siŵr nad yw eich pidyn yn cyffwrdd ag organau cenhedlu eich partner cyn i chi roi condom ymlaen – gall semen ddod allan o’r pidyn cyn i chi alldaflu (ddod) yn llawn.

Os bydd hyn yn digwydd, neu os bydd semen yn mynd i wain eich partner yn ystod rhyw drwy’r wain tra’n defnyddio condom, gallech fod angen dull atal cenhedlu brys. Dylech ystyried cael prawf STI hefyd.

Sut i ddefnyddio condom

  • Tynnwch y condom allan o’r pecyn, gan ofalu peidio â’i rwygo gyda gemwaith neu ewinedd. Peidiwch ag agor y pecyn gyda’ch dannedd.
  • Rhowch y condom dros ben y pidyn â chodiad arno.
  • Os oes teth ar ddiwedd y condom, defnyddiwch eich bawd â’ch bys blaen i wasgu’r aer allan ohono.
  • Rholiwch y condom i lawr i waelod y pidyn yn ofalus.
  • Os na fydd y condom yn rholio i lawr, efallai eich bod yn ei ddal y ffordd anghywir. Os bydd hyn yn digwydd, gall fod sberm arno, felly taflwch hwnnw a rhowch gynnig arni eto gyda chondom newydd.
  • Ar ôl rhyw, tynnwch y pidyn allan tra bydd codiad arno o hyd – daliwch y condom wrth waelod y pidyn wrth i chi wneud hyn.
  • Tynnwch y condom o’r pidyn, gan ofalu peidio ag arllwys unrhyw semen.
  • Taflwch y condom i’r bin, nid i’r tŷ bach.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw eich pidyn yn cyffwrdd ag organau cenhedlu eich partner eto.
  • Os cewch chi ryw eto, defnyddiwch gondom newydd.

Defnyddio iraid

Daw condomau gydag iraid i’w gwneud nhw’n haws eu defnyddio, ond efallai byddwch am ddefnyddio iraid ychwanegol. Mae hyn yn cael ei argymell yn arbennig ar gyfer rhyw drwy’r anws i leihau’r siawns y bydd y condom yn rhwygo.

Gallwch ddefnyddio unrhyw fath o iraid gyda chondomau polyẅrethan sydd heb gael eu gwneud o latecs. Ond, os ydych chi’n defnyddio condomau latecs neu bolyisopren, peidiwch â defnyddio ireidiau a wnaed o olew – fel eli, olew’r corff neu jeli petrolewm (Vaseline). Gall ireidiau a wnaed o olew ddifrodi’r condom a’i wneud yn fwy tebygol o rwygo.

Condomau gyda sbermleiddiad

Daw rhai condomau gyda sbermleiddiad arnynt. Dylech osgoi defnyddio’r math hwn, neu ddefnyddio sbermleiddiad yn iraid, gan nad yw’n amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a gall gynyddu’ch risg o gael haint.

Pwy all ddefnyddio condomau?

Gall y rhan fwyaf o bobl ddefnyddio condomau’n ddiogel, ond efallai nad y rhain fydd y dull atal cenhedlu mwyaf addas i bawb.

  • Mae gan rai pobl alergedd i gondomau latecs. Os yw hyn yn broblem, mae condomau polywrethan neu bolyisopren yn llai tebygol o achosi adwaith alergaidd.
  • Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cynnal codiad, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio condomau oherwydd rhaid bod gennych godiad i atal semen rhag gollwng neu atal y condom rhag llithro i ffwrdd.

Manteision ac anfanteision condomau

Rhai manteision defnyddio condomau:

  • O’u defnyddio’n gywir ac yn gyson, maent yn ddull dibynadwy o atal beichiogrwydd ac amddiffyn y ddau bartner rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys clamydia, gonorea a HIV.
  • Mae angen i chi eu defnyddio dim ond pan fyddwch yn cael rhyw – nid oes angen eu paratoi ymlaen llaw ac maent yn addas ar gyfer rhyw heb ei gynllunio.
  • Gan amlaf, nid oes sgîl-effeithiau meddygol o ddefnyddio condomau.
  • Mae’n hawdd cael gafael arnynt ac maent ar gael mewn amrywiaeth o siapiau, meintiau a blasau.

Mae rhai anfanteision yn cynnwys:

  • Mae rhai cyplau o’r farn bod defnyddio condomau yn tarfu ar ryw – i osgoi hyn, ceisiwch wneud defnyddio condom yn rhan o baratoi at ryw.
  • Mae condomau’n gryf iawn ond gallant rwygo os na chânt eu defnyddio’n gywir. Os bydd hyn yn digwydd i chi, ewch ati i ymarfer eu rhoi ymlaen fel eich bod yn dod i arfer â’u defnyddio.
  • Mae gan rai pobl alergedd i latecs, plastig neu sbermleiddiaid, ond gallwch gael condomau sy’n llai tebygol o achosi adwaith alergaidd.
  • Wrth ddefnyddio condom, mae’n rhaid i chi dynnu allan ar ôl alldaflu a chyn i’ch pidyn fynd yn feddal, gan ddal y condom yn ei le.

A all unrhyw beth wneud condomau’n llai effeithiol?

Os ydych chi’n cael rhyw drwy’r wain, gall sberm weithiau fynd i mewn i’r wain yn ystod rhyw, hyd yn oed pan fyddwch yn defnyddio condom. Gall hyn ddigwydd:

  • os yw’r pidyn yn cyffwrdd â’r ardal o gwmpas y wain cyn rhoi’r condom ymlaen
  • os yw’r condom yn rhwygo neu’n dod i ffwrdd
  • os yw ewinedd neu emwaith miniog yn difrodi’r condom
  • os ydych chi’n defnyddio ireidiau a wnaed o olew, fel eli, olew babanod neu jeli petrolewm, gyda chondomau latecs neu bolyisopren – mae hyn yn difrodi’r condom
  • os ydych chi’n defnyddio meddyginiaeth ar gyfer cyflyrau fel y llindag, fel hufenau, pesarïau neu dawddgyffuriau – gall hyn ddifrodi condomau latecs a pholyisopren, a’u hatal rhag gweithio’n gywir

Os ydych chi’n amau bod sberm wedi mynd i mewn i’r wain, gallech fod angen dull atal cenhedlu brys. Gallwch ddefnyddio dull atal cenhedlu brys hyd at 5 diwrnod ar ôl cael rhyw heb gondom (pan aeth sberm i’r wain).

Dylech ystyried cael prawf heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Gallwch fynd i:

  • glinig iechyd rhywiol
  • clinig dulliau atal cenhedlu
  • clinig pobl ifanc

Gallwch ddefnyddio dull atal cenhedlu arall, fel y bilsen neu fewnblaniad atal cenhedlu, i’ch amddiffyn ymhellach rhag beichiogrwydd.

Fodd bynnag, ni fydd mathau eraill o ddulliau atal cenhedlu yn eich amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Gallech wyneb risg y rhain o hyd os bydd y condom yn torri.

Ble i gael gafael ar gondomau

Gallwch gael condomau am ddim, hyd yn oed os ydych o dan 16 oed, o:

  • glinigau dulliau atal cenhedlu
  • clinigau iechyd rhywiol neu feddygaeth genhedlol-wrinol (GUM)
  • rhai meddygfeydd
  • rhai gwasanaethau pobl ifanc

Dod o hyd i glinig iechyd rhywiol

Hefyd, gallwch brynu condomau o:

  • fferyllfeydd
  • archfarchnadoedd
  • gwefannau
  • peiriannau gwerthu mewn rhai toiledau cyhoeddus
  • rhai gorsafoedd petrol

Dylech bob amser brynu condomau sydd ag arwydd barcud BSI a’r marc CE Ewropeaidd arnynt. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu profi yn ôl y safonau diogelwch gofynnol.

Os ydych o dan 16 oed

Mae gwasanaethau dulliau atal cenhedlu ar gael yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim, gan gynnwys i bobl o dan 16 oed.

Os ydych o dan 16 oed ac eisiau cael dulliau atal cenhedlu, ni fydd y meddyg, y nyrs neu’r fferyllydd yn dweud wrth eich rhieni (neu ofalwr) cyhyd â’u bod o’r farn eich bod yn deall y wybodaeth a roddir i chi a’r penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud yn llawn.

Mae meddygon a nyrsys yn gweithio yn unol â chanllawiau llym wrth ddelio â phobl o dan 16 oed. Byddant yn eich annog i ystyried dweud wrth eich rhieni, ond ni allant orfodi i chi wneud.

Yr unig dro y gallai gweithiwr proffesiynol fod am i chi ddweud wrth rywun arall yw os bydd o’r farn bod perygl niwed i chi, fel camdriniaeth. Byddai angen i’r risg fod yn ddifrifol a byddent yn ei thrafod gyda chi yn y lle cyntaf fel arfer.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 21/12/2022 15:03:30