Mannau geni (Moles)

Cyflwyniad

Moles
Moles

Smotiau bach lliw ar y croen yw mannau geni (moles) sydd wedi'u gwneud o gelloedd o'r enw melanocytau, sy'n cynhyrchu'r lliw (pigment) yn eich croen.

Yr enw gwyddonol ar gyfer mannau geni yw melanocytic naevi.

Yn aml, bydd mannau geni yn frown, er y gall rhai fod yn dywyllach neu o liw croen. Gall mannau geni fod yn wastad neu godi ychydig oddi ar y croen, yn llyfn neu’n arw, a bydd gan rai ohonynt flew yn tyfu ohonynt. Fel arfer, bydd mannau geni yn grwn neu'n hirgrwn gydag ymyl llyfn.

Gall mannau geni newid o ran eu nifer a'u golwg. Bydd rhai yn pylu ac yn diflannu dros amser, yn aml heb i chi sylweddoli hynny. Weithiau, byddant yn ymateb i newidiadau hormonol hefyd, er enghraifft yn ystod:

  • beichiogrwydd – pan allant fynd ychydig yn dywyllach
  • blynyddoedd yr arddegau – pan fyddant yn cynyddu mewn nifer
  • oedran hyn – pan allant ddiflannu o 40 i 50 oed ymlaen

Mathau o fannau geni

Mae llawer o fathau gwahanol o fannau geni, a'r rhai mwyaf cyffredin yw:

  • mannau geni melanocytig cysylltiol (junctional melanocytic naevi) – fel arfer, mae'r rhain yn frown, yn grwn ac yn wastad
  • mannau geni melanocytig croenol (dermal melanocytic naevi) – fel arfer, mae'r rhain wedi codi, yn olau ac yn flewog weithiau
  • mannau geni melanocytig cyfansawdd (compound melanocytic naevi) – fel arfer, mae'r rhain wedi codi uwchlaw'r croen, yn frown golau ac yn flewog weithiau

Mae mathau o fannau geni mwy prin yn cynnwys:

  • mannau geni lleugylch (halo naevi) – mannau geni sydd â chylch gwyn o'u hamgylch lle mae'r croen wedi colli ei liw
  • dysplastic or atypical naevi mannau geni dysplastig neu annodweddiadol (dysplastic or atypical naevi) (gelwir hefyd yn fannau geni Clark) – mannau geni anarferol yr olwg ac ychydig yn fwy a all fod yn amryw o liwiau, a naill ai'n wastad neu'n lympiog
  • mannau geni glas (blue naevi) – mannau geni glas tywyll

Pryd a pham y bydd mannau geni yn datblygu?

Bydd rhai mannau geni yn bresennol pan gaiff rhywun ei eni, ond bydd y rhan fwyaf ohonynt yn datblygu yn ystod 30 mlynedd cyntaf bywyd. Yn aml, bydd mwy o fannau geni gan bobl sydd â chroen golau na phobl â chroen tywyllach.

Rydych chi'n fwy tebygol o ddatblygu llawer o fannau geni, neu fath penodol o fan geni, os ydynt yn gyffredin yn eich teulu.

Gallai ble cawsoch eich magu wneud gwahaniaeth hefyd – er enghraifft, os ydych wedi treulio llawer o amser yn yr haul, gall fod mwy o fannau geni bach gennych.

Mannau geni diniwed

Mae'r rhan fwyaf o fannau geni yn hollol ddiniwed. Fodd bynnag, gallant fod yn hyll ac effeithio ar eich hyder. Gall mannau geni fod yn niwsans hefyd, er enghraifft os byddant yn dal ar eich dillad yn rheolaidd neu os byddwch yn eu torri wrth eillio. Gall y mannau geni hyn gael eu trin drwy lawdriniaeth, er y gall hynny fod yn ddrud.

Fel arfer, bydd rhaid i chi dalu am driniaeth gosmetig i dynnu mannau geni, a chlinig preifat fydd yn gwneud y driniaeth yn aml. Gofynnwch i'ch meddyg teulu am gyngor ynghylch ble i gael triniaeth.

Os ydych yn cael tynnu man geni oherwydd ei fod yn niwsans, efallai mai'r cyfan y bydd eich llawfeddyg yn ei wneud fydd eillio'r man geni fel ei fod yn wastad â'ch croen. Toriad eillio (shave excision) yw'r enw ar hyn. Yna, gallai'r clwyf gael ei gau gyda gwres yn ystod proses o'r enw serio (cauterisation).

Archwilio'ch croen

Dylech archwilio'ch croen bob ychydig fisoedd am unrhyw fannau geni newydd sy'n datblygu (yn enwedig ar ôl eich arddegau, pan fydd mannau geni newydd yn mynd yn llai cyffredin) neu unrhyw newidiadau i fannau geni presennol. Gall man geni newid mewn wythnosau neu fisoedd.

Dyma rai pethau i gadw golwg amdanynt:

  • mannau geni gyda'r lliw yn amrywio – dim ond un neu ddau liw fydd i'r rhan fwyaf o fannau geni, ond mae gan felanomau sawl arlliw gwahanol
  • mannau geni gydag ymyl anwastad neu afreolaidd – fel arfer, mae mannau geni yn grwn neu'n hirgrwn gydag ymyl llyfn
  • mannau geni sy'n gwaedu, yn cosi, yn goch, yn llidus (chwyddedig) neu'n gramennog
  • mannau geni sy'n mynd yn fwy o lawer – nid yw'r rhan fwyaf o fannau geni yn fwy na lled pensil

Un ffordd ddefnyddiol o gofio beth i gadw golwg amdano yw'r dull ABCDE.

  • A – anghymesuredd (asymmetry)
  • B – border afreolaidd (border)
  • C – newid lliw (colour change)
  • D – diamedr (diameter)
  • E – ymgodol (wedi codi) neu chwyddedig (elevated or enlarged)

Gall mannau geni fel hyn ddigwydd unrhyw le ar eich corff, ond bydd y rhan fwyaf ohonynt ar eich cefn, coesau, breichiau a'ch wyneb.

Os sylwch ar unrhyw newidiadau i'ch mannau geni neu os ydych yn poeni amdanynt, ewch i weld eich meddyg teulu. Gall newidiadau i fan geni fod yn arwydd cynnar o fath o ganser o'r enw melanoma.

Mannau geni canseraidd

Er bod y rhan fwyaf o fannau geni yn anfalaen (heb fod yn ganseraidd), mewn achosion prin gallant ddatblygu yn melanoma. Mae melanoma yn fath difrifol a ffyrnig o ganser y croen.

Fel arfer, bydd melanomau yn ymddangos fel smotyn tywyll sy’n tyfu’n gyflym lle nad oedd man geni o'r blaen, neu’n fan geni a oedd gennych eisoes a fydd yn newid o ran ei faint, siâp neu liw, ac yn gwaedu, cosi neu’n troi’n goch.

Y brif driniaeth ar gyfer melanoma yw llawdriniaeth, er y bydd eich triniaeth yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os gwneir diagnosis o felanoma a'i drin yn gynnar, mae llawdriniaeth yn llwyddiannus fel arfer, er y gall fod angen gofal dilynol arnoch i atal melanoma rhag dychwelyd.

Darllenwch fwy am trin melanoma.

Mae gan GIG 111 Cymru gwiriwr symptomau sy'n gallu helpu wrth i chi wirio eich mannau geni.

Atal mannau geni canseraidd

Os oes gennych lawer o fannau geni, mae'n bwysig cymryd gofal ychwanegol yn yr haul. Er nad yw'n bosibl atal melanoma bob tro, gall osgoi cael eich datguddio'n ormodol i olau uwchfioled (UV) leihau eich siawns o'i ddatblygu.

Gallwch helpu i amddiffyn eich hun rhag niwed yr haul drwy:

  • aros yn y cysgod pan fydd yr haul ar ei gryfaf (rhwng 11am a 3pm)
  • gorchuddio eich hun â dillad, het ag ymyl llydan a sbectol haul
  • defnyddio eli haul â ffactor uchel (o leiaf SPF30) a'i ailddefnyddio'n rheolaidd, yn enwedig ar ôl nofio
  • osgoi defnyddio lampau haul neu welyau haul oherwydd eu bod yn allyru pelydrau uwchfioled

Eisiau gwybod mwy?

Marciau eraill ar y croen

Mae caledennau seimlifol (seborrhoeic keratoses) yn edrych fel dafadennau sydd wedi'u codi. Gallant fod yn lliw croen, yn ddu, yn lliw melyn budr neu'n llwydfrown. Byddant yn datblygu amlaf ar y frest a'r bol ac maent yn gyffredin ymhlith pobl hyn.

Mae brychni (freckles) yn farciau bach brown, gwastad sy'n ymddangos yn aml ar yr wyneb neu fannau sy'n cael eu datguddio i'r haul. Maent yn cael eu hachosi gan fwy o felanin, sef y pigment sy'n rhoi lliw i'ch croen.

Mae smotiau haul (solar lentigines) yn farciau brown ar y croen, yn enwedig ar yr wyneb a'r breichiau, sy'n gallu datblygu ar bobl sy'n treulio cryn dipyn o amser yn yr haul. Mae'r rhain yn dueddol o ddod i'r golwg yn hwyrach mewn bywyd.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/12/2022 10:07:58