Gwayw cylla a phoen yn y bol

Cyflwyniad

Stomach ache and abdominal pain
Stomach ache and abdominal pain

Nid yw'r rhan fwyaf o boen stumog yn unrhyw beth difrifol, a bydd yn gwella ymhen ychydig ddyddiau.

Achosion cyffredin poen stumog

Defnyddiwch y dolenni hyn i gael syniad ynglyn â sut i leddfu achosion mwyaf cyffredin poen stumog. Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n pryderu.

Mathau o boen stumog a chyflyrau posibl:

  • Math: Teimlo'n chwyddedig, rhechu'n aml. Cyflwr posibl: Gwynt sydd wedi'i ddal
  • Math: Teimlo'n llawn ac yn chwyddedig ar ôl bwyta, llosg cylla (heartburn), teimlo'n gyfoglyd. Cyflwr posibl: Diffyg traul)
  • Math: Methu pasio ysgarthion. Cyflwr posibl: Rhwymedd
  • Math: Ysgarthion dyfrllyd, teimlo'n gyfoglyd, chwydu. Cyflwr posibl: Dolur rhydd neu gwenwyn bwyd

Sut gall fferyllydd helpu gyda phoen stumog

Gall fferyllydd:

  • eich helpu i ganfod beth sy'n achosi eich poen stumog
  • awgrymu triniaeth
  • argymell meddyginiaethau ar gyfer rhwymedd a diffyg traul

Dewch o hyd i fferyllfa.

Ewch i weld meddyg teulu

  • os yw'r boen yn gwaethygu'n fawr mewn amser byr
  • os na fydd y boen neu'r chwyddo yn cilio neu os bydd yn dychwelyd dro ar ôl tro
  • os ydych chi'n colli pwysau heb geisio gwneud hynny
  • os ydych chi'n troethi (pasio dwr) yn amlach neu'n llai aml
  • os yw troethi yn boenus yn sydyn
  • os ydych chi'n gwaedu o'ch pen ôl neu'ch fagina, neu os bydd rhedlif annormal o'r fagina gennych
  • os na fydd eich dolur rhydd yn cilio ar ôl ychydig ddyddiau

Ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys:

  • os cawsoch boen stumog sydyn iawn neu ddifrifol
  • os ydych chi'n teimlo poen pan fyddwch chi'n cyffwrdd eich stumog
  • os ydych chi'n chwydu gwaed neu os yw eich cyfog yn edrych fel coffi mâl
  • os oes gennych ysgarthion gwaedlyd neu ddu, gludiog a'i fod yn ddrewllyd iawn
  • os na allwch chi droethi
  • os na allwch chi ysgarthu na rhechu
  • os na allwch chi anadlu
  • os oes gennych boen yn y frest
    os oes diabetes gennych a'ch bod yn chwydu
  • os oes rhywun wedi ymgwympo

Achosion eraill poen stumog

Peidiwch â gwneud diagnosis eich hun - ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n pryderu.

Math o boen stumog a chyflwr posibl

  • Math: Poen a chrampiau pan fyddwch chi'n cael eich mislif. Cyflwr posibl: Poen mislif
  • Math: Poen sydyn yn yr ochr dde isaf. Cyflwr posibl: Llid y pendics 
  • Math: Crampiau, chwyddo, dolur rhydd, rhwymedd sy'n parhau. Cyflwr posibl: Syndrom coluddyn llidus (IBS)
  • Math: Poen gwael parhaus sy'n gallu symud i lawr i'ch morddwyd (groin), cyfog, poen wrth droethi. Cyflwr posibl: Cerrig yn yr arennau.
  • Math: Poen difrifol sy'n para am oriau yng nghanol eich bol neu ychydig o dan yr asennau ar yr ochr dde. Cyflwr posibl: Cerrig y bustl


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 23/11/2023 13:38:08