Vaccination menu links


Pa plant dylai cael y booster harddegau 1-mewn-1?

Cynigir y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau i bob person ifanc 13 i 18 oed. Imiwneiddiad arferol ydyw a gynigir yn rhan o raglen brechiadau plentyndod y GIG.

Rhoddir y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau ar ffurf un pigiad i gyhyr rhan uchaf y fraich er mwyn diogelu yn erbyn difftheria, tetanws a pholio. Mae’n ychwanegu at effaith y brechiadau babanod a chyn oed ysgol yn erbyn y clefydau hyn.

Pwy na ddylai gael y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1?

Ychydig iawn o bobl ifanc na allant gael y brechlyn hwn. Fodd bynnag, dylech ei osgoi os ydych wedi cael adwaith anaffylactig (adwaith alergaidd difrifol) i ddos blaenorol o’r brechlyn, neu adwaith i unrhyw ran o’r brechlyn a allai fod yn bresennol mewn symiau bychain, fel neomycin, streptomycin neu polymixin B.

Mae’n ddiogel i bobl ifanc sydd â salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd, gael y brechiad. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sydd â thwymyn ohirio eu brechiad hyd nes y byddant wedi gwella. Y rheswm am hyn yw er mwyn osgoi camgysylltu unrhyw ddatblygiad o’r salwch ag effeithiau’r brechlyn.

Cytuno’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau â brechlynnau eraill

Fel arfer, rhoddir y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau yn yr ysgol ynghyd â’r brechlyn atgyfnerthu Men C. Gellir ei roi ar yr un pryd â brechlynnau eraill fel MMR, brechlyn y ffliw neu’r BCG hefyd – cyn belled â bod y brechlynnau’n cael eu rhoi mewn rhannau gwahanol o’r corff.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk