Pen mawr

Cyflwyniad

Hangover
Hangover

Gwella pen mawr (hangofyr)

Pen tost/cur pen ofnadwy, salwch, pendro, dadhydradu: mae unrhyw un sydd erioed wedi yfed gormod yn gyfarwydd â chanlyniadau hynny.

Mae alcohol yn ddiwretig (sy'n golygu ei fod yn tynnu hylif o'r corff), felly mae yfed gormod yn gallu arwain at ddadhydradu. Dadhydradu sy'n gyfrifol am achosi llawer o symptomau pen mawr.

Gall alcohol achosi anhwylder i'r stumog ac ni fyddwch yn cysgu'n dda iawn yn y nos. Efallai y bydd rhywfaint o alcohol o hyd yn eich system y bore canlynol.

Hen goelion am iacháu pen mawr

Hen goelion yw dulliau o iacháu pen mawr, yn bennaf. Nid oes iacháu ar ben mawr. Mae awgrymiadau ar gael ar gyfer osgoi pen mawr a lleddfu'r symptomau os oes hangofyr arnoch.

Y ffordd orau o osgoi pen mawr yw peidio ag yfed. Os byddwch chi'n penderfynu yfed, byddwch yn synhwyrol a chadwch at yr argymhellion.

I leihau'r perygl o ddioddef problemau iechyd difrifol yn y dyfodol, mae'r GIG yn argymell ichi beidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yn rheolaidd pob wythnos.  I osgoi pen mawr, peidiwch ag yfed mwy nag y gall eich corff ymdopi ag ef. Os nad ydych yn siwr faint gall eich corff ymdopi ag ef, byddwch yn ofalus.

Deall yr unedau

Gallwch gadw golwg ar faint o unedau rydych yn eu hyfed gan ddefnyddio Cyfrifydd Unedau Alcohol neu lawrlwytho ap Change4Life Drinks Tracker yn iTunes a Google Play.

Mae gwydraid mawr o win, er enghraifft, yn cynnwys tua thair uned. Mewn un noson, gall hynny fod yn llawer mwy nag y bwriadoch ei yfed. Dyma rai enghreifftiau:

  • can o lager, cwrw neu chwerw arferol - 1.8 uned
  • peint o lager, cwrw neu chwerw arferol - 2.3 uned
  • gwydraid bychan o win (125ml) - 1.5 uned
  • gwydraid mawr o win (250ml) - 3 uned
  • mesur o wirodydd (25ml) - 1 uned

Dilynwch yr awgrymiadau hyn i gadw pen mawr draw:

  • Peidiwch ag yfed ar stumog wag. Cyn i chi fynd allan, bwytewch bryd sy'n cynnwys carbohydradau (fel pasta neu reis) neu frasterau. Gyda chymorth y bwyd, ni fydd y corff yn amsugno alcohol mor gyflym.
  • Peidiwch ag yfed diodydd lliw tywyll os ydych chi'n sensitif iddynt. Maent yn cynnwys cemegau naturiol o'r enw cytrasau (amhureddau), sy'n llidio'r gwaedlestri a'r feinwe yn yr ymennydd ac yn gallu gwneud pen mawr yn waeth.
  • Yfwch ddwr neu ddiodydd meddal heb swigod rhwng pob diod alcohol. Mae alcohol yn cael ei amsugno'n gynt i'ch system gyda diodydd carbonedig (â swigod).
  • Yfwch tua pheint o ddwr cyn i chi fynd i gysgu. Cadwch wydraid o ddwr wrth y gwely i'w yfed os byddwch chi'n dihuno yn ystod y nos.

Mae'r GIG yn argymell:

  • peidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yn rheolaidd pob wythnos
  • os ydych yn yfed cymaint â 14 uned yr wythnos, mae'n well i ledaenu hyn yn gyfartal dros dri diwrnod neu fwy
  • os ydych yn ceisio lleihau faint o alcohol rydych yn ei yfed, mae'n syniad da i gael nifer o ddiwrnod di-alcohol bob wythnos.

Mae yfed yn rheolaidd neu'n aml yn golygu yfed alcohol yn y rhan fwyaf o wythnosau. Mae'r risg i'ch iechyd yn cynyddu trwy yfed unrhyw faint o alcohol yn gyson.

Y bore canlynol

Os byddwch chi'n teimlo'n ofnadwy pan fyddwch chi'n dihuno'r bore canlynol, hwyrach na wnaethoch chi ddilyn y cyngor hwn. Er nad oes unrhyw iachâd gwirioneddol ar gyfer pen mawr, mae'n bosibl lleddfu'r symptomau.

Mae triniaeth yn cynnwys ailhydradu'r corff fel y gall ddelio â'r symptomau poenus (ond yr amser gorau i ailhydradu yw cyn mynd i gysgu).

Mae poenladdwyr rydych chi'n eu prynu dros y cownter yn gallu helpu gyda phen tost/chur pen a chramp yn y cyhyrau. Poenladdwyr gyda paracetamol ynddynt sydd orau fel arfer, oherwydd gall aspirin lidio'r stumog ymhellach a gwaethygu'r cyfog a'r salwch.

Gall bwydydd siwgraidd wneud i chi grynu llai. Weithiau, bydd angen gwrthasid i setlo'ch stumog yn gyntaf.

Mae cawl 'bouillon', sef math o gawl tenau a wnaed o lysiau, yn ffynhonnell dda o fitaminau a mwynau, sy'n gallu ychwanegu at yr adnoddau rydych chi wedi'u colli. Prif fantais y cawl hwn yw ei fod yn hawdd i stumog dyner ei dreulio.

Mae yfed diodydd di-flas nad ydynt yn effeithio'n ormodol ar y system dreulio, fel dwr, dwr soda a diodydd isotonig (sydd ar gael yn y rhan fwyaf o siopau) yn gallu adfer hylifau coll.

Nid yw yfed mwy o alcohol yn y bore yn helpu. Mae hynny'n arfer peryglus a'r cyfan y gallech fod yn ei wneud yw dal y symptomau yn eu hôl hyd nes bod effaith yr alcohol yn pylu eto.

Os buoch yn yfed yn drwm, pen mawr ai peidio, mae meddygon yn cynghori y dylech aros 48 awr cyn yfed mwy o alcohol er mwyn rhoi cyfle i feinweoedd eich corff wella. Weithiau, wrth gwrs, mae pen mawr yn gwneud y cyngor hwnnw'n haws ei ddilyn.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 23/06/2023 10:26:42