Cwestiynau cyffredin am Hib/Men C
Pwy ddylai gael y brechiad?
Pam mae angen dos o Hib/Men C?
Sut byddaf yn gwybod pryd i fynd â’m plentyn i gael ei frechiad Hib/Men C?
Beth ddylwn i ei wneud os cafodd fy mhlentyn adwaith gwael ar ôl dos blaenorol o’r brechlyn Men C neu Hib?
A all fy mhlentyn ymdopi â chymaint o frechlynnau ar yr un pryd?
A all fy mhlentyn gael y brechlynnau Hib/Men C, MMR a PCV (brechlyn niwmococol) ar yr un pryd?
Pa effaith mae’r brechlyn Men C wedi’i chael?
A oes unrhyw resymau pam na ddylai baban gael y brechlyn atgyfnerthu Hib/MenC?
Beth ddylwn i ei wneud os yw fy mhlentyn yn sâl ar ôl cael ei imiwneiddio?
A all y brechlyn Hib/Men C gael ei roi i blant hŷn ac oedolion?
Os yw fy mhlentyn wedi cael dos o’r brechlyn Men C yn ddiweddar, a yw’n ddiogel rhoi dos o Hib/Men C iddo?
Beth yw sgil-effeithiau mwyaf cyffredin y brechlyn Hib/Men C?
Beth yw Hib?
Beth yw clefyd meningococaidd?
Mae’r brechlyn au Hib/Men C yn cael ei gynnig i fabanod yn fuan ar ôl eu pen-blwydd cyntaf.
Mae’r brechlyn atgyfnerthu hwn yn sicrhau amddiffyniad tymor hwy yn erbyn heintiau Haemophilus influenza math b (Hib) a meningitis C. Mae hefyd yn sicrhau bod lefelau clefyd yn aros yn isel yn y boblogaeth gyffredinol.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Bydd eich meddyg teulu’n anfon llythyr apwyntiad atoch yn awtomatig. Bydd y brechiad yn cael ei roi yn eich meddygfa neu glinig.
Yr unig reswm meddygol dros beidio â rhoi dos arall o’r brechlyn os yw cafodd eich baban adwaith anaffylactig a gadarnhawyd (adwaith alergaidd difrifol) i ddos blaenorol o frechlyn Men C neu un sy’n cynnwys Hib.
Hyd yn oed os cafodd eich plentyn sgil-effeithiau gwael ar ôl dos blaenorol, argymhellir ei fod yn parhau i gael dosau eraill oherwydd bod buddion yr amddiffyniad a roddir yn erbyn y clefydau hyn yn drech o lawer nag anghysur sgil-effeithiau.
Darllenwch fwy ynghylch sgil-effeithiau’r brechlyn atgyfnerthu Hib/Men C.
Gall. Mae nifer y brechlynnau a roddir i fabanod yn ystod eu blwyddyn gyntaf yn fach o gymharu â’r degau ar filoedd o facteria a firysau yn yr amgylchedd y mae’n rhaid i fabanod ymdopi â nhw bob dydd.
Gall, mae’n berffaith ddiogel i’r brechlynnau hyn gael eu rhoi gyda’i gilydd.
Mae’r rhaglen brechiadau plentyndod a argymhellir yn dynodi bod Hib/Men C yn cael ei roi i fabanod 12-13 mis oed ar yr un pryd â’r brechlyn cyfunol niwmococol (PCV) a’r brechlyn MMR.
Ers i’r brechlyn Men C gael ei gyflwyno ym mis Tachwedd 1999, bu gostyngiad enfawr (99%) mewn achosion o heintiau meningitis C ym mhob grŵp oedran.
Bu gostyngiad o oddeutu 99% hefyd yn y rhai hynny nad oeddent wedi cael eu brechu. Mae hyn yn awgrymu bod y brechlyn wedi cynhyrchu effaith ‘imiwnedd torfol’ (sy’n golygu ei fod yn helpu i ddiogelu’r gymuned gyfan).
Y Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno’r brechlyn Men C. Mae gwledydd eraill, gan gynnwys Canada, yr Iseldiroedd, Sbaen, Ffrainc ac Awstralia, wedi cynnwys Men C yn eu rhaglenni imiwneiddio plentyndod erbyn hyn.
Nid oes llawer o resymau pam na all babanod gael eu himiwneiddio. Fodd bynnag, ni ddylai’r brechlyn Hib/Men C gael ei roi i fabanod sydd wedi cael adwaith anaffylactig (adwaith alergaidd difrifol) a gadarnhawyd i ddos blaenorol o’r brechlyn, neu i unrhyw elfen o’r brechlyn.
Os yw’ch plentyn yn datblygu twymyn, cadwch ef yn oer a rhowch ddigon o hylif iddo ac (os oes angen) dos o barasetamol neu ibuprofen hylifol ar gyfer babanod. Mae twymyn yn eithaf cyffredin ymhlith plant ifanc ac mae ei effaith yn ysgafn fel arfer.
Ffoniwch eich meddyg ar unwaith os bydd gan eich plentyn dymheredd o 39°C neu uwch neu os yw’n cael ffit, ar unrhyw adeg. Os yw’r feddygfa ar gau ac ni allwch gysylltu â’ch meddyg, dilynwch eich greddf ac ewch i adran achosion brys eich ysbyty agosaf.
Ar hyn o bryd, nid yw’r brechlyn Hib/Men C cyfunol wedi’i drwyddedu ar gyfer plant hŷn ac oedolion, ond gellir ei roi fel yr argymhellir yn y ddogfen Imiwneiddio yn erbyn Clefydau Heintus (y Llyfr Gwyrdd).
Dylai’r brechlyn Hib/Men C gael ei roi o leiaf fis ar ôl y dos diwethaf o’r brechlyn Men C yn unig.
Mae sgil-effeithiau cyffredin y brechlyn Hib/Men C yn cynnwys:
- poen
- cochni neu chwyddo yn y man lle y rhoddwyd y pigiad
- twymyn
- pigogrwydd
- diffyg archwaeth
- teimlo’n gysglyd
Haint yw Hib (Haemophilus influenzae math b) sy’n gallu achosi nifer o afiechydon difrifol fel niwmonia, meningitis a gwenwyn gwaed.
Haint facteriol yw clefyd meningococaidd sydd fel arfer yn effeithio ar leinin yr ymennydd (gan achosi meningitis) neu’r gwaed (gan achosi gwenwyn gwaed). Mae rhan Men C y brechlyn hwn yn eich diogelu rhag meningitis meningococaidd yn unig, ac nid rhag unrhyw fath arall o feningitis.
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk