Mynediad at feddyginiaethau gwiriwr symptomau

  • Cam 1
    Cyn i ni Ddechrau

  • Cam 2
    Gwybodaeth Sylfaenol

  • Cam 3
    Symptomau

  • Cam 4
    Canlyniad

Darganfyddwch ble gallwch chi gael mwy o feddyginiaeth pan fydd eich cyflenwadau meddyginiaeth wedi dod i ben. Bydd y canllaw hunangymorth hwn yn eich helpu i benderfynu â phwy i gysylltu am ragor o feddyginiaeth. Gallwch ddefnyddio'r canllaw hwn i gael gwybodaeth am feddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Cyn i chi barhau…

Rhaid i hyn fod ar gyfer meddyginiaeth a ragnodir i chi yn rheolaidd trwy bresgripsiwn amlroddadwy.

Ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gael:

  • Meddyginiaeth ar gyfer problem newydd neu ddiweddar
  • Cyffuriau rheoledig sydd angen tystiolaeth (ID) i'w casglu
  • Meddyginiaethau dim ond ysbyty sydd yn gallu dosbarthu

Dylai unrhyw un sy’n ansicr beth i’w wneud gysylltu â’u meddyg teulu neu os na allwch gysylltu â’ch meddyg teulu, ffoniwch 111.

Atebwch bob cwestiwn yn ofalus, bydd y cyngor a roddir yn seiliedig ar eich atebion.

Nid yw'r canllaw hunangymorth hwn yn disodli cyngor meddygol. Os oes angen, mynnwch help gan weithiwr iechyd proffesiynol cymwys (e.e. meddyg, nyrs neu fferyllydd).

Ar gyfer argyfyngau, fel:

  • Problemau anadlu difrifol (e.e. methu siarad yn normal, troi’n las a nwylo)
  • Poen yn y frest (e.e. fel band tynn neu bwysau trwm yn neu o gwmpas y frest)
  • Strôc (e.e. methu â chodi braich, gwendid un ochr yn y goes neu wyneb sy’n disgyn)
  • Anaf difrifol/gwaedu trwm na ellir ei atal
  • Ffitio nawr/anymwybodol (e.e. ni ellir ei ddeffro)

Ffoniwch 999 am gyngor pellach. Gadael i ddeialu 999.