Vaccination menu links


Pwy dylai cael y brechlyn MMR?

Mae’r brechiad MMR yn cael ei roi i blant fel mater o drefn yn rhan o raglen imiwneiddiadau plentyndod y GIG.

Gellir ei roi trwy’r GIG hefyd i blant hŷn ac oedolion a babanod hŷn na chwe mis oed y mae angen eu diogelu rhag y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela a/neu os bydd nifer o achosion o’r frech goch yn datblygu.

Pa blant ddylai gael y brechlyn MMR?

Cynigir y dos cyntaf o’r brechlyn MMR i bob baban rhwng 12 a 13 mis oed.

Rhoddir ail ddos o MMR i blant cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol, fel arfer rhwng tair a phum mlwydd oed, er y gellir rhoi’r ail ddos cyn gynted â thri mis ar ôl yr un cyntaf os oes angen brys, megis yn ystod adeg pan geir nifer achosion o glefyd.

Mae’r ail ddos o MMR yn hybu amddiffyniad plant yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela.

Ni fydd hyd at un o bob 10 o blant yn gwbl imiwn ar ôl eu dos cyntaf o MMR, ond bydd llai nag un o bob 100 o blant yn dal i fod mewn perygl ar ôl yr ail ddos.

Pa blant na ddylai gael y brechlyn MMR?

Dylech ohirio pigiad MMR eich plentyn os yw’n sâl a bod ganddo dwymyn (tymheredd uchel).

Fe allech ddymuno gohirio’r brechiad MMR hefyd os yw’ch plentyn wedi cael adwaith gwael i ddos blaenorol o’r brechlyn. Nid yw hynny’n golygu na fydd yn gallu cael dos arall, ond mae’n syniad da siarad â’ch meddyg teulu, nyrs y feddygfa neu’ch ymwelydd iechyd.

NI ddylai eich plentyn gael y brechiad MMR:

  • os yw’n cymryd tabledi steroid dos uchel, neu’n cymryd dosau is naill ai ochr yn ochr â chyffuriau eraill neu dros gyfnod hir. Os ydych yn ansicr, gofynnwch i’ch meddyg teulu
  • os yw wedi cael adwaith anaffylactig (adwaith alergaidd difrifol) a gadarnhawyd i ddos blaenorol o’r brechlyn MMR neu elfen ohono
  • os yw’n cael ei drin ar gyfer canser gyda chemotherapi neu radiotherapi, neu os yw wedi cael y triniaethau hyn o fewn y chwe mis diwethaf
  • os yw wedi cael trawsblaniad organ ac yn cymryd cyffuriau imiwnolethu (cyffuriau sy’n atal eich system imiwnedd rhag gweithio’n iawn)
  • os yw wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn ac wedi gorffen yr holl therapi imiwnolethol o fewn y 12 mis diwethaf
  • os oes ganddo system imiwnedd wannach. Os ydych yn ansicr, gofynnwch i’ch meddyg teulu

Dal i fyny â’r brechlyn MMR

Gall oedolion a phlant nad ydynt yn imiwn oherwydd eu bod wedi colli un dos o MMR neu fwy pan oeddent yn iau, gael y brechlyn MMR trwy’r GIG ar unrhyw oedran. Gallai hyn gynnwys:

  • Pobl ifanc yn eu harddegau
  • Oedolion
  • Teithwyr
  • Menywod sy’n paratoi ar gyfer beichiogrwydd
  • Pobl sy’n agored i’r frech goch yn ystod cyfnod pan geir nifer o achosion o’r clefyd

Pobl ifanc yn eu harddegau a’r MMR

Yn gyffredinol, bydd imiwnedd MMR pobl ifanc yn eu harddegau yn cael ei wirio pan fyddant yn cael eu brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1. Os nad ydynt yn imiwn, oherwydd iddynt golli brechiad MMR pan oeddent yn iau, gellir rhoi dau ddos o’r brechlyn MMR iddynt trwy’r GIG i’w diogelu.

Mae’n arbennig o bwysig i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n symud oddi cartref i fynd i’r coleg sicrhau bod eu brechiadau MMR yn gyfredol gan eu bod mewn perygl uwch o glwy’r pennau/y dwymyn doben.

Darllenwch pam ei bod yn bwysig i bobl ifanc yn eu harddegau gael eu diogelu rhag clwy’r pennau/y dwymyn doben.

Oedolion a’r MMR

Gall oedolion na chawsant yr MMR pan oeddent yn fabanod ac nad ydynt yn imiwn, gael y brechlyn MMR trwy’r GIG. Fe’i rhoddir i oedolion mewn dau ddos, gyda’r ail ddos yn cael ei roi o leiaf fis ar ôl yr un cyntaf.

Efallai na fydd rhai oedolion wedi cael eu diogelu’n llawn o ganlyniad i newidiadau i’r brechlyn MMR. Mae’n bosibl na fydd unrhyw un a anwyd rhwng 1980 a 1990 wedi cael brechlyn clwy’r pennau/y dwymyn doben, ac mae’n bosibl y bydd unrhyw un a anwyd rhwng 1970 a 1979 wedi cael brechlyn y frech goch yn unig. Os ydych chi’n perthyn i un o’r grwpiau hyn, gofynnwch i’ch meddyg teulu am gael y brechiad MMR.

Teithwyr a’r MMR

Dylai unrhyw un sy’n teithio i ardal lle y gwyddys y bu achosion o’r frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben neu rwbela gael y brechlyn MMR cyn iddynt deithio.

Dyma ragor o wybodaeth ynghylch brechiadau teithio.

Beichiogrwydd a’r brechlyn MMR

Os ydych chi’n ystyried beichiogi, gofynnwch i’ch meddyg teulu wirio a ydych chi’n gwbl imiwn i rwbela, oherwydd gall rwbela yn ystod beichiogrwydd achosi problemau difrifol yn y baban sy’n datblygu.

Gall eich meddyg teulu wirio eich imiwnedd gyda phrawf gwaed syml. Os oes gennych imiwnedd isel neu ansicr yn erbyn rwbela, cynigir y brechiad MMR i chi. Mae brechiad rwbela ar gael trwy’r GIG yn rhan o’r brechlyn MMR cyfunol yn unig.

Fe’ch cynghorir i geisio osgoi beichiogi am fis ar ôl cael y brechiad MMR.

Os na chawsoch eich gwirio cyn beichiogi a bod profion gwaed cyn-geni arferol yn canfod bod eich imiwnedd yn isel, cynigir brechiad MMR i chi i’ch diogelu rhag rwbela ar ôl i’ch baban gael ei eni, fel arfer yn ystod ei archwiliad ôl-enedigol chwe wythnos.

MMR yn ystod cyfnodau pan geir nifer o achosion o’r frech goch

Mewn cyfnod pan geir nifer o achosion o’r frech goch, gellir rhoi’r brechlyn MMR i ddiogelu pobl sydd wedi dod i gysylltiad â’r cyflwr yn ystod y tri diwrnod blaenorol. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod gwrthgyrff y frech goch yn datblygu’n gyflymach yn dilyn brechiad nag ydynt ar ôl haint naturiol.

Nid yw’n niweidiol cael brechiad MMR os ydych eisoes yn imiwn. Felly, os oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha un a ydych eisoes wedi cael eich brechu, gofynnwch i’ch meddyg teulu am gael brechiad ‘dal i fyny’


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk