Booster harddegau 3-mewn-1
Mae’r brechlyn atgyfnerthu i’r rhai yn eu harddegau, a adwaenir hefyd fel y brechlyn 3 mewn 1 neu Td/IPV, yn cael ei roi ar ffurf un pigiad i ran uchaf y fraich er mwyn hybu amddiffyniad eich plentyn yn erbyn tri chlefyd ar wahân: tetanws, difftheria a polio.
Pwy ddylai gael y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1?
Mae’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau ar gael fel mater o drefn trwy’r GIG i bob person ifanc 13 i 18 oed.
Fel arfer, fe’i rhoddir yn yr ysgol uwchradd ar yr un pryd â’r brechlyn Men ACWY. A chithau’n rhiant, bydd ysgol eich plentyn yn anfon llythyr atoch oddeutu wythnos cyn i’r brechiadau gael eu cynllunio i ofyn am eich caniatâd chi neu eich plentyn.
Enw brand y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau a roddir yn y Deyrnas Unedig yw REVAXIS.
Darllenwch fwy ynghylch pa blant ddylai gael y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau.
Pa mor ddiogel yw’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1?
Mae’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau yn frechlyn diogel iawn. Fodd bynnag, yn yr un modd â phob brechlyn, gallai rhai plant gael sgil-effeithiau ysgafn, fel chwyddo, cochni neu dynerwch yn y man lle y rhoddwyd y pigiad. Weithiau, bydd lwmp bach di-boen yn datblygu, ond bydd yn diflannu ymhen ychydig wythnosau fel arfer.
Darllenwch fwy ynghylch sgil-effeithiau posibl y brechiad 3 mewn 1.
Darllenwch atebion i’r cwestiynau cyffredin gan rieni am y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau.
Taflenni
"Amddiffyniad yn erbyn tetanws, difftheria a pholio – brechlynnau atgyfnerthu i’r rhai yn eu harddegau" pdf
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk