Booster harddegau 3-mewn-1 Cwestiynau Cyffredin
Pwy ddylai gael y brechiad?
Sut mae’r brechlyn yn cael ei roi?
Os cefais fy mrechu yn erbyn tetanws, difftheria a pholio pan oeddwn yn blentyn, a wyf yn dal i fod wedi fy niogelu?
A allwch chi gael polio o ran polio’r brechlyn hwn?
Sawl brechiad atgyfnerthu y bydd angen i mi ei gael?
Beth yw sgil-effeithiau mwyaf cyffredin y brechlyn atgyfnerthu Td/IPV?
A oes unrhyw un na ddylai gael ei frechu?
A ddylwn i gael unrhyw frechiadau eraill ar yr un pryd â’r brechlyn atgyfnerthu i’r rhai yn eu harddegau?
A oes modd rhoi’r brechlyn atgyfnerthu hwn gyda brechlynnau eraill?
Beth mae’r brechlyn Td/IPV yn ei gynnwys?
Beth ddylwn i ei wneud os yw fy mhlentyn yn sâl ar ôl cael y brechlyn hwn?
Beth yw difftheria?
Beth yw tetanws?
Beth yw polio?
Mae’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau yn cael ei gynnig trwy’r GIG fel mater o drefn i bob person ifanc 13 i 18 oed.
Fe’i rhoddir ar ffurf pigiad i ran uchaf y fraich.
Bydd gennych rywfaint o amddiffyniad, ond bydd y brechiad atgyfnerthu hwn yn cynyddu lefel eich gwrthgyrff ac yn helpu i’ch diogelu am flynyddoedd lawer i ddod.
Mae’r brechlyn atgyfnerthu i’r rhai yn eu harddegau yn cynnwys brechlyn polio anweithredol (lladdedig), nad yw’n gallu achosi polio.
Bydd angen i chi gael pum dos o’r brechlynnau tetanws, difftheria a pholio ar hyd eich oes i gynyddu a chynnal eich imiwnedd.
Rhoddir y tri dos cyntaf i fabanod ar ffurf y brechlyn 5 mewn 1, rhoddir y pedwerydd dos i blant oddeutu teirblwydd oed ar ffurf brechlyn atgyfnerthu cyn oed ysgol a adwaenir fel y brechlyn 4 mewn 1, a rhoddir y pumed dos (sef y dos olaf) ar ffurf y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau rhwng 13 a 18 oed.
Os ydych yn credu y gallech fod wedi methu unrhyw un o’ch dosau, siaradwch â’ch meddyg, nyrs y feddygfa neu nyrs yr ysgol.
Mae ychydig o chwyddo a chochni yn y man lle y rhoddwyd y pigiad yn arferol fel sgil-effaith y brechlyn atgyfnerthu i’r rhai yn eu harddegau, ond nid yw’n rhywbeth i bryderu amdano a bydd yn diflannu’n gyflym. Bydd lwmp bach di-boen yn datblygu weithiau, ond bydd yn diflannu ymhen ychydig wythnosau fel arfer.
Ychydig iawn o bobl ifanc na ellir rhoi’r brechlyn atgyfnerthu i’r rhai yn eu harddegau iddynt.
Fodd bynnag, ni ddylech gael y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau os ydych wedi cael adwaith anaffylactig (adwaith alergaidd difrifol) i ddos blaenorol.
Os ydych yn sâl gyda thwymyn, dylech ohirio’r brechiad hyd nes y byddwch yn well. Y rheswm am hyn yw er mwyn osgoi drysu symptomau unrhyw salwch presennol ag adwaith niweidiol i’r brechlyn.
Byddwch yn cael y brechlyn atgyfnerthu Men C ar yr un pryd â’ch brechlyn 3 mewn 1, yn ôl pob tebyg. Mae hefyd yn gyfle da i wirio gyda’r meddyg neu’r nyrs bod eich holl frechiadau eraill yn gyfredol – er enghraifft, MMR, meningitis C ac (i rai pobl) hepatitis B. Os nad ydynt, gallwch gael y brechiadau hyn ar yr un pryd â’r brechlyn 3 mewn 1.
I gael mwy o wybodaeth, gweler rhaglen brechiadau’r GIG.
Oes, gellir rhoi’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau ar yr un pryd â brechiadau arferol eraill plentyndod.
Brechlyn cyfunol yw’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau sy’n cynnwys:
- tocsoid difftheria puredig (dos isel)
- tocsoid tetanws puredig
- tri math o feirws polio anweithredol (lladdedig)
Nid yw’r brechlyn 3 mewn 1 yn cynnwys thiomersal, sef cadwolyn a sail mercwri iddo.
Darllenwch fwy ynghylch cynhwysion brechlynnau.
Gallai rhai pobl ifanc ddatblygu twymyn ysgafn ar ôl cael y brechiad. Os bydd hyn yn digwydd, gwnewch yn siwr eu bod yn yfed digon o ddiodydd oer, a gallwch roi parasetamol neu ibuprofen iddynt (peidiwch â rhoi asbirin i blant iau nag 16 oed).
Clefyd bacteriol difrifol yw difftheria sydd fel arfer yn dechrau gyda dolur gwddw ac sy’n gallu datblygu’n gyflym i achosi problemau anadlu. Fe all niweidio’r galon a’r system nerfol, ac fe all ladd. Mae difftheria’n gallu cael ei ledaenu trwy gysylltiad agos ag unigolyn heintiedig.
Clefyd poenus sy’n effeithio ar y cyhyrau ac sy’n gallu achosi problemau anadlu difrifol yw tetanws. Fe’i hachosir gan y tocsin tetanws sy’n cael ei ryddhau gan facteria a geir mewn pridd a dom. Mae’r bacteria’n gallu mynd i mewn i’r corff trwy friwiau neu losgiadau. Mae tetanws yn gallu lladd.
Feirws yw polio sy’n ymosod ar y system nerfol ac sy’n gallu parlysu’r cyhyrau yn y breichiau a’r coesau yn barhaol. Os yw’n effeithio ar gyhyrau’r frest, fe all fod yn angheuol.
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk