Booster 4-mewn-1: Cwestiynau cyffredin
Pwy ddylai gael y brechiad?
Pam mae IPV (brechlyn polio anweithredol) yn cael ei ddefnyddio yn hytrach nag OPV (brechlyn polio geneuol), a ddefnyddiwyd yn y gorffennol?
A allwch chi gael polio o ran polio’r brechlyn hwn?
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dTaP/IPV a DTaP/IPV?
Sut ydym ni’n gwybod bod y brechlyn hwn yn ddiogel?
Pa mor effeithiol yw’r brechlyn DTaP/IPV newydd?
Beth yw sgil-effeithiau mwyaf cyffredin y brechlyn DTaP/IPV?
Beth yw difftheria?
Beth yw tetanws?
Beth yw’r pâs?
Beth yw polio?
Pa frechlynnau eraill y dylai fy mhlentyn eu cael ar yr oedran hwn?
A all y brechlyn hwn gael ei roi gyda brechlynnau eraill?
Mae’r brechlyn DTaP/IPV yn cael ei roi fel brechlyn atgyfnerthu cyn oed ysgol pan fydd eich plentyn oddeutu tair blwydd a phedwar mis oed.
Defnyddiwyd y brechlyn polio geneuol (OPV) o’r 1960au ymlaen oherwydd bod y brechlyn byw yn darparu amddiffyniad gwell i’r gymuned gyfan yn erbyn polio.
Gan fod polio wedi’i ddileu o rannau mawr o’r byd erbyn hyn, mae risg y clefyd mor isel fel ei bod bellach yn adeg briodol i newid i frechlyn polio anweithredol, a roddir ar ffurf pigiad ac nad yw’n cynnwys risg polio parlysol.
Mae’r brechlyn atgyfnerthu i blant cyn oed ysgol yn defnyddio brechlyn polio anweithredol, nad yw’n gallu achos polio.
Mae brechlynnau difftheria’n cael eu cynhyrchu mewn dau gryfder gwahanol. Rhoddir y talfyriad ‘D’ i’r brechlyn cryfder uwch a’r talfyriad ‘d’ i’r brechlyn cryfder is. Dangoswyd bod y ddau frechlyn yn rhoi ymatebion da, felly nid oes gwahaniaeth pa un a roddir i’ch plentyn fel brechlyn atgyfnerthu cyn oed ysgol.
Cyn y gellir rhoi brechlyn i unrhyw un, mae’n rhaid iddo gael llawer o brofion i wirio ei fod yn ddiogel ac yn gweithio. Mae’r gwiriadau hyn yn parhau hyd yn oed ar ôl i frechlyn gael ei gyflwyno. Dim ond brechlynnau sy’n llwyddo yn yr holl brofion diogelwch sy’n cael eu defnyddio.
Gall pob math o feddyginiaeth achosi sgil-effeithiau, ond mae brechlynnau ymhlith y mwyaf diogel. Mae ymchwil o bob rhan o’r byd yn dangos mai brechu yw’r ffordd fwyaf diogel o ddiogelu iechyd eich plentyn.
Mae astudiaethau wedi dangos bod y brechlyn atgyfnerthu i blant cyn oed ysgol yn effeithiol iawn.
Yn ogystal â diogelu eich plentyn, mae hefyd yn atal eich plentyn rhag trosglwyddo’r germau i fabanod sy’n rhy ifanc i fod wedi cael eu holl frechiadau.
Fe allai ychydig o gochni a chwyddo ymddangos yn y man lle y rhoddwyd y pigiad, ond bydd hyn yn diflannu ar ôl ychydig ddiwrnodau fel arfer. Gallai lwmp caled ymddangos yn yr un man, ond bydd hwn yn diflannu hefyd, ar ôl ychydig wythnosau fel arfer.
Clefyd bacteriol difrifol yw difftheria sydd fel arfer yn dechrau gyda dolur gwddw ac sy’n gallu datblygu’n gyflym i achosi problemau anadlu difrifol. Fe all niweidio’r galon a’r system nerfol ac fe all ladd. Mae difftheria yn gallu lledaenu trwy gysylltiad agos ag unigolyn heintiedig.
Clefyd poenus yw tetanws sy’n effeithio ar y cyhyrau ac sy’n gallu achosi problemau anadlu. Fe’i hachosir gan facteria a geir mewn pridd a dom, sy’n gallu mynd i mewn i’r corff trwy friwiau neu losgiadau. Mae tetanws yn gallu lladd.
Mae clefyd y pâs, a adwaenir yn feddygol fel pertwsis, yn gallu achosi pyliau o beswch difrifol a thagu, gan ei gwneud yn anodd anadlu. Mae’n para am hyd at 10 wythnos. Nid yw’n ddifrifol mewn plant hŷn fel arfer, ond fe all achosi niwed i’r ymennydd a bod yn angheuol i fabanod sy’n iau na blwydd oed.
Feirws yw polio sy’n ymosod ar y system nerfol ac sy’n gallu parlysu’r cyhyrau yn y breichiau a’r coesau yn barhaol. Os yw’n effeithio ar gyhyrau’r frest, fe all ladd.
Dylai gael ail ddos y brechlyn MMR i ddiogelu rhag y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela.
Gall. Mae’r brechlyn atgyfnerthu i blant cyn oed ysgol yn gallu cael ei roi ar yr un pryd ag unrhyw frechlyn arall, ond dylai’r pigiad gael ei roi mewn rhan wahanol o’r corff.
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk