Vaccination menu links


Atgyfnerthu Hib/Men C

Mae’r brechlyn Hib/Men C yn cael ei roi ar ffurf un pigiad i hybu amddiffyniad eich baban yn erbyn dau glefyd gwahanol, sef Haemophilus influenzae math b (Hib) a meningitis C.

Mae heintiau Hib a meningitis C yn ddifrifol ac yn angheuol o bosibl, ac mae’r ddau’n gallu achosi meningitis a septisemia (gwenwyn gwaed).

Pwy ddylai gael y brechlyn Hib/Men C?

Brechlyn yw Hib/Men C sy’n cael ei roi i bob baban yn fuan ar ôl eu pen-blwydd cyntaf yn rhan o raglen brechiadau plentyndod y GIG.

Mae’r brechlyn yn hybu’r amddiffyniad y mae eich plentyn eisoes wedi’i gael o gwrs cyntaf y brechlyn Hib a gafodd yn y brechlyn 5 mewn 1 pan oedd yn 8, 12 ac 16 wythnos oed, ynghyd a dos o’r brechlyn Men C .

Pan fydd eich baban wedi cael y brechlyn atgyfnerthu Hib/Men C, bydd wedi’i ddiogelu rhag Hib a meningitis C i oedolaeth.

Enw brand y brechlyn Hib/Men C a roddir yn y Deyrnas Unedig yw Menitorix.

Pa mor ddiogel yw’r brechlyn Hib/Men C?

Mae’r brechlyn Hib/Men C yn ddiogel iawn. Mae’n anweithredol, sy’n golygu nad yw’n cynnwys unrhyw organebau byw, ac felly nid oes perygl o ddal y clefydau y mae’n diogelu yn eu herbyn. Ychydig iawn o sgil-effeithiau sy’n gysylltiedig â’r brechlyn hefyd.

Darllenwch fwy ynghylch sgil-effeithiau’r brechlyn Hib/Men C.

Pa mor effeithiol yw’r brechlyn Hib/Men C?

Mae’r brechlyn atgyfnerthu Hib/Men C yn effeithiol iawn ac yn diogelu plant pan fyddant yn fwyaf agored i’r clefydau hyn. Mae cyfraddau clefyd Hib a meningitis C yn y Deyrnas Unedig ar eu lefelau isaf erioed o ganlyniad i frechu.

Sut mae brechlyn atgyfnerthu’n gweithio?

Mae’r brechlyn atgyfnerthu Hib/Men C yn cynnwys elfennau o’r bacteria sy’n achosi’r clefydau y mae’n diogelu yn eu herbyn.

Os yw’ch plentyn wedi cael brechiadau yn erbyn y clefydau hyn o’r blaen, bydd y brechlynnau atgyfnerthu’n cynyddu ei imiwnedd er mwyn ei ddiogelu yn y dyfodol.

Os daw eich plentyn i gysylltiad â’r germau hyn, bydd y gwrthgyrff a gynhyrchir gan ei gorff ar ôl y brechiad yn ymladd yn erbyn yr haint i atal y clefyd rhag cydio.

Darllenwch atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â’r brechlyn Hib/Men C gan rieni.

Taflenni

Brechlyn Hib/Men C rhwng 12 a 13 mis oed pdf

 


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk