Vaccination menu links


Sgil effeithiau brechlyn pneumococcal

Mae’r brechlyn niwmococol yn ddiogel iawn, er bod ganddo rai sgil-effeithiau, fel pob brechlyn.

Nid yw’n bosibl dal haint niwmococol o’r brechlyn, oherwydd nid yw’r brechlyn yn cynnwys unrhyw facteria byw.

Sgil-effeithiau’r brechlyn niwmococol mewn babanod

Mae sgil-effeithiau ysgafn y brechlyn cyfunol niwmococol (PCV), sef y math o bigiad niwmo a roddir i fabanod iau na dwyflwydd oed, yn cynnwys:

  • diffyg archwaeth
  • tymheredd ychydig yn uwch
  • pigogrwydd
  • cochni yn y man lle y rhoddwyd y pigiad
  • caledwch neu chwyddo yn y man lle y rhoddwyd y pigiad
  • teimlo’n gysglyd
  • peidio â chysgu’n dda

Mae sgil-effeithiau mwy difrifol y pigiad niwmo i fabanod yn anghyffredin ac maent yn cynnwys:

  • tymheredd uchel, sy’n arwain at gonfylsiynau (ffitiau gwres) o bosibl
  • brech croen alergaidd sy’n cosi

Sgil-effeithiau’r brechlyn niwmococol mewn oedolion a phlant hŷn

Mae sgil-effeithiau ysgafn y brechlyn polysacarid niwmococol (PPV), sef y math o bigiad niwmo a roddir i oedolion a phlant dros ddwyflwydd oed, yn cynnwys:

  • dolur ysgafn neu galedwch yn y man lle y rhoddwyd y pigiad sy’n para un i dri diwrnod
  • tymheredd ychydig yn uwch

Nid oes gan fersiwn PPV y pigiad niwmo unrhyw sgil-effeithiau difrifol heblaw am adwaith alergaidd difrifol.

Adweithiau alergaidd i’r pigiad niwmo

Mewn achosion prin iawn, gallai plentyn neu oedolyn gael adwaith alergaidd difrifol ar ôl y naill fath o frechiad niwmococol neu’r llall.

Adwaenir hyn fel adwaith anaffylactig, ac fe all achosi anawsterau anadlu sy’n bygwth bywyd a llewyg. Sgil-effaith ddifrifol yw anaffylacsis sy’n digwydd o fewn munudau o’r pigiad. Mae’n frawychus iawn ar y pryd, ond gellir ei drin yn gwbl lwyddiannus gydag adrenalin.

Bydd y meddyg neu’r nyrs sy’n rhoi’r brechlyn wedi cael ei hyfforddi ar sut i drin adweithiau anaffylactig a, chyn belled â’u bod yn derbyn triniaeth yn brydlon, bydd plant ac oedolion yn gwella’n llwyr.

Rhwng 1997 a 2003, cafwyd 130 o adweithiau anaffylactig yn gysylltiedig â brechlyn yn y Deyrnas Unedig, sy’n golygu mai’r gyfradd gyffredinol yw un ym mhob 900,000 (neu ychydig yn fwy nag un mewn miliwn). Roedd pob un o’r bobl hyn wedi goroesi.

Os sylwch ar unrhyw symptomau anarferol yn eich baban neu ynoch chi eich hun ar ôl cael eich brechu, ffoniwch eich meddyg teulu.

I gael gwybod mwy, darllenwch yr adran diogelwch a sgil-effeithiau brechlynnau.

Rhoi gwybod am sgil-effeithiau’r brechlyn niwmococol

Mae’r Cynllun Cerdyn Melyn yn caniatáu i chi roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir o unrhyw fath o feddyginiaeth rydych yn ei chymryd. Fe’i cynhelir gan gorff gwarchod diogelwch meddyginiaethau o’r enw yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Gweler gwefan y Cynllun Cerdyn Melyn am fwy o wybodaeth.

Darganfyddwch sut i roi gwybod am sgil-effaith brechlyn.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk