Vaccination menu links


Cwestiynau am frechiadau plant

Cewch atebion yma i’ch cwestiynau ynglŷn â brechiadau eich baban, gan gynnwys pa un a ydynt yn ddiogel, yn boenus a beth i’w wneud os byddwch yn methu un o’r pigiadau.

A oes angen i faban gael ei frechu cyn mynd i nofio?

Gallwch fynd â’ch baban i nofio ar unrhyw adeg cyn ac ar ôl ei imiwneiddiadau.

Sut byddaf yn gwybod pryd y dylai fy maban gael ei frechiadau?

Bydd eich meddygfa neu glinig yn anfon llythyr apwyntiad atoch yn awtomatig yn gofyn i chi ddod â’ch baban i gael ei frechiad. Mae’r rhan fwyaf o feddygfeydd a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau imiwneiddio neu glinigau babanod arbennig. Os na allwch gyrraedd y clinig, cysylltwch â’ch meddygfa i drefnu apwyntiad arall. Mae’r holl frechiadau plentyndod yn rhad ac am ddim.

A allaf wrthod brechiadau fy maban?

Gallwch chi, fel rhiant, benderfynu pa un a ydych am i’ch plentyn gael ei imiwneiddio ai peidio. Dylid gofyn am eich caniatâd cyn pob brechiad ac, os byddwch yn gwrthod, dylai hyn gael ei gofnodi yn nodiadau meddygol eich plentyn.

Cofiwch fod llawer o dystiolaeth fod brechiadau’n gwneud llawer mwy o ddaioni na niwed ac y bydd brechlynnau’n diogelu eich plentyn am flynyddoedd lawer yn erbyn amrywiaeth o afiechydon difrifol.

Darllenwch fwy ynghylch pwyso a mesur risgiau a buddion brechu.

Beth os byddaf yn methu apwyntiad brechu?

Os gwnaethoch fethu’r apwyntiad neu ohirio’r imiwneiddiad, trefnwch apwyntiad newydd. Gallwch ailgydio yn yr amserlen imiwneiddio lle y’i gadawyd heb orfod dechrau o’r dechrau.

Darllenwch fwy ynghylch apwyntiadau brechu.

A fydd fy maban yn profi sgil-effeithiau o’r pigiad?

Bydd rhai babanod yn profi sgil-effeithiau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cochni, chwyddo neu dynerwch yn y man lle y rhoddwyd y pigiad iddynt (bydd hyn yn diflannu’n raddol ar ei ben ei hun)
  • pigogrwydd a theimlo’n anhwylus
  • tymheredd uchel (twymyn)

Os bydd eich baban yn datblygu twymyn, gallwch ei drin gyda pharasetamol neu ibuprofen. Ond peidiwch byth â rhoi poenladdwyr iddo cyn y brechiad.

Darllenwch fwy ynghylch beth i’w wneud yn achos sgil-effeithiau brechiadau.

A fydd y brechiad yn achosi poen i’m baban?

Efallai y bydd eich baban yn crïo a chynhyrfu am ychydig funudau, ond bydd yn teimlo’n well ar ôl cwtsh fel arfer.

Darllenwch awgrymiadau da i rieni ynglŷn â brechu i gael chwe awgrym da ymarferol.

Rwy’n credu bod gan fy maban alergedd – a ddylai gael ei frechiadau o hyd?

Dylai. NID yw asthma, ecsema, anoddefiadau bwyd ac alergeddau’n atal eich plentyn rhag cael unrhyw un o’i frechiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â’ch meddyg, nyrs y feddygfa neu’ch ymwelydd iechyd.

Darllenwch y mythau a’r ffeithiau ynglŷn â brechiadau.

Ond mae rhai babanod yn cael adwaith alergaidd i frechiad, on’d ydynt?

Mae’n anghyffredin iawn i fabanod a phlant gael adwaith alergaidd i frechiad, ond mae’n gallu digwydd. Y peth pwysig i’w gofio yw bod modd ei drin yn llwyr.

Arwyddion adwaith alergaidd i frechiad yw brech neu gosi sy’n effeithio ar ran o’r corff neu’r corff cyfan. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y meddyg neu’r nyrs sy’n rhoi’r brechlyn yn gwybod sut i’w drin.

Mewn achosion anghyffredin iawn, gall plant gael adwaith difrifol o fewn ychydig funudau o’r pigiad, sy’n achosi anawsterau anadlu ac, weithiau, llewyg. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Mae’n digwydd oddeutu unwaith mewn pob miliwn o imiwneiddiadau ac, unwaith eto, mae’r bobl sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i ymdrin ag adweithiau anaffylactig yn y fan a’r lle a bydd plant yn gwella’n llwyr gyda thriniaeth.

Darllenwch fwy ynghylch diogelwch brechiadau.

Beth os yw fy maban yn sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?

Os oes gan eich baban salwch ysgafn heb dwymyn, fel annwyd, fe ddylai gael ei frechiadau yn ôl yr arfer. Os yw’ch baban yn sâl gyda thwymyn, gohiriwch y brechiad hyd nes y bydd wedi gwella. Dylid gwneud hyn er mwyn osgoi cysylltu’r dwymyn â’r brechlyn, neu’r risg y gallai’r brechlyn waethygu’r dwymyn sydd eisoes gan eich plentyn.

Os oes gan eich baban:

  • anhwylder gwaedu (er enghraifft, haemoffilia), neu
  • os yw wedi cael ffit nad yw’n gysylltiedig â thwymyn

siaradwch â’ch meddyg, nyrs y practis neu’ch ymwelydd iechyd cyn i’ch plentyn gael unrhyw imiwneiddiadau.

Ganwyd fy maban cyn pryd – a ddylem ni aros iddo dyfu mwy cyn cael y brechiadau?

Gall babanod sy’n cael eu geni’n gynnar fod mewn perygl uwch o ddal heintiau, felly mae’n bwysig iawn eu bod yn cael eu brechiadau’n brydlon, h.y. o ddeufis oed, ni waeth pa mor gynamserol yr oeddent.

Fe allai ymddangos yn gynnar iawn i roi brechiad i faban mor fach, ond mae llawer o astudiaethau gwyddonol wedi dangos ei bod yn adeg dda i roi brechiadau iddynt. Bydd gohirio brechiad hyd nes y bydd babanod cynamserol yn hŷn yn eu gadael yn agored i glefydau.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk