Torri braich neu arddwrn

Cyflwyniad

Broken arm or wrist
Broken arm or wrist

Mynnwch gyngor meddygol cyn gynted â phosibl os ydych chi'n amau eich bod wedi torri eich braich neu'ch arddwrn. Mae angen trin unrhyw dorasgwrn posibl cyn gynted â phosibl. Nid yw'n glir bob amser os yw eich braich neu'ch arddwrn wedi torri neu wedi ysigo yn unig, felly mae'n bwysig bod gweithiwr proffesiynol gofal iechyd yn bwrw golwg ar eich anaf. 

Mynnwch gyngor nawr gan 111:

Os ydych wedi cael anaf i'ch braich neu'ch arddwrn ac:

  • mae'r anaf yn boenus iawn
  • mae llawer iawn o chwyddo neu gleisio 
  • ni allwch ddefnyddio'r fraich neu'r arddwrn sydd wedi'i heffeithio oherwydd y poen 

Bydd 111 yn dweud wrthych beth i'w wneud. Gallant roi'r man cywir i chi gael help os bydd angen i chi weld rhywun.

Ffyrdd eraill o gael help

Ewch i uned mân anafiadau

Mae unedau mân anafiadau yn fannau y gallwch fynd iddynt os bydd angen i chi weld rhywun nawr.

Mae canolfannau galw i mewn yn enw arnynt, hefyd.

Gallech gael eich gweld yn gynt nag y byddech mewn Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Dod o hyd i uned mân anafiadau 

Ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu ffoniwch 999:

  • os yw'r fraich neu'r arddwrn wedi'i heffeithio wedi fferru, yn merwino neu mae pinnau bach ynddi 
  • os oes gennych friw gwael sy'n gwaedu'n drwm
  • os oes asgwrn yn gwthio allan o'ch croen
  • os yw siâp eich braich neu'ch arddwrn wedi newid neu os yw ar ongl ryfedd

Pethau i'w gwneud tra byddwch chi'n aros i weld meddyg

  • defnyddio tywel fel sling i gynnal y fraich sydd wedi'i heffeithio – mae gan wefan Ambiwlans Sant Ioan fwy o wybodaeth am sut i wneud sling ar gyfer braich
  • dal pecyn iâ (neu becyn o bys rhewedig wedi'i lapio mewn tywel) ar yr anaf am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr 
  • atal unrhyw waedu trwy roi pwysau ar y clwyf gyda phad neu orchudd glân, os oes modd
  • tynnu unrhyw emwaith fel modrwyon neu watsys - gallai eich bysedd, eich arddwrn neu eich llaw chwyddo 
  • cymryd parasetamol ar gyfer y poen 

Peidiwch

  • bwyta nac yfed dim rhag ofn y bydd angen llawdriniaeth arnoch i drwsio'r asgwrn pan gyrhaeddwch chi'r ysbyty
  • peidiwch â cheisio defnyddio'r fraich neu'r arddwrn sydd wedi'i heffeithio

Triniaeth ar gyfer braich neu arddwrn wedi torri

Pan fyddwch yn cyrraedd yr ysbyty, bydd y fraich yn cael ei rhoi mewn sblint i'w chynnal ac i atal unrhyw esgyrn sydd wedi torri rhag symud allan o le. 

Byddwch yn cael meddyginiaethau lleddfu poen ar gyfer y poen, hefyd.

Yna, caiff pelydr-X ei ddefnyddio i weld a oes asgwrn wedi torri a pha mor wael ydyw. 

Gellir defnyddio cast plastr i gadw'ch braich yn ei lle hyd nes bydd yn gwella – weithiau, bydd hyn yn cael ei wneud ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach, fel bod unrhyw chwyddo'n diflannu gyntaf. Efallai y cewch chi sling i gynnal eich braich. 

Gall meddyg geisio ffitio'r toresgyrn yn ôl i'w lle â llaw cyn gosod sblint neu gast – byddwch yn cael meddyginiaeth cyn bod hyn yn digwydd fel na fyddwch yn teimlo poen. Os torrwyd yr esgyrn yn ddrwg, efallai y gwneir llawdriniaeth i osod y toresgyrn yn ôl yn eu lle. 

Cyn gadael yr ysbyty, fe gewch chi boenleddfwyr i fynd adref a chyngor ar sut i ofalu am eich cast. 

Gofynnir i chi ddod i apwyntiadau dilynol i weld sut mae eich braich neu arddwrn yn gwella.

Pa mor hir y mae'n ei gymryd i wella ar ôl torri braich neu arddwrn?

Gan amlaf, mae'n cymryd tua 6 i 8 wythnos i wella ar ôl torri braich neu arddwrn. Gall gymryd mwy o amser os gwnaed niwed difrifol i'ch braich neu arddwrn. 

Bydd angen i chi wisgo'ch cast plastr hyd nes bod y torasgwrn yn gwella. Gall y croen o dan y cast fod yn goslyd am ychydig ddiwrnodau, ond dylai hynny fynd.

Bydd yr ysbyty'n rhoi taflen gyngor i chi gydag ymarferion i'w gwneud bob dydd i helpu cyflymu'ch gwellhad.

Gall eich braich neu arddwrn fod yn anystwyth ar ôl tynnu'r cast. Gall ffisiotherapydd helpu gyda'r problemau hyn, ond gallant bara sawl mis neu fwy. 

Pethau y gallwch eu gwneud i helpu wrth wella

  • ceisio cadw'ch llaw uwchlaw'ch penelin pryd bynnag y bo'n bosibl; defnyddiwch obennydd yn ystod y nos i wneud hyn
  • dilyn unrhyw gyngor ymarfer corff a roddwyd i chi 
  • defnyddio'r poenleddfwyr a roddwyd i chi i leddfu poen

Peidiwch

  • gwlychu eich cast – mae gorchuddion gwrth-ddŵr ar gyfer castiau ar gael o fferyllfeydd
  • defnyddio unrhyw beth i grafu o dan y cast, oherwydd gallai hyn arwain at haint
  • gyrru na cheisio codi eitemau trwm hyd nes y cewch chi gyngor ei bod hi'n ddiogel i chi wneud hynny 

Mynnwch gyngor gan 111 nawr:

  • os yw'r poen yn eich braich neu arddwrn yn gwaethygu 
  • os yw eich tymheredd yn uchel iawn neu rydych yn teimlo'n boeth ac yn crynu 
  • os bydd eich cast yn torri, neu mae'r cast yn teimlo'n rhy dynn neu'n rhy lac 
  • os bydd eich bysedd, eich arddwrn a'ch braich yn dechrau fferru 
  • os oes golwg chwyddedig ar eich breichiau, eich arddwrn a'ch braich, neu maent yn troi'n las neu'n wyn 
  • os oes arogl drwg neu hylif yn dod o'ch cast 

Bydd 111 yn dweud wrthych beth i'w wneud. Gallant roi'r man cywir i chi gael help os bydd angen i chi weld rhywun.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 12/01/2024 11:57:36