Gall torri bys troed fod yn boenus iawn, ond nid yw'n ddifrifol fel arfer ac yn aml gellir ei drin gartref. Bydd y rhan fwyaf yn gwella ymhen pedair i chwe wythnos.
Gall toriadau mwy difrifol gymryd mwy o amser i wella a gallai fod angen triniaeth yn yr ysbyty.
Mae'r dudalen hon yn ymdrin â:
- Symptomau bys troed wedi torri
- Sut i drin bys troed wedi torri gartref
- Pa bryd i weld eich meddyg teulu
- Pa bryd i fynd i'r ysbyty
- Triniaeth ar gyfer toriadau difrifol
Symptomau bys troed wedi torri
Fel arfer bydd bys troed wedi torri:
- yn eithriadol o boenus a thyner
- wedi chwyddo
- yn goch neu'n gleisiog
- yn anodd cerdded arno
Os yw'r toriad yn ddifrifol, efallai y bydd y bys troed yn sticio allan ar ongl neu efallai y bydd yr asgwrn yn gwthio drwy'r croen.
Gall fod yn anodd dweud a yw bys troed wedi torri neu wedi'i anafu/brifo'n ddrwg. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siŵr, gan y bydd y triniaeth yr un peth ar gyfer y ddau fel arfer.
Sut i drin bys troed wedi torri gartref
Gellir trin y rhan fwyaf o achosion o fysedd troed wedi torri gartref. Gweler isod i gael cyngor ar pryd i weld eich meddyg teulu a pryd i fynd i'r ysbyty.
Gellir defnyddio'r cynghorion canlynol i ofalu am fys troed wedi torri:
- Rhowch ddarn o wlân cotwm neu liain rhwyllog (gauze) rhwng y bys sydd wedi'i anafu a'r bys nesaf ato, a'u tapio ynghyd gyda phlaster neu dâp llawfeddygol.
- Codwch eich troed i fyny (uwchlaw lefel eich calon sydd orau) pa bryd bynnag y gallwch yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf – er enghraifft, drwy ei gorffwys ar glustogau. Bydd hyn yn helpu lleihau chwyddo a phoen.
- Daliwch becyn rhew (fel pecyn o bys rhewedig wedi'i lapio mewn tywel) ar y bys am ryw 15-20 munud bob ychydig oriau am y diwrnod neu ddau cyntaf. Peidiwch â rhoi rhew yn syth ar y croen.
- Gorffwyswch y bys troed trwy beidio â cherdded na sefyll am gyfnod rhy hir ar y dechrau, a pheidio â rhoi pwysau ar y bys troed hyd nes bod y boen yn dechrau gwella.
- Cymerwch boenladdwyr dros y cownter fel parasetamol neu ibwproffen i leddfu'r boen. Peidiwch â rhoi aspirin i blentyn dan 16 oed.
- Gwisgwch esgidiau cadarn gyda gwadn caled nad yw'n gwasgu nac yn plygu'r bys troed.
Yn raddol, gallwch fynd yn ôl i wneud eich gweithgareddau arferol pan fyddwch chi'n gallu gwisgo esgidiau eto a cherdded o amgylch heb anesmwythder.
Pryd i weld eich meddyg teulu
Gwiriwch y bys troed bob dydd a ffoniwch eich meddyg teulu:
- os yw'r boen yn gwaethygu neu os nad yw poenladdwyr cyffredin yn lleddfu'r boen - efallai y gall eich meddyg teulu roi presgripsiwn am boenladdwyr cryfach i chi
- os nad yw'r chwydd neu'r afliwiad yn gwella ar ôl ychydig ddyddiau
- os oes gennych glwyf neu groen toredig gerllaw'r bys troed sydd wedi'i anafu, y bydd angen ei lanhau er mwyn atal haint
- os oes gennych gyflwr sy'n effeithio ar y nerfau a chylchrediad y gwaed yn eich traed, fel diabetes neu clefyd prifwythiennol ymylol (PAD)
- os ydych chi'n dal i gael problemau, fel poen sydd ddim yn gwella neu anhawster cerdded, ar ôl mwy na dwy i dair wythnos
Pryd i fynd i'r ysbyty
Ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys (A&E) agosaf:
- os ydych wedi cael anaf difrifol, fel eich troed wedi'i mathru (crushed) neu ddamwain traffig ar y ffordd
- os ydych chi'n meddwl bod bys mawr eich troed wedi torri
- os yw bysedd eich traed yn oer ac yn ddideimlad neu'n merwino
- os yw'r croen ar fys eich troed wedi troi'n las neu'n llwyd
- os yw'r bys troed wedi'i anffurfio'n ddifrifol – er enghraifft, mae'r bys troed wedi plygu ar ongl neu mae'r asgwrn yn sticio allan drwy'r croen
- os oes poen difrifol o dan yr ewin, a allai gael ei achosi gan waed wedi casglu
Triniaeth ar gyfer bys troed sydd wedi torri'n ddrwg
Os yw bys eich troed wedi torri'n ddrwg, gall fod angen y canlynol arnoch chi:
- pelydr-X o'ch troed i wirio a yw bys eich troed wedi torri a pha mor ddifrifol yw'r toriad
- gweithdrefn i symud unrhyw esgyrn sydd allan o le yn ôl i'r man cywir – gall meddyg wneud hyn gyda'i ddwylo yn aml (nid oes angen gwneud unrhyw doriadau) tra bod eich troed wedi'i fferru gydag anesthetig lleol
- gweithdrefn i ddraenio gwaed o dan ewin y bys troed yr effeithiwyd arno, neu i dynnu'r ewin yn llwyr os oes llawer o waed wedi'i ddal o dano
- cast neu esgid neu fotasen arbennig â gwadn pren i gynnal bys mawr eich troed os yw wedi torri
- baglau fel eich bod yn gallu cerdded heb roi pwysau ar y bys troed
- glanhau unrhyw glwyfau, ac o bosibl gwrthfiotigau neu bigiad tetanws os nad ydych chi wedi cael y brechiadau diweddaraf
Os yw'r toriad yn arbennig o ddifrifol, gall fod angen llawdriniaeth arnoch chi i roi'r esgyrn sydd wedi torri yn ôl i'r man cywir a'u gosod yn eu lle gyda phinnau neu sgriwiau arbennig.