Pendro

Trosolwg

Mae'n gyffredin teimlo weithiau bod y bendro arnoch, eich bod yn benysgafn neu'n sigledig, ac nid yw hyn fel arfer yn ddifrifol. Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n poeni.

Gwiriwch a yw'r bendro arnoch

Mae'r bendro yn cynnwys teimlo:

  • yn sigledig
  • yn benfeddw
  • yn benysgafn neu fel pe baech am lewygu
  • fel pe baech yn troelli neu fod pethau o'ch cwmpas yn troelli (fertigo)

Sut gallwch chi drin y bendro eich hun

Mae'r bendro fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i ofalu amdanoch eich hun tra byddwch yn teimlo bod y bendro arnoch.

Pethau y dylech eu gwneud

  • gorweddwch i lawr hyd nes bydd y bendro yn gwella, wedyn codwch yn araf
  • symudwch yn araf ac yn ofalus
  • dylech gael digon o orffwys
  • yfwch ddigon o hylif, yn enwedig dŵr
  • ceisiwch osgoi coffi, sigaréts, alcohol a chyffuriau

Pethau na ddylech eu gwneud

  • peidiwch â phlygu i lawr yn sydyn
  • peidiwch â chodi'n sydyn ar ôl eistedd neu orwedd i lawr
  • peidiwch â gwneud unrhyw beth a allai fod yn beryglus tra byddwch yn teimlo bod y bendro arnoch, fel gyrru, dringo ysgol neu ddefnyddio peiriannau trwm
  • peidiwch â gorwedd yn hollol fflat os ydych chi'n teimlo fel bod pethau'n troelli - defnyddiwch obenyddion i gadw'ch pen i fyny

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os ydych chi'n poeni am eich pendro neu fertigo
  • os nad yw'n gwella neu mae'n dod yn ôl o hyd
  • os ydych yn ei chael yn anoddach clywed
  • os oes atsain neu synau eraill yn eich clustiau (tinitws)
  • os oes gennych chi olwg dwbl, golwg aneglur neu newidiadau eraill yn eich golwg
  • os oes diffyg teimlad yn eich wyneb, breichiau neu goesau
  • os oes gennych chi symptomau eraill fel llewygu, pen tost / cur pen, yn teimlo'n sâl neu'n chwydu

Ffoniwch 111 Cymru

Os na allwch chi siarad â'ch meddyg teulu neu dydych chi ddim yn gwybod beth i'w wneud nesaf, ffoniwch 111. Mae 111 ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Caiff pob galwad ei recordio er diogelwch cleifion. Does dim angen talu am ffonio 111. 

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 14/10/2022 11:04:27