Ceg sych

Ceg sych (xerostomia)

Gall ceg sych (serostomia) ddigwydd pan na fydd eich chwarennau poer yn cynhyrchu digon o boer. Gall rhai pobl gael ceg sych pan fyddant yn nerfus neu wedi dadhydradu. I eraill, gall problem sylfaenol neu gyflwr meddygol ei achosi.

Mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu ei liniaru eich hun. Ewch i weld meddyg teulu os na fydd y rhain yn gweithio neu os oes gennych symptomau eraill hefyd.

Achosion ceg sych

Prif achosion ceg sych yw:

  • dadhydradu – er enghraifft o beidio yfed digon, chwysu neu fod yn sâl 
  • meddyginiaethau – darllenwch y daflen wybodaeth i weld a yw ceg sych yn sgîl-effaith 
  • anadlu trwy eich ceg yn y nos – gall hyn ddigwydd os oes gennych drwyn llawn neu os ydych chi'n cysgu gyda'ch ceg ar agor
  • gorbryder
  • triniaeth canser (radiotherapi neu gemotherapi)
  • llindag y geg

Weithiau, gall cyflwr fel diabetes neu syndrom Sjögren achosi ceg sych sydd ddim yn gwella.

Hunangymorth

Gwnewch y canlynol:

  • yfed digon o ddŵr - dylech sipian yn rheolaidd yn ystod y dydd a chadw ychydig o ddŵr wrth eich gwely yn y nos
  • sugno ar dalpau iâ neu lolipops rhew
  • sipian diodydd oer heb eu melysu
  • cnoi gwm heb siwgr neu sugno losin heb siwgr
  • defnyddio eli'r gwefusau os yw eich gwefusau'n sych hefyd 
  • brwsio eich dannedd ddwywaith y dydd a defnyddio cegolch heb alcohol - mae eich dannedd yn fwy tebygol o bydru os oes gennych geg sych 

Peidiwch:

  • yfed llawer o alcohol, caffein (fel te a choffi) neu ddiodydd pefriog 
  • defnyddio cynnyrch poer artiffisial asidig (fel chwistrell erosol Glandosane) os oes gennych eich dannedd eich hun 
  • bwyta bwydydd sy'n asidig (fel lemonau), sbeislyd, hallt neu felys
  • ysmygu
  • cysgu gyda'ch dannedd gosod yn eich ceg
  • rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn heb gael cyngor meddygol yn y lle cyntaf – hyd yn oed os ydych chi'n amau y gall fod yn achosi eich symptomau 

Gall fferyllydd helpu os oes gennych geg sych 

Holwch fferyllydd am driniaethau gallwch chi eu prynu i helpu cadw eich ceg yn llaith.

Gallwch gael:

  • geliau
  • chwistrelli
  • tabledi neu losenni 

Nid yw pob cynnyrch yn addas i bawb. Gofynnwch i fferyllydd am gyngor ar yr un gorau i chi.

Os gall trwyn llawn fod yn achosi eich ceg sych, gallai fferyllydd awgrymu moddion llacio i'w ryddhau.

Pryd i weld meddyg teulu

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os yw eich ceg yn sych o hyd ar ôl rhoi cynnig ar driniaethau cartref neu fferyllfa am ychydig wythnosau 
  • os cewch drafferth cnoi, llyncu neu siarad 
  • os ydych chi'n cael trafferth bwyta yn rheolaidd 
  • os ydych chi'n cael problemau gyda'ch synnwyr blasu, ac nid ydynt yn diflannu 
  • os yw eich ceg yn boenus, yn goch, wedi chwyddo neu'n gwaedu
  • os oes gennych batsys gwyn, dolurus yn eich ceg
  • os ydych chi'n amau bod meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn achosi eich ceg sych
  • os oes gennych symptomau eraill, fel yr angen am fynd i'r tŷ bach yn aml neu lygaid sych

Gallant archwilio beth sy'n ei achosi ac argymell triniaeth ar ei gyfer.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/03/2024 11:38:20