Ecsema (atopig)

Cyflwyniad

Eczema

Ecsema atopig (dermatitis atopig) yw'r math mwyaf cyffredin o ecsema, sef cyflwr sy'n achosi i'r croen gosi a mynd yn goch, yn sych ac yn graciog.

Mae ecsema atopig yn fwy cyffredin mewn plant, gan ddatblygu'n aml cyn eu pen-blwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe allai ddatblygu am y tro cyntaf mewn oedolion hefyd.

Cyflwr hirdymor (cronig) ydyw fel arfer, er ei fod yn gallu gwella'n sylweddol, neu hyd yn oed glirio'n llwyr, mewn rhai plant wrth iddynt fynd yn hyn.

Symptomau ecsema atopig

Mae ecsema atopig yn achosi i'r croen gosi a mynd yn sych, yn graciog ac yn boenus.

Bydd gan rai pobl ddarnau bach o groen sych yn unig, ond gallai eraill fod â chroen coch, llidus ar draws y corff.

Gall croen llidus fod yn goch ar groen mwy golau, ac yn frown tywyllach, yn borffor neu'n llwyd ar groen mwy tywyll. Gall fod yn fwy anodd ei weld ar groen mwy tywyll hefyd.

Er bod ecsema atopig yn gallu effeithio ar unrhyw ran o'r corff, gan amlaf mae'n effeithio ar y dwylo, y tu mewn i'r penelinoedd, cefn y pengliniau a'r wyneb a chroen y pen mewn plant.

Fel arfer, bydd pobl sydd ag ecsema atopig yn cael cyfnodau pan fydd y symptomau'n llai amlwg, yn ogystal â chyfnodau pan fydd y symptomau'n fwy difrifol (fflamychiad).

Pryd i geisio cyngor meddygol

Ewch at feddyg teulu os oes gennych symptomau ecsema atopig. Fel arfer, bydd yn gallu gwneud diagnosis o'r cyflwr trwy edrych ar eich croen a gofyn cwestiynau fel:

  • p'un a yw'r frech yn cosi a ble mae'n ymddangos
  • pryd y dechreuodd y symptomau gyntaf
  • p'un a yw'n mynd a dod dros amser
  • p'un a oes hanes o ecsema atopig yn eich teulu
  • p'un a oes gennych unrhyw gyflyrau eraill, fel alergeddau neu asthma
  • p'un a oes rhywbeth yn eich deiet neu eich ffordd o fyw a allai fod yn cyfrannu at eich symptomau

Yn nodweddiadol, i gael diagnosis o ecsema atopig, dylech fod wedi cael cyflwr croen sy'n cosi yn ystod y 12 mis diwethaf a thri neu fwy o'r canlynol:

  • croen coch sy'n amlwg yn llidus ym mhlygiadau'r croen - er enghraifft, y tu mewn i'r penelinoedd neu y tu ôl i'r pengliniau (neu ar y bochau, y tu allan i'r penelinoedd, neu ar flaen y pengliniau mewn plant 18 mis neu iau) ar adeg yr archwiliad gan weithiwr iechyd proffesiynol
  • hanes o lid croen yn yr un mannau a grybwyllwyd uchod
  • croen sych yn gyffredinol yn ystod y 12 mis diwethaf
  • hanes o asthma neu clefyd y gwair - mae'n rhaid bod gan blant iau na phedair blwydd oed berthynas agos, fel rhiant, brawd neu chwaer, sydd ag un o'r cyflyrau hyn
  • bod y cyflwr wedi dechrau cyn dwy flwydd oed (nid yw hyn yn berthnasol i blant iau na phedair blwydd oed)

Achosion ecsema atopig

Nid ydym yn gwybod beth yn union sy'n achosi ecsema atopig, ond mae'n amlwg nad yw'n cael ei achosi gan un peth yn unig.

Mae ecsema atopig yn aml yn digwydd mewn pobl sy'n cael alergeddau - mae "atopig" yn golygu sensitifrwydd i alergenau.

Mae'n gallu rhedeg mewn teuluoedd, ac mae'n aml yn datblygu ochr yn ochr â chyflyrau eraill, fel asthma a clefyd y gwair.

Yn aml, mae symptomau ecsema atopig yn cael eu sbarduno gan bethau penodol, fel sebon, glanedyddion (detergents), straen a'r tywydd.

Weithiau, gall alergeddau bwyd gyfrannu, yn enwedig mewn plant ifanc sydd ag ecsema difrifol.

Efallai y gofynnir i chi gadw dyddiadur bwyd i geisio gweld a yw bwyd penodol yn gwneud eich symptomau'n waeth.

Ni fydd angen profion alergedd fel arfer, er eu bod yn ddefnyddiol weithiau i adnabod p'un a allai alergedd bwyd fod yn sbarduno'r symptomau.

Trin ecsema atopig

Gall triniaeth ar gyfer ecsema atopig helpu i leddfu'r symptomau ac mae llawer o achosion yn gwella dros amser.

Fodd bynnag, nid oes iachâd ar hyn o bryd ac mae ecsema difrifol yn aml yn cael effaith sylweddol ar fywyd pob dydd. Gallai fod yn anodd ymdopi â hyn yn gorfforol ac yn feddyliol.

Mae perygl uwch o heintiau croen hefyd.

Gellir defnyddio llawer o wahanol driniaethau i reoli symptomau ecsema, gan gynnwys:

  • technegau hunanofal, fel lleihau crafu ac osgoi sbardunwyr
  • esmwythyddion (triniaethau lleithio) - a ddefnyddir bob dydd ar gyfer croen sych
  • corticosteroidau argroenol - a ddefnyddir i leihau chwyddo, cochni a chosi yn ystod fflamychiad

Mathau eraill o ecsema

Ecsema yw'r enw ar grwp o gyflyrau croen sy'n achosi croen sych a llidus. Mae mathau eraill o ecsema yn cynnwys:

  • ecsema disgennol - math o ecsema sy'n digwydd mewn darnau cylchol neu hirgrwn ar y croen
  • dermatitis cyswllt - math o ecsema sy'n digwydd pan fydd y corff yn dod i gysylltiad â sylwedd penodol
  • ecsema faricos - math o ecsema sy'n effeithio ar rannau isaf y coesau, gan amlaf, ac sy'n cael ei achosi gan broblemau â llif y gwaed trwy wythiennau'r coes
  • ecsema seborhëig - math o ecsema lle mae darnau coch, cennog yn datblygu ar ochrau'r trwyn, yr aeliau, y clustiau a chroen y pen
  • ecsema dyshidrotig (pompholyx) - math o ecsema sy'n achosi i bothelli bychain ymddangos ar draws cledrau'r dwylo


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16/05/2025 14:04:29