Clwy’r dwylo, y traed a’r genau

Trosolwg

Hand, foot and mouth disease
Hand, foot and mouth disease

Mae clwy'r dwylo, y traed a'r genau yn haint plentyndod cyffredin sy'n gallu effeithio ar oedolion. Bydd fel arfer yn clirio ar ei ben ei hun ymhen 7 i 10 diwrnod.

Gwiriwch ai clwy'r dwylo, y traed a'r genau ydyw

Gall arwyddion cyntaf clwy'r dwylo, y traed a'r genau gynnwys:

  • dolur gwddf/gwddf tost
  • tymheredd uchel, uwchlaw 38C
  • dim awydd bwyta

Ar ôl ychydig ddyddiau, bydd wlserau ceg a brech yn ymddangos. Bydd wlserau yn datblygu yn y geg ac ar y tafod. Gall y rhain fod yn boenus a'i gwneud yn anodd bwyta ac yfed.

Mae smotiau coch, sy'n datblygu'n bothelli, yn ymddangos fel arfer ar y dwylo a'r traed. Mae canol llwyd i'r pothelli, a gallant fod yn boenus.

Mae'r symptomau fel arfer yr un peth mewn oedolion a phlant, ond gallant fod yn waeth o lawer mewn oedolion.

Mae'n bosibl cael clwy'r dwylo, y traed a'r genau fwy nag unwaith.

Os nad ydych chi'n siwr ai clwy'r dwylo, y traed a'r genau ydyw

Edrychwch ar brechau plentyndod.

Nid yw haint clwy'r dwylo, y traed a'r genau yn gysylltiedig o gwbl â chlwy'r traed a'r genau sy'n effeithio ar anifeiliaid fferm.

Sut i drin clwy'r dwylo, y traed a'r genau eich hun

Ni allwch chi gymryd gwrthfiotigau neu feddyginiaethau i wella clwy'r dwylo, y traed a'r genau - mae'n rhaid iddo redeg ei gwrs. Mae'n gwella fel arfer ymhen 7 i 10 diwrnod.

Er mwyn helpu gyda'r symptomau:

  • yfwch ddigon o hylif i atal dadhydradu - osgowch ddiodydd asidig fel sudd ffrwyth
  • bwytwch fwydydd meddal fel cawl - osgowch fwydydd poeth a sbeislyd
  • cymerwch paracetamol neu ibuprofen i helpu i leddfu ceg neu wddf tost/dolur gwddf

Gall fferyllydd helpu gyda chlwy'r dwylo, y traed a'r genau

Siaradwch â'ch fferyllydd i gael cyngor ynglyn â thriniaethau, fel geliau, chwistrellau a rinsiadau ar gyfer wlserau'r geg er mwyn lleddfu poen.

Gall ddweud wrthych pa rai sy'n addas i blant.

Chwiliwch fferyllfa yma.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad yw eich symptomau yn gwella ar ôl 7 i 10 diwrnod
  • os oes gennych chi neu'ch plentyn dymheredd uchel iawn, neu mae'n teimlo'n boeth ac yn grynedig
  • os ydych chi'n poeni ynglyn â symptomau eich plentyn
  • os yw eich plentyn yn dangos arwyddion o ddadhydradu - nid yw'n pasio dwr mor aml â'r arfer
  • os ydych chi'n feichiog ac yn cael clwy'r dwylo, y traed a'r genau

Mae clwy'r dwylo, y traed a'r genau yn heintus. Gwiriwch gyda'ch meddygfa leol cyn mynd yno. Efallai y byddant yn awgrymu ymgynghoriad dros y ffôn.

Sut i atal clwy'r dwylo, y traed a'r genau rhag lledu

Mae clwy'r dwylo, y traed a'r genau yn trosglwyddo'n hawdd i bobl eraill. Mae'n lledu wrth i bobl beswch, tisian ac mewn carthion (cachu).

Rydych chi'n heintus o ychydig ddiwrnodau cyn i chi ddatblygu unrhyw symptomau, ond rydych yn fwyaf tebygol o'i roi i bobl eraill yn y 5 diwrnod cyntaf ar ôl i symptomau ddechrau.

Er mwyn lleihau'r risg o ledaenu clwy'r dwylo, y traed a'r genau:

  • golchwch eich dwylo'n aml gyda dwr cynnes a sebon - a dysgwch eich plant i wneud hynny
  • defnyddiwch hancesi papur i ddal germau pan fyddwch chi'n peswch neu'n tisian
  • rhowch hancesi papur rydych wedi'u defnyddio mewn bin cyn gynted ag y bo modd.
  • peidiwch â rhannu tywelion nag eitemau yn y ty - fel cwpanau neu gyllyll a ffyrc
  • golchwch ddillad gwely a dillad budr ar gylch golchiad poeth

Aros adref o'r ysgol neu'r feithrinfa

Cadwch eich plentyn i ffwrdd o'r ysgol tra bydd yn teimlo'n anhwylus.

Ond cyn gynted ag y bydd yn teimlo'n well, gall fynd yn ôl i'r ysgol neu'r feithrinfa. Nid oes angen aros nes bod yr holl bothelli wedi gwella. Mae cadw'ch plentyn i ffwrdd am fwy o amser yn annhebygol o atal y salwch rhag lledu.

Clwy'r dwylo, y traed a'r genau yn ystod beichiogrwydd

Er nad oes unrhyw berygl i'r beichiogrwydd neu'r babi fel arfer, mae'n well osgoi dod i gysylltiad agos ag unrhyw un sydd â chlwy'r dwylo, y traed a'r genau.

Y rheswm am hyn yw:

  • gall cael tymheredd uchel yn ystod 3 mis cyntaf beichiogrwydd arwain at gamesgor, er bod hyn yn brin iawn
  • gall cael clwy'r dwylo, y traed a'r genau yn fuan cyn rhoi genedigaeth olygu bod y babi yn cael ei eni gyda fersiwn ysgafn ohono

Siaradwch â'ch meddyg teulu neu fydwraig os ydych wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd â chlwy'r dwylo, y traed a'r genau.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 21/05/2024 14:43:44