Impetigo

Cyflwyniad

Mae impetigo yn haint ar y croen sy'n heintus iawn ond nid yw’n ddifrifol fel arfer. Yn aml mae'n gwella mewn 7 i 10 diwrnod os byddwch chi'n cael triniaeth. Gall unrhyw un ei gael ond mae'n gyffredin iawn ymhlith plant ifanc.

Gwiriwch os oes gennych impetigo

Mae impetigo yn dechrau gyda briwiau coch neu bothelli. Maent yn byrstio’n gyflym ac yn gadael rhannau crystiog, aur-frown. Gall y rhain:

  • edrych ychydig fel creision ŷd sy’n sownd i'ch croen
  • mynd yn fwy
  • lledu i rannau eraill o'ch corff
  • fod yn cosi
  • fod yn boenus weithiau

Gall briwiau (impetigo heb fod yn bothellog) neu bothelli (impetigo pothellog) ddechrau yn unrhyw le - ond fel arfer ar ardaloedd agored fel eich wyneb a'ch dwylo.

Mae hefyd yn arferol i bothelli ddechrau o gwmpas eich bol. Mae briwiau pothelli yn byrstio ac yn ffurfio rhannau crystiog.

Os nad ydych chi'n siŵr mai impetigo yw’r haint

Gall impetigo edrych yn debyg i gyflyrau eraill y croen.

  • gallai pothelli ar wefusau neu o gwmpas y geg fod yn ddolur annwyd
  • gallai dolur sy’n cosi, sy’n sych, ac wedi cracio fod yn ecsema
  • gallai pothelli sy’n cosi fod yn eryr, brech yr ieir

Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi neu'ch plentyn:

  • yn dioddef o impetigo o bosibl
  • wedi cael triniaeth am impetigo ond mae’r symptomau'n newid neu'n gwaethygu
  • wedi cael impetigo o'r blaen ac mae'n parhau i ddod yn ôl

Mae impetigo yn heintus iawn. Gwiriwch gyda’ch meddyg teulu cyn mynd i mewn i'r feddygfa. Mae'n bosibl y byddan nhw'n awgrymu ymgynghoriad dros y ffôn.

Triniaeth gan feddyg teulu

Bydd meddyg teulu'n gwirio nad yw'n rhywbeth mwy difrifol, fel llid yr isgroen.

Os impetigo yw’r haint, gallant ragnodi hufen gwrthfiotig i gyflymu'ch adferiad neu dabledi gwrthfiotig os yw'n wael iawn.

Pwysig - Peidiwch â rhoi'r gorau i ddefnyddio'r hufen neu dabledi gwrthfiotig yn gynnar, hyd yn oed os yw'r impetigo yn dechrau clirio.

Os yw eich impetigo yn parhau i ddychwelyd

Gall meddyg teulu gymryd swab o gwmpas eich trwyn i wirio am y bacteria sy'n achosi impetigo.

Efallai y byddan nhw'n rhagnodi hufen trwynol gwrthseptig i geisio clirio'r bacteria a stopio'r impetigo rhag dychwelyd.

Atal impetigo rhag lledaenu neu waethygu

Gall impetigo ledaenu'n hawdd i rannau eraill o'ch corff neu i bobl eraill nes ei fod yn stopio bod yn heintus.

Mae'n stopio bod yn heintus:

  • 48 awr ar ôl i chi ddechrau defnyddio'r meddyginiaethau gafodd eu rhagnodi gan eich meddyg teulu
  • pan fydd y rhannau'n sychu a chrawen yn ffurfio drostynt - os na chewch driniaeth

Gallwch wneud rhai pethau i helpu i'w atal rhag lledaenu neu waethygu tra'i fod yn dal i fod yn heintus:

Gwnewch:

  • cadw draw o'r ysgol neu'r gwaith
  • cadw briwiau, pothelli a rhannau crystiog yn lân a sych
  • eu gorchuddio â dillad rhydd neu rhwymynnau rhwyllog
  • golchi eich dwylo'n aml
  • golchi eich cadachau, cynfasau a thywelion ar dymheredd uchel
  • golchi neu sychu teganau gyda glanedydd a dŵr cynnes os oes gan eich plant impetigo

Peidiwch â:

  • chyffwrdd na chrafu briwiau, pothelli na rhannau crystiog – mae hyn hefyd yn helpu atal creithio
  • dod i gysylltiad agos â phlant neu bobl â diabetes neu system imiwnedd wan (os ydyn nhw'n cael cemotherapi, er enghraifft)
  • rhannu cadachau, cynfasau na thywelion
  • paratoi bwyd i bobl eraill
  • mynd i'r gampfa
  • chwarae chwaraeon cyswllt fel pêl-droed

Sut i osgoi impetigo

Fel arfer, mae impetigo yn heintio croen sydd eisoes wedi'i niweidio. Gallwch osgoi haint drwy:

  • gadw toriadau, crafiadau a brathiadau pryfed yn lân - er enghraifft drwy olchi gyda dŵr cynnes a sebon
  • cael triniaeth ar gyfer cyflyrau’r croen, fel ecsema


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/12/2023 13:55:42