Pryfed, brathiadau a phigiadau

Cyflwyniad

Nid yw'r rhan fwyaf o frathiadau a phigiadau pryfed yn ddifrifol a byddant yn gwella ymhen ychydig oriau neu ddiwrnodau.

Ond weithiau, gallant fynd yn heintus, achosi adwaith alergaidd difrifol (anaffylacsis) neu ledaenu afiechydon difrifol fel clefyd Lyme a malaria.

Mae chwilod sy'n cnoi neu'n brathu yn cynnwys gwenyn meirch, cacwn, gwenyn, pryfed/clêr llwyd, trogod, mosgitos, chwain, pýcs, corynnod/pryfed cop a gwybed.

Symptomau brathiad neu bigiad pryfed

Fel arfer bydd brathiadau a phigiadau pryfed yn achosi i lwmp coch, chwyddedig ddatblygu ar y croen. Gall hwn fod yn boenus, ac mewn rhai achosion gall fod yn goslyd iawn.

Bydd y symptomau yn gwella ymhen ychydig oriau neu ddiwrnodau fel arfer, er y gallant bara ychydig yn hirach weithiau.

Mae rhai pobl yn cael adwaith alergaidd ysgafn a bydd rhan fwy o'r croen o amgylch y brathiad neu'r pigiad yn chwyddo, yn mynd yn goch ac yn boenus. Dylai hyn wella o fewn wythnos.

O bryd i'w gilydd, gall adwaith alergaidd difrifol ddigwydd, gan achosi symptomau fel anawsterau anadlu, y bendro ac wyneb neu geg chwyddedig. Mae angen triniaeth feddygol frys ar hyn.

Beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich brathu neu'ch pigo

I drin brathiad neu bigiad pryfed:

  • tynnwch y pigiad neu'r drogen os yw'n dal yn y croen
  • golchwch y man yr effeithiwyd arno gyda sebon a dwr
  • rhowch glwtyn oer (clwtyn ymolchi neu liain a wlychwyd mewn dwr oer) neu becyn rhew ar unrhyw chwydd am o leiaf 10 munud
  • codwch y man yr effeithiwyd arno os oes modd, gan y gall hyn helpu lleihau'r chwyddo
  • osgowch grafu man y pigiad/brathiad, er mwyn lleihau risg heintio
  • osgowch feddyginiaethau cartref traddodiadol, fel finegr a soda pobi, gan eu bod yn annhebygol o helpu

Weithiau gall y boen, y chwyddo a'r cosi bara am rai diwrnodau. Holwch eich fferyllydd ynglyn â meddyginiaethau sy'n gallu helpu, fel poenladdwyr, elïau ar gyfer cosi a gwrth-histaminau

Pryd i geisio cymorth meddygol

Cysylltwch â'ch meddyg teulu neu 111 i gael cyngor:

  • os ydych chi'n pryderu ynghylch brathiad neu bigiad
  • os nad yw eich symptomau yn dechrau gwella ymhen ychydig ddyddiau neu os ydynt yn gwaethygu
  • os ydych chi wedi cael eich brathu neu eich pigo yn eich ceg neu'ch gwddf, neu gerllaw eich llygaid
  • os oes rhan fawr (rhan o'r croen sydd tua 10cm neu fwy) o amgylch y brathiad yn cochi ac yn chwyddo
  • os oes gennych symptomau o haint clwyf, fel crawn neu boen, chwyddo neu gochni sy'n gwaethygu
  • os oes gennych symptomau o haint ehangach, fel tymheredd uchel, chwarennau wedi chwyddo a symptomau eraill tebyg i'r ffliw

Os ydych chi wedi cael eich pigo, gallwch ddefnyddio ein Gwiriwr Symptomau Pigiadau ar-lein i gael gwybod beth i'w wneud.

Pa bryd i gael help meddygol ar frys

Deialwch 999 a gofynnwch am ambiwlans ar unwaith os byddwch chi neu rywun arall yn cael symptomau o adwaith difrifol, fel:

  • gwichian ar y frest neu anhawster anadlu
  • chwyddo yn yr wyneb, y geg neu'r gwddf
  • teimlo'n gyfoglyd neu chwydu
  • curiad calon cyflym
  • pendro neu deimlo fel llewygu
  • anhawster llyncu
  • mynd yn anymwybodol

Mae angen triniaeth frys yn yr ysbyty yn yr achosion hyn.

Atal brathiadau a phigiadau pryfed

Mae nifer o gamau syml y gallwch eu cymryd, fel rhagofal, i leihau eich risg o gael eich brathu neu bigo gan bryfed.

Er enghraifft, dylech:

  • geisio peidio â chynhyrfu os dewch ar draws gwenyn meirch, cacwn neu wenyn, a symudwch yn ôl yn araf - peidiwch â chwifio'ch breichiau o gwmpas na cheisio eu taro
  • gorchuddio croen sydd yn y golwg drwy wisgo llewys hir a throwsus hir
  • gwisgo esgidiau pan fyddwch yn yr awyr agored
  • defnyddio cynnyrch ymlid pryfed ar groen sydd yn y golwg - cynnyrch ymlid sy'n cynnwys 50% DEET (diethyltoluamide) sy'n fwyaf effeithiol
  • osgoi defnyddio cynnyrch sy'n cynnwys persawrau cryf, fel sebonau, siampwau a diaroglyddion (deodorants) - gall y rhain ddenu pryfed
  • gymryd gofal o gwmpas planhigion sy'n blodeuo, sbwriel, compost, merddwr (stagnant water), ac mewn mannau awyr agored lle gweinir bwyd

Gall fod angen i chi gymryd camau diogelu ychwanegol os ydych chi'n teithio i ran o'r byd lle ceir risg o glefydau difrifol. Er enghraifft, efallai y cewch eich cynghori i gymryd tabledi gwrthfalariaidd i helpu atal malaria.

Symptomau

Mae brathiad neu bigiad pryfed yn aml yn achosi i lwmp bach coch ddatblygu ar y croen, a gall fod yn boenus a choslyd.

Bydd llawer o frathiadau yn clirio ymhen ychydig oriau neu ddiwrnodau, a gellir eu trin yn ddiogel gartref.

Gall fod yn anodd dweud beth wnaeth eich brathu neu bigo os na weloch chi hynny'n digwydd. Ond peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr - mae'r driniaeth yn debyg ar gyfer y rhan fwyaf o frathiadau a phigiadau.

Pigiadau gan wenyn meirch a chacwn

Bydd pigiad gan wenynen feirch neu gacynen yn achosi gwayw o boen i ddechrau. Yna gall marc coch chwyddedig ffurfio ar eich croen, sy'n gallu para rhai oriau a bod yn boenus a choslyd.

Weithiau gall rhan fwy o'r croen o amgylch y pigiad fod yn boenus, yn goch a chwyddedig am hyd at wythnos. Adwaith alergaidd bach yw hwn, ac fel arfer nid yw'n unrhyw beth i boeni yn ei gylch.

Gall ychydig o bobl gael adwaith alergaidd difrifol (anaffylacsis), sy'n achosi anawsterau anadlu, y bendro ac wyneb neu geg chwyddedig. Ffoniwch 999 i ofyn am ambiwlans ar unwaith os yw'r symptomau hyn gennych.

Pigiadau gan wenyn

Bydd pigiad gan wenynen yn teimlo'n debyg i bigiad gan wenynen feirch, ond bydd y pigiad ei hun yn cael ei adael yn y clwyf yn aml. Gweler trin brathiadau pryfed i gael cyngor am sut i dynnu hwn yn ddiogel.

Gall y pigiad achosi poen, cochni a chwyddo am rai oriau. Fel gyda phigiadau gwenyn meirch, gall rhai pobl gael adwaith alergaidd ysgafn sy'n para am hyd at wythnos.

Gall adweithiau alergaidd difrifol ddigwydd o bryd i'w gilydd hefyd, gan achosi anawsterau anadlu, y bendro ac wyneb neu geg chwyddedig.  
Ffoniwch 999 i ofyn am ambiwlans ar unwaith os yw'r symptomau hyn gennych.

Brathiadau gan fosgitos

Mae brathiadau gan fosgitos yn aml yn achosi i lympiau bach coch ffurfio ar eich croen sydd fel arfer yn goslyd iawn. Hefyd, gall rhai pobl ddatblygu pothelli llawn hylif.

Nid yw mosgitos yn achosi niwed mawr yn y DU, ond mewn rhai rhannau o'r byd, gallant ledaenu afiechydon difrifol fel malaria.

Mynnwch help meddygol ar unwaith os ydych chi'n datblygu symptomau pryderus, fel tymheredd uchel, oerfel, cur pen/pen tost a theimlo'n gyfoglyd, ar ôl cael brathiad gan fosgito dramor.

Brathiadau trogod

Nid yw brathiadau trogod yn boenus fel arfer, felly efallai na fyddwch chi'n sylweddoli ar unwaith eich bod wedi cael eich brathu.

Gall symptomau brathiad trogod gynnwys:

  • lwmp bach coch ar y croen
  • chwyddo
  • cosi
  • pothellu
  • cleisio

Weithiau gall trogod yn y DU gario haint ddifrifol bosibl o'r enw clefyd Lyme, felly dylid eu tynnu cyn gynted ag y bo modd os gwelwch un yn sownd i'ch croen.

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych yn datblygu unrhyw symptomau clefyd Lyme, fel brech sy'n edrych fel y "targed canol ar fwrdd dartiau" neu dwymyn.

Brathiadau gan glêr llwyd/pryfed llwyd

Gall brathiad gan gleren lwyd/pryf llwyd fod yn boenus iawn. Yn ogystal, bydd y rhan o'r croen a frathwyd fel arfer yn goch a bydd gwrym wedi ffurfio o'i hamgylch.

Gallech hefyd brofi:

  • brech goch fwy, â gwrymiau (a elwir hefyd yn llosg danadl neu wrticaria)
  • pendro
  • gwendid
  • gwichian yn y frest
  • rhan o'ch corff yn mynd yn bwfflyd ac yn chwyddedig

Gall brathiadau gan glêr llwyd/pryfed llwyd gymryd amser hir i wella ac fe allant fynd yn heintus. Ewch i weld eich meddyg teulu os oes symptomau haint gennych, fel crawn neu boen, cochni a chwyddo sy'n gwaethygu.

Brathiadau gan wybed neu fân wybed (midges or gnats)

Mae brathiadau gan wybed a mân wybed yn edrych yn debyg i frathiadau mosgito yn aml.

Fel arfer maent yn achosi lympiau bach, coch sy'n gallu bod yn boenus ac yn goslyd iawn, ac weithiau gallant chwyddo'n frawychus.

Gall rhai pobl ddatblygu pothelli llawn hylif hefyd.

Brathiadau Pýcs

Mae brathiadau pýcs yn digwydd ar yr wyneb, gwddf, dwylo neu freichiau yn nodweddiadol. Fel arfer fe'u ceir mewn llinellau syth ar draws y croen.

Nid yw brathiadau pýcs fel arfer yn boenus, ac os nad ydych chi wedi cael eich brathu ganddynt o'r blaen, mae'n bosibl na fydd gennych unrhyw symptomau.

Os ydych wedi cael eich brathu o'r blaen, fe allech ddatblygu gwrymiau neu lympiau coch coslyd sy'n gallu para am rai diwrnodau.

Brathiadau gwiddon

Mae brathiadau gwiddon yn achosi i lympiau coch coslyd iawn ddatblygu ar y croen ac maent hefyd yn gallu achosi pothelli weithiau.

Fel arfer bydd gwiddon yn brathu croen nad yw wedi'i orchuddio, ond fe allech gael eich brathu ar eich bol a'ch cluniau os oes gwiddon gan eich anifail anwes ac mae wedi bod yn eistedd ar eich glin.

Mae rhai gwiddon yn turio i mewn i'r croen ac yn achosi cyflwr o'r enw y crafu.

Brathiadau gan chwain

Gall brathiadau chwain achosi lympiau bach coch, coslyd sydd wedi'u grwpio mewn llinellau neu glystyrau weithiau. Gallai pothelli ddatblygu weithiau hefyd.

Yn aml, gall chwain o gathod a chwn frathu islaw'r pen-glin, yn enwedig o amgylch y pigyrnau. Gallech hefyd gael brathiadau chwain ar flaen eich breichiau os ydych chi wedi bod yn mwytho neu'n dal eich anifail anwes.

Brathiadau pryfed cop/corynnod

Mae brathiadau gan bryfed cop/corynnod yn y DU yn anghyffredin , ond mae rhai pryfed cop/corynnod brodorol - fel y pry cop gweddw ffug - yn gallu rhoi brathiad cas.

Mae brathiadau pryfed cop/corynnod yn gadael marciau tyllu bach ar y croen, sy'n gallu bod yn boenus ac achosi cochni a chwyddo.

Gallai brathiadau rhai pryfed cop/corynnod achosi cyfog, chwydu, chwysu a phendro. Gall brathiadau fynd yn heintus hefyd neu achosi adwaith alergaidd difrifol mewn achosion prin. Gofynnwch am help meddygol ar unwaith os oes unrhyw symptomau difrifol neu bryderus gennych ar ôl cael brathiad gan bry cop/corryn.

Pigiadau a brathiadau gan forgrug

Nid yw'r math mwyaf cyffredin o forgrugyn yn y DU, sef y math du a geir mewn gerddi, yn pigo nac yn brathu, ond mae morgrug coch, morgrug coed a morgrug sy'n hedfan yn pigo ac yn brathu weithiau.

Yn gyffredinol, nid yw brathiadau a phigiadau gan forgrug yn achosi unrhyw niwed, er ei bod yn debyg y byddwch yn teimlo cnoad bach a gallai marc pinc ysgafn ddatblygu ar eich croen.

Gall y man lle cawsoch eich brathu fod yn boenus, yn goslyd ac yn chwyddedig weithiau.

Brathiadau buchod coch cwta

Gall pob buwch goch gota frathu, ond mae'r math a elwir yn fuwch goch gota frith (harlequin) a geir mewn llawer o fannau yn y DU, yn fwy ymosodgar ac yn tueddu brathu yn amlach.

Gall y fuwch goch gota frith fod yn goch neu'n orau gyda nifer o smotiau. Cadwch olwg am smotyn gwyn ar ei phen - nid yw'r patsys hyn gan fuchod coch cwta eraill.

Gall brathiadau buchod coch cwta fod yn boenus, ond nid oes unrhyw beth i boeni amdanyn nhw fel arfer.

Brathiadau gan chwilod y blodau

Mae chwilod y blodau yn bryfed cyffredin sy'n bwydo ar lyslau (aphids) a gwiddon. Gallwch adnabod chwilen gyffredin y blodau wrth ei chorff hirgrwn bach, adennydd adlewyrchol a choesau oren-frown.

Gall brathiadau gan chwilod y blodau fod yn boenus a choslyd iawn, ac maent yn araf yn gwella yn aml.

Blew'r lindys

Mae lindys gwyfyn gorymdeithiol y dderwen yn bla go iawn. Fe'u canfuwyd gyntaf yn y DU yn 2006, ac erbyn hyn maent yn Llundain a rhannau o dde ddwyrain Lloegr.

Ar ddiwedd y gwanwyn ac yn yr haf, mae miloedd o flewiach bach gan y lindys sy'n gallu achosi brechau coslyd, problemau'r llygaid a dolur gwddf/gwddf tost - ac anawsterau anadlu yn achlysurol iawn. Mae'r lindys yn cerdded i fyny ac i lawr coed mewn gorymdeithiau o'u trwyn i'w cynffonnau.

Os dewch ar eu traws, neu os gwelwch un o'u nythod sidanaidd gwyn, dywedwch wrth y Comisiwn Coedwigaeth neu eich cyngor lleol.

Triniaeth

Mae'r rhan fwyaf o frathiadau a phigiadau pryfed yn achosi adweithiau bach sydd wedi'u cyfyngu i ardal y pigiad (adweithiau lleol). Gellir trin y rhain gartref fel arfer.

Fodd bynnag, dylech fynd at eich meddyg teulu cyn gynted â phosibl os yw eich symptomau'n ddifrifol.

Cymorth cyntaf ar gyfer brathiadau a phigiadau pryfed

I drin brathiad neu bigiad pryfed:

  • Tynnwch y pigiad, y drogen neu flew os ydynt yn dal yn y croen.
  • Golchwch y man yr effeithiwyd arno gyda sebon a dŵr.
  • Rhowch glwtyn oer (clwtyn ymolchi neu liain a wlychwyd mewn dŵr oer) neu becyn rhew ar unrhyw chwydd am o leiaf 10 munud.
  • Codwch y man yr effeithiwyd arno os oes modd, gan y gall hyn helpu lleihau'r chwyddo.
  • Osgowch grafu man y pigiad/brathiad, neu fyrstio unrhyw bothelli, er mwyn lleihau risg heintio - os yw eich plentyn wedi cael ei frathu neu ei bigo, gall helpu i gadw ei ewinedd yn fyr ac yn lân.
  • Osgowch feddyginiaethau cartref traddodiadol, fel finegr a soda pobi, gan eu bod yn annhebygol o helpu.

Gall y boen, y chwydd a'r cosi bara rhai dyddiau weithiau.

Cael gwared â phigiad

Os ydych wedi cael eich pigo a bod y pigiad wedi'i adael yn eich croen, dylech ei dynnu cyn gynted â phosibl er mwyn atal mwy o wenwyn rhag cael ei ryddhau.

Crafwch y pigiad allan gerfydd ei ochr gyda rhywbeth sydd ag ymyl caled, fel cerdyn banc, neu eich ewinedd, os nad oes unrhyw beth arall gennych wrth law.

Peidiwch â phinsio'r pigiad allan gyda'ch bysedd neu blycwyr oherwydd fe allech ledaenu'r gwenwyn. 

Cael gwared ar drogen

Os ydych chi wedi cael eich brathu gan drogen ac mae'n dal yn sownd i'ch croen, tynnwch hi cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau eich risg o gael afiechydon fel clefyd Lyme.

I gael gwared ar drogen:

  • Defnyddiwch blycwyr na fydd yn gwasgu'r drogen (fel plycwyr ac iddynt ben main) neu offeryn tynnu trogod (sydd ar gael o siopau anifeiliaid anwes neu filfeddygfeydd).
  • Gafaelwch yn y drogen mor agos i'r croen â phosibl er mwyn sicrhau nad yw ceg y drogen wedi'i adael yn y croen.
  • Tynnwch i ffwrdd o'r croen yn gadarn heb wasgu'r drogen.
  • Golchwch eich croen gyda dŵr a sebon wedi hynny, yna rhowch eli antiseptig ar y croen o amgylch y brathiad.

Os ydych chi'n defnyddio offeryn tynnu trogod, dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Peidiwch â defnyddio blaen sigarét wedi'i chynnau, pen matsien na sylweddau fel alcohol neu jeli petrolewm, i gael y drogen allan.

Delio gyda blew lindys

Os yw lindys gwyfyn gorymdeithiol y dderwen yn mynd ar eich croen:

  • Defnyddiwch blycwyr neu ben i'w dynnu.
  • Ceisiwch beidio â'i symud (er enghraifft, drwy ei frwsio gyda'ch dwylo) gan y bydd yn rhyddhau mwy o flew wedyn.
  • Rinsiwch eich croen gyda dŵr rhedeg, a'i adael i aersychu, ac yna defnyddiwch dâp gludiog i dynnu unrhyw flew sydd ar ôl i ffwrdd.
  • Defnyddiwch galamin, pecynnau rhew neu feddyginiaeth o'r fferyllfa sy'n cynnwys 3.5% o amonia i leddfu'r cosi.
  • Tynnwch bob dilledyn halogedig, a golchwch nhw ar dymheredd mor uchel ag y mae'r ffabrig yn ei ganiatàu.

Peidiwch â sychu'ch hun gyda thywel ar ôl rinsio na defnyddio elïau sy'n cynnwys gwrth-histamin.

Lleddfu symptomau brathiad neu bigiad pryfed

Os cewch symptomau trwblus ar ôl cael brathiad neu bigiad gan bryfed, gallai'r triniaethau canlynol helpu:

  • Ar gyfer poen neu anesmwythder - cymerwch boenladdwyr dros y cownter fel paracetamol neu ibuprofen (ni ddylid rhoi aspirin i blant o dan 16 oed).
  • Ar gyfer cosi - holwch eich fferyllydd ynghylch triniaethau addas, gan gynnwys eli neu drwyth crotamiton, hufen neu eli hydrocortison a thabledi gwrth-histamin.
  • Ar gyfer chwyddo - ceisiwch roi clwtyn oer neu becyn rhew yn rheolaidd ar y rhan yr effeithiwyd arni, neu holwch eich fferyllydd ynghylch triniaethau fel tabledi gwrth-histamin.

Ewch i weld eich meddyg teulu os nad yw'r triniaethau hyn yn helpu. Efallai y bydd yn rhoi presgripsiwn am feddyginiaethau cryfach, fel tabledi steroid.

Pa bryd i gael cyngor meddygol

Cysylltwch â'ch meddyg teulu neu 111 i gael cyngor:

  • os ydych chi'n pryderu ynghylch brathiad neu bigiad
  • os nad yw eich symptomau yn dechrau gwella ymhen ychydig ddyddiau neu os ydynt yn gwaethygu
  • os ydych chi wedi cael eich brathu neu eich pigo yn eich ceg neu'ch gwddf, neu gerllaw eich llygaid
  • os oes rhan fawr (rhan o'r croen sydd tua 10cm neu fwy) o amgylch y brathiad yn cochi ac yn chwyddo - gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio i glinig alergedd i gael rhagor o brofion neu driniaeth
  • os oes gennych symptomau o haint clwyf, fel crawn neu boen, chwyddo neu gochni sy'n gwaethygu - gall fod angen gwrthfiotigau arnoch chi
  • os oes gennych symptomau o haint ehangach, fel tymheredd uchel, chwarennau wedi chwyddo a symptomau eraill tebyg i'r ffliw

Pryd i gael help ar frys

Deialwch 999 a gofynnwch am ambiwlans ar unwaith os byddwch chi neu rywun arall yn cael symptomau o adwaith difrifol, fel:

  • gwichian ar y frest neu anhawster anadlu
  • chwyddo yn yr wyneb, y geg neu'r gwddf
  • teimlo'n gyfoglyd neu chwydu
  • curiad calon cyflym
  • pendro neu deimlo fel llewygu
  • anhawster llyncu
  • mynd yn anymwybodol

Mae angen triniaeth frys yn yr ysbyty yn yr achosion hyn.

Atal

Mae nifer o ragofalon y gallwch eu cymryd i osgoi cael eich brathu neu eich pigo gan bryfed.

Mae'n arbennig o bwysig dilyn y cyngor hwn os ydych chi wedi cael adwaith gwael i frathiad neu bigiad gan bryf yn y gorffennol, neu os ydych chi'n teithio i ardal lle ceir risg o godi salwch difrifol.

Rhagofalon sylfaenol i atal brathiadau a phigiadau gan bryfed

Gall y mesurau canlynol eich helpu i osgoi brathiadau a phigiadau gan bryfed:

  • peidiwch â chynhyrfu a symudwch i ffwrdd yn araf os dewch ar draws gwenyn meirch, cacwn neu wenyn - peidiwch â chwifio'ch breichiau o gwmpas na cheisio eu taro
  • gorchuddiwch eich croen - os byddwch allan ar adeg o'r dydd pan fo pryfed yn arbennig o actif, fel ar godiad yr haul neu ar fachlud haul, gorchuddiwch eich croen trwy wisgo trowsus a llewys hir
  • gwisgwch esgidiau pan fyddwch y tu allan
  • rhowch gynnyrch ymlid pryfed ar groen sydd yn y golwg - cynnyrch ymlid sy'n cynnwys 50% DEET (diethyltoluamide) sy'n fwyaf effeithiol
  • osgowch ddefnyddio cynnyrch sy'n cynnwys persawrau cryf, fel sebonau, siampŵau a diaroglyddion (deodorants) - gall y rhain ddenu pryfed
  • cymerwch ofal o gwmpas planhigion sy'n blodeuo, sbwriel, compost, merddwr (stagnant water), ac mewn mannau awyr agored lle y gweinir bwyd
  • peidiwch byth â tharfu ar nythod pryfed - os yw nyth yn eich tŷ neu'ch gardd, trefnwch iddo gael ei symud (ceir manylion yn GOV.UK am gwasanaethau rheoli plâu a sut gall eich cyngor lleol helpu)
  • ceisiwch osgoi gwersylla gerllaw dŵr, fel llynnoedd a chorsydd - mae mosgitos a chlêr llwyd/pryfed llwyd i'w cael yn aml ger dŵr
  • gorchuddiwch fwyd a diod pan fyddwch yn bwyta neu'n yfed y tu allan, yn enwedig pethau melys - mae gwenyn meirch neu wenyn yn gallu mynd i mewn i boteli neu ganiau diodydd agored rydych yn yfed ohonynt hefyd
  • cadwch ddrysau a ffenestri ar gau neu rhowch rwyd denau neu leiniau drws drostynt i atal pryfed rhag mynd i mewn i'r tŷ - hefyd, cadwch ffenestri eich car ar gau i atal pryfed rhag mynd i mewn.

Osgoi brathiadau trogod

Creaduriaid bach tebyg i gorynnod yw trogod sydd i'w cael mewn ardaloedd coetir a rhostiroedd yn bennaf. Maent yn glynu wrth eich croen, yn sugno eich gwaed ac yn gallu achosi clefyd Lyme mewn rhai achosion.

Gallwch leihau eich risg o gael eich brathu gan drogen os gwnewch y canlynol:

  • cadw at lwybrau troed ac osgoi porfa hir pan fyddwch allan yn cerdded
  • gwisgo dillad priodol mewn ardaloedd lle y ceir llawer o drogod (crys llewys hir a throwsus wedi'u troi i mewn yn eich sanau)
  • gwisgo ffabrigau lliw golau er mwyn eich helpu i weld trogen ar eich dillad
  • defnyddio cynnyrch ymlid pryfed ar groen sydd yn y golwg
  • archwilio eich croen am drogod, yn enwedig ar ddiwedd y dydd, gan gynnwys eich pen, gwddf a phlygiadau croen (ceseiliau, gafl a gwasg)
  • archwilio pen a gwddf eich plant, gan gynnwys eu croen pen a gwneud yn siŵr nad yw trogod yn dod i mewn i'ch tŷ ar eich dillad
    • gwirio eich anifeiliaid anwes i helpu sicrhau nad ydyn nhw'n dod â throgod i mewn i'ch cartref ar eu blew

Mae'n bwysig cael gwared ag unrhyw drogod y dewch o hyd iddynt cyn gynted â phosibl.

Rhagofalon ychwanegol wrth deithio dramor

Mae'r risg o fynd yn ddifrifol sâl o frathiad neu bigiad gan bryfed yn y DU yn fach, ond mewn rhai rhannau o'r byd, mae pryfed yn gallu cario afiechydon difrifol fel malaria, ac mae angen i chi fod yn arbennig o ofalus.

Gall helpu i:

  • ganfod beth yw'r risgiau lle'r ydych yn bwriadu teithio a gwirio a oes angen unrhyw frechiadau arnoch chi cyn teithio - gall brechiadau helpu atal rhai afiechydon a ledaenir gan bryfed, fel y dwymyn felen. Gallwch ddefnyddio gwefan Travel Health Pro i wneud hyn
  • siarad â'ch meddyg teulu am unrhyw ragofalon ychwanegol a meddyginiaethau y gall fod angen i chi fynd â nhw gyda chi - er enghraifft, os ydych chi'n ymweld ag ardal lle ceir risg o  falaria, efallai y cewch eich cynghori i fynd â rhwyd mosgitos a chymryd tabledi gwrthfalariaidd er mwyn osgoi malaria

Heigiad pryfed

Os cewch eich brathu gan chwain, gwiddon neu býcs, mae'n bosibl y bydd gennych heigiad yn eich cartref. Ceisiwch ddod o hyd i ffynhonnell yr heigiad cyn cymryd camau i gael gwared arno.

Arwyddion heigiad

Dyma arwyddion heigiad:

  • mae chwain neu garthion chwain ym mlew neu wely eich anifail yn arwydd o chwain
  • mae crawen ar flew eich ci yn arwydd o chwain
  • mae crafu ac ymolchi gormodol yn arwydd bod gan eich cath chwain
  • mae marwdon (fflochiau croen) ar eich cath neu gi yn arwydd o widdon
  • mae smotiau gwaed ar eich dillad gwely yn arwydd o býcs
  • mae arogl almon annymunol yn arwydd o býcs

Siaradwch â'ch milfeddyg os ydych yn ansicr a oes gan eich anifail anwes chwain neu widdon.

Cael gwared â heigiad

Pan fyddwch yn gwybod beth sy'n achosi'r heigiad, bydd angen i chi gael gwared arno.

O ran heigiadau chwain, triniwch yr anifail, y dillad gwely, a charpedi a dodrefn meddal gyda phryfleiddiad. Ewch dros eich carpedi a'ch dodrefn meddal yn drylwyr gyda sugnwr llwch.

O ran heigiadau gwiddon, dylech ofyn am gyngor gan eich milfeddyg gan fod angen triniaeth ddwys.

O ran heigiadau pýcs, bydd angen i'ch cartref gael ei drin yn drylwyr gyda phryfleiddiad gan gwmni rheoli plâu ag enw da. Ceir gwybodaeth gan GOV.UK am sut gall eich cyngor lleol helpu.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 26/10/2022 11:10:57