Fel arfer, dydy gwaedu o'r trwyn ddim yn arwydd o unrhyw beth difrifol. Mae'n gyffredin, yn enwedig ymhlith plant, a gellir ei drin yn hawdd gartref, gan amlaf.
Ewch i weld meddyg teulu:
- os bydd plentyn o dan 2 oed yn gwaedu o'r trwyn
- os bydd eich trwyn yn gwaedu'n rheolaidd
- os oes gennych symptomau anemia - fel curiad calon cyflymach (crychguriadau'r galon), prinder anadl a chroen gwelw
- os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth i deneuo'r gwaed, fel warfarin
- os oes gennych gyflwr sy'n golygu nad yw eich gwaed yn gallu ceulo'n iawn, fel hemoffilia
Efallai bydd eich meddyg teulu eisiau eich profi i weld a oes gennych hemoffilia neu gyflyrau eraill fel anemia.
Ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys:
- os bydd eich trwyn yn gwaedu am fwy na 10-15 munud
- os yw'n ymddangos bod llawer iawn o waedu
- os ydych chi'n llyncu llawer o waed sy'n achosi i chi chwydu
- os dechreuodd eich trwyn waedu ar ôl i chi daro'ch pen
- os ydych chi'n teimlo'n wan neu'n benysgafn
- os ydych chi'n cael anhawster anadlu
Achosion gwaedu o'r trwyn
Mae'r tu mewn i'r trwyn yn dyner ac mae'r trwyn yn gwaedu pan fydd yn cael niwed. Gall hyn gael ei achosi gan y canlynol:
- pigo'ch trwyn
- chwythu'ch trwyn yn rhy galed
- mae'r tu mewn i'ch trwyn yn rhy sych (oherwydd newid yn nhymheredd yr aer)
Gall achosion o waedu o'r trwyn sydd angen sylw meddygol ddod o ran yn ddyfnach y tu mewn i'r trwyn, ac mae fel arfer yn effeithio ar oedolion. Gallant gael eu hachosi gan y canlynol:
- anaf neu drwyn wedi torri
- pwysedd gwaed uchel
- cyflyrau sy'n effeithio ar y pibellau gwaed neu sut mae'r gwaed yn ceulo
- rhai meddyginiaethau, fel warfarin
Weithiau, nid oes modd gwybod beth sy'n achosi gwaedu o'r trwyn.
Mae trwyn rhai pobl yn fwy tueddol o waedu, gan gynnwys:
- plant (mae eu trwyn fel arfer yn rhoi'r gorau i waedu gydag amser, erbyn iddynt fod yn 11 oed)
- pobl oedrannus
- menywod beichiog
Sut i atal eich trwyn rhag gwaedu eich hun
Os yw eich trwyn yn gwaedu, dylech chi:
- eistedd i lawr a phwyso ymlaen, gyda'ch pen wedi'i wyro ymlaen
- pinsio'ch trwyn ychydig uwchben eich ffroenau am 10 i 15 munud
- anadlu trwy eich ceg
Efallai bydd dal pecyn rhew / iâ (neu fag o bys wedi rhewi wedi'i lapio mewn lliain sychu llestri) ar dop eich trwyn yn helpu lleihau llif y gwaed. Ond dydy'r dystiolaeth i ddangos bod hyn yn gweithio ddim yn gryf iawn.
Triniaeth ysbyty ar gyfer gwaedu o'r trwyn
Os bydd meddygon yn gallu gweld o ble mae'r gwaedu'n dod, gallant ei selio trwy bwyso ffon â chemegolyn arni i atal y gwaedu.
Os nad yw hyn yn bosibl, gall meddygon bacio eich trwyn â sbyngau i atal y gwaedu. Efallai bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am ddiwrnod neu ddau.
Pan fydd trwyn yn rhoi'r gorau i waedu
Ar ôl gwaedu o'r trwyn, ceisiwch beidio â gwneud y canlynol am 24 awr:
- chwythu'ch trwyn
- pigo'ch trwyn
- yfed diodydd poeth nac alcohol
- peidiwch â chodi unrhyw beth trwm na gwneud ymarfer corff egnïol
- pigo unrhyw grachod