Cyflwyniad
Mae anhwylder panig yn anhwylder gorbryder, pan fyddwch yn cael pyliau sydyn o banig neu ofn yn rheolaidd.
Mae pawb yn cael teimladau o bryder a phanig ar brydiau. Mae'n ymateb naturiol i sefyllfaoedd peryglus neu anodd.
Fodd bynnag, i bobl ag anhwylder panig, gall teimladau o orbryder, straen a phanig ddigwydd yn rheolaidd ac ar unrhyw adeg, yn aml heb reswm amlwg.
Symptomau anhwylder panig
Gorbryder
Teimlad o anesmwythyd ydy gorbryder. Gall fod yn ysgafn neu'n ddybryd, a gall cynnwys teimladau o bryder ac ofn. Panig yw'r ffurf fwyaf difrifol o orbryder.
Gallech ddechrau osgoi rhai sefyllfaoedd am eich bod yn ofni iddynt sbarduno pwl arall o banig.
Gall hyn greu cylch o fyw "mewn ofn ofn". Gall ychwanegu at eich ymdeimlad o banig ac achosi i chi gael mwy o byliau.
Pyliau o banig
Cewch bwl o banig pan fydd eich corff yn profi llif o symptomau meddyliol a chorfforol dwys. Gall ddechrau'n sydyn iawn, heb reswm amlwg.
Gall pwl o banig achosi llawer o ofn a phryder.
Mae symptomau'n cynnwys:
- curiad calon cyflym
- teimlo llewyg
- chwysu
- cyfog
- poen yn y frest
- bod yn fyr o anadl
- crynu
- chwiwiau poeth
- oerfel
- breichiau a choesau sigledig
- ymdeimlad o dagu
- pendro
- fferdod neu binnau bach
- ceg sych
- angen mynd i'r tŷ bach
- canu yn eich clustiau
- ymdeimlad o fraw neu ofn marw
- stumog sy'n troi
- goglais yn eich bysedd
- y teimlad nad ydych chi wedi cysylltu â'ch corff
Bydd y rhan fwyaf o byliau o banig yn para rhwng 5 ac 20 munud. Yn ôl y sôn, mae rhai pyliau o banig yn para hyd at awr.
Bydd nifer y pyliau a gewch yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydy eich cyflwr. Bydd rhai pobl yn dioddef un neu ddau bwl bob mis, tra bydd eraill yn eu dioddef sawl gwaith bob wythnos.
Er bod pyliau o banig yn frawychus, nid ydynt yn beryglus. Ni fydd pwl yn achosi unrhyw niwed corfforol i chi ac y mae hi'n annhebyg y cewch chi eich derbyn i'r ysbyty os cewch chi bwl o banig.
Cofiwch y gall y rhan fwyaf o'r symptomau hyn fod yn symptomau cyflyrau neu broblemau eraill hefyd, felly efallai nad pwl o banig byddwch chi'n ei gael bob amser.
Er enghraifft, gallech gael curiad calon cyflym iawn os oes gennych bwysedd gwaed isel.
Pryd i gael cymorth
Os cewch chi symptomau anhwylder panig, ewch at eich meddyg teulu.
Bydd yn gofyn i chi ddisgrifio'ch symptomau, pa mor fynych maen nhw'n digwydd, ac ers pa bryd rydych chi wedi'u cael.
Hefyd, gall gynnal archwiliad corfforol i allu diystyru cyflyrau eraill a all fod yn achosi'ch symptomau.
Er y gall siarad â rhywun arall am eich teimladau, eich emosiynau a'ch bywyd personol fod yn anodd weithiau, ceisiwch beidio teimlo'n rhy bryderus neu chwithig.
Gallech gael diagnosis o anhwylder panig os profwch chi byliau panig annisgwyl dro ar ôl tro a bod o leiaf mis o bryderu neu bendroni am ddioddef pyliau pellach yn dilyn y rhain.
Triniaethau ar gyfer anhwylder panig
Nod triniaeth ydy lleihau'r nifer o byliau i banig y cewch chi ac i leddfu eich symptomau.
Therapïau seicolegol (siarad) a meddyginiaeth yw'r prif driniaethau ar gyfer anhwylder panig.
Yn dibynnu ar eich symptomau, gall fod angen 1 o'r triniaethau hyn arnoch neu gyfuniad o'r ddau.
Therapïau seicolegol
Gallwch gyfeirio'ch hun yn uniongyrchol at wasanaeth therapi seicolegol am driniaeth yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT).
Os yw'n well gennych, gallwch fynd at feddyg teulu, a all eich cyfeirio chi.
Gyda therapydd, gallech drafod sut rydych chi'n ymateb a'r hyn rydych chi'n meddwl amdano pan gewch chi bwl o banig.
Gall eich therapydd ddysgu ffyrdd i chi newid eich ymddygiad, fel technegau anadlu i'ch helpu i ymdawelu yn ystod pwl.
Ewch i weld eich meddyg teulu'n rheolaidd pan fyddwch yn cael CBT, fel y gall asesu'ch cynnydd a gweld sut rydych chi'n dod yn eich blaen.
Meddyginiaeth
Os byddwch chi a'ch meddyg o'r farn y gallai fod yn ddefnyddiol, gallech gael y canlynol ar bresgripsiwn:
- math o wrthiselydd o'r enw atalydd ailafael serotonin-benodol (SSRI) neu, os na fydd SSRIs yn addas, gwrthiselydd trichylch (imipramine neu clomipramine fel arfer)
- cyffur gwrth-epilepsi, fel pregabalin neu, os bydd eich gorbryder yn ddifrifol, clonazepam (mae'r meddyginiaethau hyn yn fuddiol hefyd i drin gorbryder)
Gall gwrthiselyddion gymryd rhwng 2 a 4 wythnos cyn bod eu heffaith yn cronni, a hyd at 8 wythnos i weithio'n llawn.
Cadwch gymryd eich meddyginiaeth, hyd yn oed os byddwch o'r farn nad yw'n gweithio; rhowch y gorau i'w cymryd dim ond os bydd eich meddyg teulu'n cynghori hynny.
Atgyfeirio i arbenigwr
Os na fydd eich symptomau'n gwella ar ôl CBT, meddyginiaeth a chysylltu â grŵp cymorth, gallai eich meddyg teulu eich atgyfeirio i arbenigwr iechyd meddwl, fel seiciatrydd neu seicolegydd clinigol.
Bydd yr arbenigwr yn cynnal asesiad o'ch cyflwr ac yn llunio cynllun triniaeth i'ch helpu i reoli'ch symptomau.
Pethau gallwch chi roi cynnig arnynt
Beth i'w wneud yn ystod pwl o banig
Y tro nesaf i chi deimlo bod pwl o banig yn dechrau, rhowch gynnig ar y canlynol:
- peidiwch â brwydro yn erbyn y pwl
- arhoswch ble'r ydych chi, os oes modd
- anadlwch yn araf ac yn ddwfn
- atgoffwch eich hun y bydd y pwl yn dod i ben
- canolbwyntiwch ar ddelweddau cadarnhaol, heddychlon, sy'n eich ymlacio
- cofiwch nad yw'n peryglu bywyd
Atal pwl arall
Gall y canlynol helpu hefyd:
- darllenwch lyfr hunan-gymorth ar bryder sydd wedi'i seilio ar egwyddorion therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) - gofynnwch i'ch meddyg teulu argymell llyfr
- rhowch gynnig ar therapïau cyflenwol, fel tylino neu aromatherapi, neu weithgareddau fel ioga a pilates, i'ch helpu i ymlacio
- dysgwch dechnegau anadlu i helpu lleddfu symptomau
- gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd i leihau straen a thyndra
- osgowch fwydydd a diodydd llawn siwgr, caffein ac alcohol, a rhowch y gorau i ysmygu, oherwydd gall y rhain wneud y pyliau'n waeth
Grwpiau cymorth
Gall anhwylder panig gael effaith fawr ar eich bywyd, ond mae cymorth ar gael. Gallai siarad ag eraill sydd â'r un cyflwr, neu gysylltu ag elusen, helpu.
Gallai'r dolenni canlynol fod yn ddefnyddiol i chi:
Holwch eich meddyg teulu am grwpiau cymorth ar gyfer anhwylder panig yn lleol.
Cymhlethdodau anhwylder panig
Mae'n bosibl trin anhwylder panig a gallwch wella'n llwyr ohono. Ceisio cymorth meddygol cyn gynted ag y gallwch, os oes modd, sy'n bosibl.
Os na chewch gymorth meddygol, gall anhwylder panig waethygu a gall ymdopi ag ef fynd yn anodd iawn.
Mae mwy o risg i chi ddatblygu cyflyrau iechyd meddwl eraill, fel agoraffobia neu ffobiâu eraill, neu broblem alcohol neu gyffuriau.
Os oes gennych anhwylder panig, gall effeithio ar eich gallu i yrru hefyd. O dan y gyfraith, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am gyflwr meddygol a allai effeithio ar eich gallu i yrru.
Ewch i GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth am yrru gydag anabledd neu gyflwr iechyd.
Achosion
Fel llawer o gyflyrau iechyd meddwl, nid yw union achos anhwylder panig yn cael ei ddeall yn llawn.
Ond tybir bod cysylltiad rhwng y cyflwr â chyfuniad o bethau, gan gynnwys:
- profiad bywyd llawn trawma neu straen, fel profedigaeth
- mae'r anhwylder ar aelod agos o'r teulu
- anghydbwysedd yn y niwrodrawsryddion (negeseuwyr cemegol) yn yr ymennydd
Anhwylder panig ymhlith plant
Mae anhwylder panig yn fwy cyffredin ymhlith pobl ifanc yn yr arddegau na phlant iau.
Gall fod yn arbennig o anodd i blant a phobl ifanc ddelio â phyliau o banig. Gall anhwylder panig difrifol effeithio ar eu datblygiad a'u dysgu.
Os bydd eich plentyn yn dangos arwyddion a symptomau anhwylder panig, dylent weld meddyg teulu.
Bydd meddyg teulu yn cymryd hanes meddygol manwl ac yn cynnal archwiliad corfforol trylwyr i ddiystyru unrhyw resymau corfforol dros y symptomau.
Gall atgyfeirio'ch plentyn i gael asesiad a thriniaeth bellach. Gall yr arbenigwr argymell cwrs o therapi gwybyddol ymddygiadol i'ch plentyn.
Hefyd, gall fod angen sgrinio ar gyfer anhwylderau gorbryder eraill i helpu gwybod beth sy'n achosi pyliau'ch plentyn o banig.