Gwddf tost

Cyflwyniad

Sore throat
Sore throat

Mae dolur gwddf yn gyffredin iawn ac fel arfer, nid yw’n unrhyw beth i boeni amdano. Fel arfer, mae'n gwella ar ei ben ei hun ymhen wythnos.

Sut i drin dolur gwddf eich hun

I helpu lleddfu dolur gwddf a byrhau pa mor hir mae’n para, gallwch chi:

  • garglo â dŵr cynnes hallt (ni ddylai plant geisio gwneud hyn)
  • yfed digon o ddŵr
  • bwyta bwydydd oer neu feddal
  • osgoi ysmygu neu fannau myglyd
  • sugno ciwbiau rhew/iâ, lolis rhew/iâ neu losin caled - ond peidiwch â rhoi dim byd bach a chaled i'w sugno i blant bach oherwydd perygl tagu
  • gorffwys

Os oes gennych chi dymheredd uchel neu os nad ydych yn teimlo'n ddigon da i wneud eich gweithgareddau arferol, ceisiwch aros gartref ac osgoi cyswllt â phobl eraill hyd nes eich bod chi'n teimlo'n well.

Sut i garglo â dŵr halen

  1. Toddwch hanner llond llwy de o halen mewn gwydraid o ddŵr cynnes - mae dŵr cynnes yn helpu halen i doddi.
  2. Garglwch â'r toddiant ac wedyn ei boeri allan - peidiwch â'i lyncu.
  3. Gwnewch hyn mor aml ag y dymunwch.

Gall fferyllydd helpu gyda dolur gwddf

Mae dolur gwddf yn un o'r cyflyrau sy'n rhan o’r Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion ei ddefnyddio i gael cyngor am ddim a thriniaeth am ddim, ac mae ar gael mewn 99% o fferyllfeydd yng Nghymru. 
Dewch o hyd i’ch fferyllfa agosaf yma
Cewch fwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma.

Gallwch ofyn i fferyllydd am ffyrdd o leddfu poen ac anesmwythder dolur gwddf, fel:

  • defnyddio parasetamol neu ibuprofen
  • losin meddyginiaethol sy'n cynnwys anaesthetig lleol, gwrthseptig, neu feddyginiaeth wrthlidiol
  • chwistrell anesthetig (er nid oes llawer o brawf eu bod yn helpu)

Gallwch brynu'r triniaethau hyn o archfarchnad neu gan fferyllydd heb bresgripsiwn.

Dewch o hyd i fferyllfa 

Profi a Thrin Dolur Gwddf 

Mae profi a thrin dolur gwddf yn wasanaeth sydd bellach yn cael ei gynnig mewn rhai fferyllfeydd. 

  • Trafodwch eich symptomau gyda Fferyllydd a chael cyngor arbenigol. 
  • Gofynnwch am asesiad clinigol i ddarganfod a yw'n haint firaol neu facterol (gall hyn gynnwys swab gwddf, os oes angen).  
  • Mynnwch y driniaeth gywir i chi, gan gynnwys gwrthfiotigau a chyffuriau lladd poen, pan fo angen.  
  • Gwasanaeth y GIG am ddim. 

Dewch o hyd i fferyllfa 

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad yw eich dolur gwddf yn gwella ar ôl wythnos
  • os ydych chi’n cael dolur gwddf yn aml
  • os ydych chi’n poeni am eich dolur gwddf
  • os oes gennych chi ddolur gwddf a thymheredd uchel iawn, neu os ydych chi'n teimlo'n boeth ac yn crynu
  • os oes gennych chi system imiwnedd wan - er enghraifft, oherwydd diabetes neu gemotherapi

Gallai dolur gwddf difrifol neu barhaus fod yn rhywbeth fel gwddf strep (haint bacterol).

Gwrthfiotigau

Nid yw meddygon teulu fel arfer yn rhoi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn ar gyfer dolur gwddf oherwydd ni fyddant fel arfer yn lleddfu eich symptomau nac yn cyflymu eich adferiad.

Byddant ond yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn os bydd eich meddyg teulu o'r farn bod gennych haint bacterol, efallai.

Ffoniwch 999:

  • os ydych chi'n cael trafferth llyncu neu anadlu
  • os ydych chi’n driblo - mae hyn yn gallu bod yn arwydd o fethu llyncu
  • os ydych chi'n gwneud sŵn uchel wrth i chi anadlu (sef gwichian)
  • os yw eich symptomau'n ddifrifol ac yn gwaethygu'n gyflym

Symptomau dolur gwddf

Os oes gennych chi ddolur gwddf, efallai y bydd gennych y canlynol:

  • gwddf poenus, yn enwedig wrth lyncu
  • gwddf sych, crafog
  • cochni yng nghefn eich ceg
  • anadl ddrwg
  • peswch ysgafn
  • chwarennau gwddf wedi chwyddo

Bydd plant yn cael symptomau tebyg, ond gall plant hefyd gael tymheredd uchel ac ymddangos yn llai egnïol.

Achosion a symptomau dolur gwddf

Fel arfer, mae dolur gwddf yn cael ei achosi gan firysau (fel annwyd neu’r ffliw) neu oherwydd ysmygu. Yn achlysurol iawn, gall bacteria ei achosi.

Gall dolur gwddf hefyd gael ei achosi gan:



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 10/01/2024 12:51:25