Firws Zika

Cyflwyniad

Mae clefyd feirws Zika yn cael ei ledaenu gan fosgitos yn bennaf. I’r rhan fwyaf o bobl, mae’n haint ysgafn iawn ac nid yw’n niweidiol.

Ond gall fod yn fwy difrifol i fenywod beichiog gan fod tystiolaeth ei fod yn achosi diffygion geni – yn benodol, pen annormal o fach (microceffali).

Nid yw Zika yn digwydd yn naturiol yn y Deyrnas Unedig (y DU). Mae adroddiadau am achosion o Zika wedi bod yn rhanbarth y Môr Tawel, De a Chanolbarth America, y Caribî, Affrica a rhannau o dde a de-ddwyrain Asia.

Os ydych chi’n bwriadu teithio i ardal sydd wedi cael ei heffeithio, ceisiwch gyngor iechyd teithio cyn eich taith.

Caiff cyngor teithio ei deilwra i chi a’i seilio ar lefel risg (risg neu risg isel iawn) y wlad rydych chi’n teithio iddi.

Mae argymhellion penodol i fenywod beichiog sy’n ystyried teithio i wledydd neu ardaloedd sydd wedi’u heffeithio i’w gweld yn adran ‘risgiau eraill’ tudalennau gwybodaeth gwledydd NaTHNaC.

Os byddwch chi’n teithio i ardal sydd wedi’i heffeithio, gallwch leihau’r risg y byddwch yn dal y feirws trwy ddefnyddio cynnyrch ymlid pryfed a gwisgo dillad llac sy’n gorchuddio’ch breichiau a’ch coesau.

Symptomau haint feirws Zika

Fel arfer, mae’r rhan fwyaf o bob yn cael symptomau ysgafn neu ni fyddant yn cael  symptomau. Os bydd symptomau’n digwydd, byddant yn ysgafn fel arfer ac yn para rhwng 2 a 7 diwrnod.

Mae symptomau cyffredin yn cynnwys:

  • brech
  • cosi dros y corff cyfan
  • tymheredd uchel
  • pen tost/cur pen
  • poen yn y cymalau (ac efallai chwyddo yng nghymalau llai y dwylo a’r traed, yn bennaf)
  • poen yn y cyhyrau
  • llygaid coch (llid y gyfbilen)
  • poen yn rhan isaf y cefn
  • poen y tu ôl i’r llygaid

Sut rydych chi’n dal haint feirws Zika

Mae’r rhan fwyaf o achosion o glefyd feirws Zika yn cael eu lledaenu wrth i fosgitos heintus gnoi pobl.

Yn wahanol i’r mosgitos sy’n lledaenu malaria, mae’r mosgitos sydd wedi’u heffeithio (mosgito Aedes) yn fwyaf gweithgar yn ystod y dydd, yn enwedig canol y bore, yna’n hwyr y prynhawn hyd at y cyfnos.

Cafwyd nifer bach o adroddiadau am drosglwyddo feirws Zika trwy gyfathrach rywiol, ond tybir bod y risg yn isel.

Lleihau eich risg haint feirws Zika

Cyn teithio, ceisiwch gyngor iechyd teithio gan feddyg teulu, nyrs practis neu glinig teithio, 4 i 6 wythnos cyn i chi fynd, yn ddelfrydol.

Gallwch ddefnyddio’r Canllaw A i Y hwn i wirio a oes risg trosglwyddo feirws Zika yn y wlad y byddwch chi’n ymweld â hi.

Mae cyngor iechyd teithio manwl ar gael ar gyfer eich cyrchfan hefyd o wefan TravelHealthPro neu wasanaeth iechyd teithio’r Alban fitfortravel.

I leihau eich risg o gael haint, dylech osgoi cael eich cnoi gan fosgito Aedes.

Mae’r dulliau mwyaf effeithiol o atal cnoadau, y dylid eu defnyddio yn ystod oriau’r dydd a’r nos, yn cynnwys:

  • defnyddio cynnyrch ymlid pryfed sy’n cynnwys DEET (N, N-diethyl-meta-toluamide) ar groen noeth ar ôl gwisgo eli haul (gellir defnyddio DEET gan fenywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron mewn crynodiadau o hyd at 50%, ac mewn babanod a phlant dros 2 fis oed, ond ni ddylai gael ei ddefnyddio ar fabanod o dan 2 fis oed)
  • gwisgo dillad llac sy’n gorchuddio eich breichiau a’ch coesau
  • cysgu o dan rwyd mosgitos mewn ardaloedd lle y mae malaria yn risg, hefyd

 

Cyngor i fenywod beichiog

Mae gwyddonwyr wedi dod i’r casgliad bod digon o dystiolaeth i ddangos bod haint feirws Zika yn un o achosion namau geni, gan gynnwys microceffali.

Mae microceffali yn golygu y bydd gan y baban ben annormal o fach a gall fod yn gysylltiedig â datblygiad annormal yr ymennydd. Yr enw ar hyn hefyd yw syndrom Zika cynhenid.

Mae argymhellion penodol i fenywod beichiog sy’n ystyried teithio i wledydd neu ardaloedd sydd wedi’u heffeithio i’w gweld yn adran ‘risgiau eraill’ tudalennau gwybodaeth gwledydd NaTHNaC.

Trafodwch eich cynlluniau teithio gyda meddyg teulu, nyrs practis neu glinig teithio. Os na allwch osgoi teithio, cymerwch ofal ychwanego i osgoi cael eich cnoi gan fosgitos.

Os ydych chi a’ch partner mewn ardal lle y mae risg o drosglwyddo feirws Zika, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio condomau wrth gael rhyw trwy’r wain, yr anws a’r geg tra byddwch chi’n teithio a thros gyfnod cyfan eich beichiogrwydd.

Os ydych chi’n feichiog ac wedi dychwelyd yn ddiweddar o wlad neu ardal â risg trosglwyddo feirws Zika, ewch i weld meddyg teulu neu fydwraig a dywedwch wrthynt i ble y buoch chi, hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn sâl.

Bydd eich bydwraig neu feddyg ysbyty yn trafod y risg gyda chi ac yn gallu trefnu sgan uwchsain o’ch baban i fonitro twf.

Os oes unrhyw broblemau, cewch eich atgyfeirio i wasanaeth arbenigol meddygaeth y ffetws am fonitro pellach.

Mae feirws Zika yn fwyaf tebygol o gael ei ddarganfod gan brofion sydd ar gael ar hyn o bryd pan fydd symptomau’n bresennol.

Os ydych chi’n cael symptomau Zika ar hyn o bryd, cysylltwch â meddyg teulu, a fydd yn penderfynu p‘un a oes angen ymchwiliadau pellach.

Gallai ymchwiliadau gynnwys prawf gwaed a phrawf uwchsain os ydych chi’n feichiog.

Nid yw profion sgrinio Zika ar gael i bobl heb symptomau.

Cyngor i fenywod sy’n ceisio beichiogi

Os ydych chi’n ceisio beichiogi, trafodwch eich cynlluniau teithio gyda meddyg teulu, nyrs practis neu glinig teithio.

Dylech gymryd gofal ychwanegol i osgoi cael eich cnoi gan fosgitos.

Dylai menywod osgoi beichiogi wrth deithio mewn gwlad neu ardal â risg o drosglwyddo feirws Zika.

Wrth ddychwelyd i’r DU, dylech osgoi beichiogi am 2 fis pellach os y fenyw yn unig fu’n teithio, neu am 3 mis os buodd y ddau bartner neu’r partner gwrywaidd yn unig yn teithio.

Dysgwch ragor am atal haint trwy drosglwyddo yn rhywiol

Os ydych wedi cael symptomau Zika o fewn pythefnos o ddychwelyd adref, argymhellir eich bod yn aros 2 fis ar ôl gwella’n llwyr cyn i chi geisio beichiogi.

Os yw eich partner gwrywaidd wedi teithio i ardal â risg o drosglwyddo feirws Zika, dylech ddefnyddio dulliau atal cenhedlu effeithiol i atal beichiogi.

Hefyd, dylech ddefnyddio condomau wrth gael rhyw trwy’r wain, yr anws a’r geg er mwyn lleihau risg trosglwyddo yn rhywiol.

Dylid cymryd y camau hyn yn ystod y teithio ac am 3 mis:

  • ar ôl dechrau’r symptomau (os yw’r gwryw yn cael symptomau Zika neu mae meddyg wedi cadarnhau haint feirws Zika)
  • ar ôl iddo ddychwelyd adref (os nad oes ganddo symptomau Zika)

 

Sut mae haint feirws Zika yn cael ei drin

Nid oes triniaeth benodol ar gyfer symptomau feirws Zika. Gall yfed digon o ddŵr a llyncu paracetamol helpu i leddfu symptomau.

Os byddwch chi’n teimlo’n anhwylus ar ôl dychwelyd o wlad sydd â malaria, yn ogystal â risg trosglwyddo feirws Zika, dylech geisio cyngor brys (ar y diwrnod hwnnw) er mwyn helpu i ddiystyru diagnosis o falaria.

Os byddwch yn anhwylus o hyd a dangoswyd nad malaria yw’r rheswm drosto, ceisiwch gyngor meddygol.

Beth os ydw i’n poeni bod Zika wedi effeithio ar fy mabi?

Siaradwch â’ch bydwraig neu eich meddyg i gael cyngor.

Os ydych chi’n poeni o hyd ar ôl cael sicrwydd gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac yn teimlo’n fwy pryderus neu dan fwy o straen na’r arfer, gallwch ofyn i feddyg teulu neu fydwraig am gael eich atgyfeirio i gael cwnsela pellach.

Feirws Zika a rhoi gwaed

Rhag ofn, mae Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblannu’r GIG wedi argymell bod pobl sydd wedi teithio i ardaloedd â risg trosglwyddo feirws Zika yn aros 28 diwrnod cyn rhoi gwaed.

Os ydych am wybod p’un a yw unrhyw deithio tramor diweddar yn eich atal dros dro rhag rhoi gwaed, gallwch ffonio’u Canolfan Gyswllt Genedlaethol ar 0300 123 23 23.

Feirws Zika a syndrom Guillain-Barré

Mae gwyddonwyr o’r farn erbyn hyn bod feirws Zika yn achosi syndrom Guillain-Barré (GBS), sef cyflwr difrifol y system nerfol.

Nid yw risg datblygu GBS ar ôl haint feirws Zika yn hysbys ar hyn o bryd, ond tybir bod y risg yn isel iawn.

Gwybodaeth amdanoch chi

Os ydych wedi cael eich heintio â feirws Zika, bydd eich tîm clinigol yn trosglwyddo gwybodaeth amdanoch chi i Wasanaeth Cofrestru Cenedlaethol Clefydau Prin ac Anomaleddau Cynhenid (NCARDRS).

Mae hyn yn helpu gwyddonwyr i chwilio am ffyrdd gwell o atal a thrin y cyflwr hwn. Gallwch adael y gofrestr hon unrhyw bryd.

Dysgwch fwy am y gofrestr

Darllen pellach

Gov.UK: Zika virus clinical and travel guidance

Royal College of Obstetricians & Gynaecologists: Q&As on Zika and pregnancy

World Health Organization: Zika virus factsheet

TravelHealthPro: Zika virus update and advice for travellers, including pregnant women

Best use of medicines in pregnancy (bumps): Zika virus

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 23/11/2023 11:34:24