Vaccination menu links


Sgil effeithiau booster harddegau 3-mewn-1

Pan fydd sgil-effeithiau’n digwydd ar ôl cael y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau, maen nhw’n debygol o fod yn ysgafn a digwydd o fewn deuddydd neu dridiau o gael y pigiad.

Adweithiau cyffredin iawn i’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau

Bydd mwy nag 1 plentyn ym mhob 10 sy’n cael y brechlyn yn profi:

  • diffyg archwaeth
  • pigogrwydd
  • aflonyddwch
  • crïo anarferol
  • twymyn ysgafn
  • poen, cochni a chwyddo yn y man lle y rhoddwyd y pigiad

Adweithiau cyffredin i’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau

Bydd rhwng 1 plentyn ym mhob 10 ac 1 plentyn ym mhob 100 sy’n cael y brechlyn yn profi:

Adweithiau anghyffredin i’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau

Bydd rhwng 1 plentyn ym mhob 100 ac 1 plentyn ym mhob 1,000 sy’n cael y brechlyn yn profi:

Adweithiau anghyffredin iawn i’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i’r rhai yn eu harddegau

Mewn achosion anghyffredin (llai nag 1 plentyn ym mhob 1,000), bydd plentyn yn cael confylsiwn neu ffit ar ôl cael y brechlyn.

Sgil-effaith anghyffredin iawn arall yw adwaith alergaidd difrifol, a elwir hefyd yn anaffylacsis. Gall adweithiau alergaidd difrifol ddigwydd gydag unrhyw frechlyn, ond maen nhw’n anghyffredin iawn. Mae’r staff gofal iechyd sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i ymdrin ag adweithiau alergaidd difrifol a bydd plant yn gwella’n llwyr gyda thriniaeth.

Trin sgil-effeithiau’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1

Os ydych yn teimlo’n sâl ar ôl yr imiwneiddiad, cymerwch parasetamol neu ibuprofen. Os yw’ch tymheredd yn dal i fod yn uchel ar ôl yr ail ddos o boenladdwyr, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111 Cymru (os ar gael yn eich ardal) neu 0845 46 47.

Cofiwch, ni ddylech gymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys asbirin os ydych yn iau nag 16 oed.

Monitro diogelwch brechlynnau

Yn y Deyrnas Unedig, mae diogelwch brechlynnau’n cael ei fonitro fel mater o drefn trwy’r Cynllun Cerdyn Melyn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a’r Pwyllgor ar Ddiogelwch Meddyginiaethau. Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn cofnodi lefelau clefydau a’r nifer sy’n derbyn brechlynnau er mwyn mesur effaith brechlynnau ar glefydau.

Mae’r rhan fwyaf o adweithiau y rhoddwyd gwybod amdanynt trwy’r Cynllun Cerdyn Melyn wedi bod yn rhai ysgafn fel brechau, twymyn, chwydu, a chochni a chwyddo yn y man lle y rhoddwyd y pigiad.

Darllenwch fwy ynghylch beth i’w wneud ynglŷn â sgil-effaith brechlyn.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk