Vaccination menu links


Sgil effeithiau Hib/Men C

Mae’r brechlyn Hib/Men C yn ddiogel iawn, ond fe all achosi sgil-effeithiau, yn yr un modd â phob math o feddyginiaeth.

Adweithiau cyffredin iawn i’r brechlyn Hib/Men C

Mae’r adweithiau hyn yn gyffredin ond yn tueddu i fod yn ysgafn iawn a byrhoedlog. Mae mwy nag 1 plentyn ym mhob 10 sy’n cael y brechlyn Hib/Men C yn profi:

  • poen, cochni neu chwyddo yn y man lle y rhoddwyd y pigiad
  • twymyn (tymheredd o 38°C neu uwch)
  • pigogrwydd
  • diffyg archwaeth
  • teimlo’n gysglyd

Adweithiau anghyffredin i’r brechlyn Hib/Men C

Mae’r sgil-effeithiau canlynol yn llai cyffredin:

  • crïo
  • dolur rhydd
  • chwydu
  • teimlo’n anhwylus yn gyffredinol
  • twymyn o 39.5°C neu uwch

Mae’r sgil-effeithiau llai cyffredin hyn yn ysgafn a byrhoedlog hefyd fel arfer.

Adweithiau anghyffredin iawn i’r brechlyn Hib/Men C

Mae brech croen yn sgil-effaith anghyffredin iawn o’r brechlyn hib/Men C.

Gall adweithiau alergaidd difrifol ddigwydd yn sgil y brechlyn Hib/Men C hefyd, ond maen nhw’n anghyffredin iawn. Mae’r bobl sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i ymdopi ag adweithiau alergaidd difrifol a bydd plant yn gwella’n llwyr gyda thriniaeth.

Monitro diogelwch y brechlyn Hib/Men C

Yn y Deyrnas Unedig, caiff diogelwch brechlynnau ei fonitro fel mater o drefn trwy’r Cynllun Cerdyn Melyn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a’r Pwyllgor Diogelwch Meddyginiaethau. Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn cofnodi lefelau clefydau a’r nifer sy’n derbyn brechlynnau er mwyn mesur effaith brechlynnau ar glefydau.

Mae’r rhan fwyaf o adweithiau y rhoddwyd gwybod amdanynt trwy’r Cynllun Cerdyn Melyn wedi bod yn rhai ysgafn fel brechau, twymyn, chwydu, neu gochni a chwyddo yn y man lle y rhoddwyd y pigiad.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk