Vaccination menu links


Ydy brechiadau yn diogel?

Sut mae brechiadau’n cael eu profi a’u monitro

Mae’n rhaid i frechiadau gael eu profi’n drylwyr er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel cyn iddynt fod ar gael fel mater o drefn.

Mae diogelwch pob brechlyn yn cael ei fonitro’n barhaus, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei gyflwyno. Gwneir hyn oherwydd na fydd yr holl sgil-effeithiau’n amlwg yn ystod datblygiad y brechlyn, yn enwedig os ydynt yn anghyffredin iawn. Mae’r holl frechlynnau a ddefnyddir yn gyffredin yn cael eu monitro’n barhaus ac yn ofalus, fel bod unrhyw sgil-effeithiau’n cael eu hamlygu.

Cynhwysion brechlynnau

Mae angen ychwanegion ar frechlynnau i wella’r ffordd y maent yn gweithio a chynyddu eu cyfnod silff (pa mor hir y gellir eu cadw). Dyma’r tri phrif sylwedd a ychwanegir at frechlynnau:

  • adjiwfantau neu sylweddau gwella – i wneud y brechlyn yn fwy effeithiol trwy ysgogi eich system imiwnedd, gan wneud iddi ymateb yn gyflymach ac yn gryfach i’r brechlyn
  • sefydlogwyr – i atal y brechlyn rhag dirywio pan gaiff ei amlygu i newidiadau yn yr amgylchedd, fel golau a thymheredd
  • cadwolion – i gynyddu cyfnod silff y brechlyn

Gwybodaeth fanylach am gynhwysion brechlynnau.

Sgil-effeithiau brechlynnau

Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yw’r sefydliad sy’n gyfrifol am wirio diogelwch meddyginiaethau (gan gynnwys brechlynnau) sydd ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r MHRA yn casglu gwybodaeth am ddiogelwch brechlynnau trwy’r Cynllun Cerdyn Melyn, sy’n galluogi unrhyw un i roi gwybod i’r MHRA am sgil-effaith a amheuir. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch sut i roi gwybod am sgil-effaith brechlyn.

Yn ogystal â’r Cynllun Cerdyn Melyn, mae’r MHRA yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau eraill o wybodaeth am ddiogelwch, gan gynnwys llenyddiaeth feddygol, astudiaethau diogelwch a gynhaliwyd gan wneuthurwyr brechlynnau, cronfeydd data sy’n olrhain tueddiadau o ran clefydau a sefydliadau byd-eang eraill.

Yn dilyn asesiad gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), llwyddodd y wefan NHS Choices i basio eu “meini prawf arferion gwybodaeth da o ran hygrededd a chynnwys". Mae wedi’i chynnwys yn rhestr yr WHO o wefannau diogelwch brechlynnau.

Nawr, darllenwch am sut mae brechlynnau’n gweithio.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk