Vaccination menu links


Pam mae angen y brechlyn pneumococcal?

Ar eu gwaethaf, mae heintiau niwmococol yn gallu achosi niwed difrifol parhaol i’r ymennydd, neu hyd yn oed ladd. Maen nhw’n tueddu i fod yn fwyaf difrifol mewn plant, pobl hŷn a phobl â rhai cyflyrau iechyd tymor hir.

Dyna pam y cynigir brechlyn niwmococol i’r grwpiau hyn trwy’r GIG. Mae’n frechlyn syml a diogel sy’n gallu atal heintiau niwmococol.

Sut mae heintiau niwmococol yn cael eu lledaenu?

Mae heintiau niwmococol yn cael eu lledaenu’n rhwydd trwy gysylltiad agos neu hirfaith â rhywun sydd â’r haint.

Mae’r bacteria niwmococol yn bresennol mewn diferion bychain sy’n cael eu gyrru allan pan fydd unigolyn heintiedig yn anadlu, peswch neu disian. Os byddwch yn anadlu’r diferion hyn i mewn, fe allech chi gael eich heintio hefyd.

Gallwch hefyd gael eich heintio trwy gyffwrdd ag unrhyw ddiferion a allai fod wedi glanio ar arwyneb fel bwrdd, ac yna eu trosglwyddo i’ch wyneb.

Pan fydd y bacteria wedi mynd i mewn i’ch corff – fel arfer trwy’ch trwyn neu’ch gwddf – gallant naill ai aros ynghwsg (sy’n golygu nad ydynt yn achosi unrhyw niwed i chi, ond gallent gael eu trosglwyddo i rywun arall), neu gallant luosi ac achosi problemau iechyd fel niwmonia.

O ran heintiau niwmococol, credir mai’r cyfnod deor (yr amser rhwng dal haint a dangos symptomau) yw oddeutu un i dri diwrnod.

Mathau o heintiau niwmococol

Mae heintiau niwmococol fel arfer yn un o’r mathau canlynol:

  • heintiau niwmococol anymledol – mae’r rhain yn digwydd y tu allan i’r prif organau ac yn tueddu i fod yn llai difrifol, fel otitis media (haint y glust ganol)
  • heintiau niwmococol ymledol – mae’r rhain yn digwydd y tu mewn i un o’r prif organau neu yn y gwaed ac yn tueddu i fod yn fwy difrifol, er enghraifft, meningitis (haint yr ymennydd)

Bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr, ceir 5,000 i 6,000 o heintiau niwmococol difrifol. Yn Lloegr, amcangyfrifir bod oddeutu 3,400 o bobl dros 65 oed yn marw yn yr ysbyty bob blwyddyn o heintiau niwmococol.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk