Pwysedd gwaed (uchel)

Cyflwyniad

Blood pressure (high)
Blood pressure (high)

Anaml y bydd gan bwysedd gwaed uchel, neu orbwysedd, symptomau amlwg. Ond os na chaiff ei drin, mae'n cynyddu eich risg o gael problemau difrifol fel trawiad ar y galon a strôc. Mae pwysedd gwaed uchel gan dros un o bob pedwar oedolyn yn y DU, ond nid yw llawer ohonynt yn sylweddoli hynny. Yr unig ffordd o wybod a yw eich pwysedd gwaed yn uchel yw cael eich pwysedd gwaed wedi'i fesur.

Beth yw pwysedd gwaed uchel?

Caiff pwysedd gwaed ei fesur gyda dau rif. Y pwysedd systolig (rhif uchaf) yw'r grym wrth i'ch calon bwmpio gwaed o amgylch eich corff.

Mae pwysedd diastolig (rhif isaf) yn dynodi'r gwrthsefyll i lif y gwaed yn y gwaedlestri. Caiff y ddau eu mesur mewn milimedrau mercwri (mmHg).

Fel canllaw cyffredinol:

  • ystyrir mai pwysedd gwaed uchel yw 140/90mmHg neu'n uwch
  • ystyrir mai pwysedd gwaed delfrydol yw rhwng 90/60mmHg a 120/80mmHg
  • ystyrir mai pwysedd gwaed isel yw 90/60mmHg neu'n is

Gallai darlleniad pwysedd gaed rhwng 120/80mmHg a 140/90mmHg olygu bod risg i chi ddatblygu pwysedd gwaed uchel os na chymerwch gamau i gadw'ch pwysedd gwaed o dan reolaeth.

Risgiau pwysedd gwaed uchel

Os yw eich pwysedd gwaed yn rhy uchel, mae'n rhoi straen ychwanegol ar eich gwaedlestri, eich calon ac organau eraill, fel yr ymennydd, yr arennau a'r llygaid.

Gall pwysedd gwaed uchel parhaus gynyddu eich risg o gael nifer o gyflyrau difrifol a chyflyrau a allai fygwth bywyd, fel:

Os oes gennych bwysedd gwaed uchel, gall hyd yn oed ei leihau ychydig helpu i leihau eich risg o ddatblygu'r cyflyrau hyn.

Gwiriwch eich pwysedd gwaed

Yr unig ffordd o wybod p'un a oes gennych bwysedd gwaed uchel yw cael prawf pwysedd gwaed.

Cynghorir pob oedolyn dros 40 oed i gael prawf pwysedd gwaed o leiaf bob pum mlynedd. Mae gwneud y prawf yn hawdd, a gallai arbed eich bywyd.

Gallwch gael prawf pwysedd gwaed mewn nifer o leoedd, gan gynnwys:

  • yn eich meddygfa deulu
  • mewn rhai fferyllfeydd
  • fel rhan o'ch Gwiriad Iechyd GIG
  • mewn rhai gweithleoedd

Gallwch wirio eich pwysedd gwaed eich hun hefyd gyda monitor pwysedd gwaed cartref.

Darllenwch fwy ynghylch cael prawf pwysedd gwaed.

Achosion pwysedd gwaed uchel

Yn aml, nid oes unrhyw beth amlwg yn achosi pwysedd gwaed uchel, ond gall rhai pethau gynyddu eich risg.

Mae gennych risg uwch o fod â phwysedd gwaed uchel:

  • os ydych chi dros 65 oed
  • os ydych chi dros eich pwysau neu'n ordew
  • os ydych chi o dras Affricanaidd neu Garibïaidd
  • os oes gennych berthynas sydd â phwysedd gwaed uchel
  • os ydych chi'n bwyta gormod o halen ac nid ydych chi'n bwyta  digon o ffrwythau a llysiau
  • os nad ydych chi'n gwneud digon o ymarfer corff
  • os ydych chi'n yfed gormod o alcohol neu goffi (neu ddiodydd caffein eraill)
  • os ydych chi'n ysmygu
  • os nad ydych chi'n cael llawer o gwsg neu rydych yn cysgu'n aflonydd

Gall gwneud newidiadau i ffordd iach o fyw leihau eich siawns o gael pwysedd gwaed uchel, a helpu i ostwng eich pwysedd gwaed os yw'n uchel yn barod.

Darllenwch fwy ynghylch achosion pwysedd gwaed uchel.

Gostwng eich pwysedd gwaed

Gall y newidiadau canlynol i'ch ffordd o fyw helpu i atal pwysedd gwaed uchel a gostwng pwysedd gwaed uchel.

  • lleihau faint o halen yr ydych yn ei fwyta a bwyta deiet iach yn gyffredinol
  • lleihau faint o alcohol rydych chi'n ei yfed os ydych chi'n yfed gormod ohono
  • colli pwysau os ydych chi dros eich pwysau
  • gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
  • lleihau faint o gaffein rydych chi'n ei fwyta/yfed
  • rhoi'r gorau i ysmygu
  • ceisio cael o leiaf chwe awr o gwsg bob nos

Gall fod angen i rai pobl sydd â phwysedd gwaed uchel gymryd un neu fwy o feddyginiaethau hefyd i atal eu pwysedd gwaed rhag mynd yn rhy uchel.

Darllenwch fwy ynghylch sut i gadw eich pwysedd gwaed yn iach.

Meddyginiaethau ar gyfer pwysedd gwaed uchel

Os cewch ddiagnosis o bwysedd gwaed uchel, gall eich meddyg teulu argymell eich bod yn cymryd un neu fwy o feddyginiaethau i'w gadw o dan reolaeth.

Fel arfer bydd angen cymryd y rhain unwaith y dydd.

Mae meddyginiaethau cyffredin ar gyfer pwysedd gwaed yn cynnwys:

  • atalyddion ACE - fel enalapril, lisinopril, perindopril a ramipril
  • atalyddion derbynnydd angiotensin-2 (ARB) - fel candesartan, irbesartan, losartan, valsartan ac olmesartan
  • atalyddion sianel calsiwm – fel amlodipine, felodipine a nifedipine neu diltiazem a verapamil.
  • diwretigion – fel indapamide a bendroflumethiazide
  • beta-atalyddion – fel atenolol a bisoprolol
  • atalyddion alffa – fel doxazosin
  • atalyddion renin – fel aliskiren
  • diwretigion eraill – fel amiloride a spironolactone

Bydd y feddyginiaeth a argymhellir ar eich cyfer yn dibynnu ar bethau fel pa mor uchel yw eich pwysedd gwaed a'ch oedran.

Darllenwch fwy ynghylch sut i drin pwysedd gwaed uchel.

Achosion

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw'n gwbl glir beth sy'n achosi pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd). Ond gall sawl peth gynyddu eich risg.

Pwy sydd â risg o gael pwysedd gwaed uchel?

Mae ffactorau sy'n gallu cynyddu eich risg o ddatblygu pwysedd gwaed uchel sylfaenol yn cynnwys:

  • oedran: mae risg datblygu pwysedd gwaed uchel yn cynyddu wrth i chi heneiddio
  • hanes teuluol o bwysedd gwaed uchel
  • bod o dras Affricanaidd neu Garibïaidd
  • llawer o halen yn eich bwyd
  • diffyg ymarfer corff
  • bod dros eich pwysau neu'n ordew
  • ysmygu
  • yfed llawer o alcohol yn rheolaidd
  • cael eich amddifadu o gwsg dros dymor hir

Darllenwch fwy ynghylch sut i atal pwysedd gwaed uchel.

Achosion hysbys pwysedd gwaed uchel

Mae oddeutu 1 o bob 20 achos o bwysedd gwaed uchel yn digwydd o ganlyniad i gyflwr gwaelodol, meddyginiaeth neu gyffur.

Mae cyflyrau sy'n gallu achosi pwysedd gwaed uchel yn cynnwys:

Mae meddyginiaethau a chyffuriau sy'n gallu cynyddu eich pwysedd gwaed yn cynnwys:

Yn yr achosion hyn, gall eich pwysedd gwaed ddychwelyd i'w lefel arferol pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd y feddyginiaeth neu'r cyffur.

Diagnosis

Fel arfer nid yw pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd) yn dangos unrhyw symptomau, felly'r unig ffordd o wybod a oes gennych chi'r cyflwr yw cael prawf pwysedd gwaed.

Dylai oedolion iach dros 40 oed gael prawf pwysedd gwaed o leiaf unwaith bob pum mlynedd.

Os oes gennych risg uwch o gael pwysedd gwaed uchel, dylech gael profion pwysedd gwaed yn amlach – unwaith y flwyddyn yn ddelfrydol.

Mae hyn yn beth rhwydd i'w wneud ac fe allai achub eich bywyd.

Ble i gael prawf pwysedd gwaed

Gallwch ofyn am gael gwiriad pwysedd gwaed - nid oes rhaid i chi aros i gael cynnig un.

Gallwch gael prawf pwysedd gwaed:

  • yn eich meddygfa gan feddyg teulu, nyrs y feddygfa, cynorthwy-ydd gofal iechyd neu beiriant hunanwasanaeth
  • mewn rhai fferyllfeydd
  • mewn rhai gweithleoedd
  • mewn digwyddiad iechyd

Gallwch wirio eich pwysedd gwaed gartref hefyd gan ddefnyddio pecyn profi gartref.

Y prawf

Roedd stethosgop, rhwymyn braich, pwmp a deial yn cael eu defnyddio fel arfer i fesur eich pwysedd gwaed, ond mae dyfeisiau awtomatig gyda synwyryddion a sgriniau arddangos digidol yn cael eu defnyddio'n gyffredin y dyddiau hyn.

Mae'n well eistedd i lawr gyda'ch cefn wedi'i gynnal a'ch coesau heb eu croesi am bum munud o leiaf cyn y prawf.

Fel arfer bydd angen i chi godi'ch llewys neu dynnu unrhyw ddilledyn â llewys hir fel bod modd gosod y rhwymyn o amgylch rhan uchaf eich braich. Ceisiwch ymlacio ac osgowch siarad pan gaiff y prawf ei gynnal.

Yn ystod y prawf:

  • byddwch yn dal un o'ch breichiau allan fel ei bod yr un lefel â'ch calon, a bydd y rhwymyn yn cael ei osod o'i hamgylch – dylai eich braich gael ei chynnal yn y safle hwn gyda chlustog neu fraich cadair, er enghraifft
  • caiff y rhwymyn ei bwmpio i fyny i gyfyngu llif y gwaed yn eich braich – gall y gwasgu hwn deimlo ychydig yn anesmwyth, ond dim ond ychydig eiliadau fydd yn para
  • caiff y pwysedd yn y rhwymyn ei ryddhau yn araf a bydd synwyryddion yn synhwyro dirgryniadau yn eich rhydwelïau – bydd meddyg yn defnyddio stethosgop i ganfod y rhain os bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei fesur â llaw
  • caiff y pwysedd yn y rhwymyn ei gofnodi ar ddau bwynt wrth i lif y gwaed ddychwelyd i'ch braich – defnyddir y mesuriadau hyn i roi eich darlleniad pwysedd gwaed

Fel arfer gallwch gael eich canlyniad ar unwaith, naill ai gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n cynnal y prawf neu ar y sgrin arddangos ddigidol.

Os yw eich pwysedd gwaed yn uchel, efallai y cewch eich cynghori i gofnodi eich pwysedd gwaed gartref i gadarnhau a oes pwysedd gwaed uchel gennych.

Monitro pwysedd gwaed wrth gerdded (24 awr)

Nid yw cael un darlleniad pwysedd gwaed uchel yn golygu o reidrwydd bod gennych bwysedd gwaed uchel. Gall pwysedd gwaed amrywio drwy gydol y dydd. Os ydych yn teimlo'n bryderus neu o dan straen pan fyddwch yn ymweld â'ch meddyg teulu, gall hynny gynyddu eich pwysedd gwaed.

Os oes gennych ddarlleniad uchel, efallai y gofynnir i chi gymryd nifer o ddarlleniadau gyda monitor pwysedd gwaed gartref, neu wisgo monitor 24 awr sy'n gwirio eich pwysedd gwaed trwy gydol y dydd. Bydd hyn yn cadarnhau p'un a yw eich pwysedd gwaed yn gyson uchel.

Gelwir hyn yn fonitro pwysedd gwaed 24 awr neu fonitro pwysedd gwaed wrth gerdded (ABPM).

Profi gartref

Gellir cynnal profion pwysedd gwaed adref hefyd gan ddefnyddio eich monitor pwysedd gwaed digidol eich hun.

Fel monitro pwysedd gwaed 24 awr neu fonitro pwysedd gwaed wrth gerdded, gall hyn roi adlewyrchiad gwell o'ch pwysedd gwaed. Gall hefyd eich galluogi i fonitro eich cyflwr yn haws yn y tymor hir.

Gallwch brynu amrywiaeth o declynnau monitro rhad er mwyn i chi brofi eich pwysedd gwaed gartref neu tra byddwch allan ac yn mynd o le i le.

Mae'n bwysig gwneud yn siwr eich bod yn defnyddio offer sydd wedi'i brofi'n iawn. Mae gwefan Cymdeithas Gorbwysedd Prydain (BHS) yn rhoi gwybodaeth am monitorau pwysedd gwaed sydd wedi'u dilysu sydd ar gael i'w prynu.

Deall eich darlleniad pwysedd gwaed

Caiff pwysedd gwaed ei fesur mewn milimedrau mercwri (mmHg) ac mae'n cael ei roi fel dau ffigur, sef:

  • pwysedd systolig: pwysedd y gwaed pan fydd eich calon yn gwthio gwaed allan
  • pwysedd diastolig: y pwysedd pan fydd eich calon yn gorffwys rhwng curiadau

Er enghraifft, os yw eich pwysedd gwaed yn '140 dros 90', neu'n 140/90mmHg, mae'n golygu bod gennych bwysedd systolig o 140mmHg a phwysedd diastolig o 90mmHg.

Fel canllaw cyffredinol:

  • ystyrir mai pwysedd gwaed uchel yw 140/90mmHg neu'n uwch (neu gyfartaledd o 135/85mmHg gartref)
  • ystyrir mai pwysedd gwaed delfrydol yw rhwng 90/60mmHg a 120/80mmHg
  • ystyrir mai pwysedd gwaed isel yw 90/60mmHg neu'n is

Gallai darlleniad pwysedd gaed rhwng 120/80mmHg a 140/90mmHg olygu bod risg i chi ddatblygu pwysedd gwaed uchel os na chymerwch gamau i gadw'ch pwysedd gwaed o dan reolaeth.

Triniaeth

Yn aml, gall newidiadau syml i'ch ffordd o fyw helpu i ostwng pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd), er y gall fod angen i rai pobl gymryd meddyginiaeth hefyd.

Gall eich meddyg teulu roi cyngor i chi ynglyn â newidiadau y gallwch eu gwneud i'ch ffordd o fyw a thrafod p'un a yw'n meddwl y byddai cymryd meddyginiaeth yn llesol i chi.

Cynghorir pawb sydd â phwysedd gwaed uchel i wneud y newidiadau i ffordd iach o fyw a amlinellir isod.

Bydd p'un a fydd meddyginiaeth yn cael ei hargymell yn dibynnu ar eich darlleniad pwysedd gwaed a'ch risg o ddatblygu problemau fel trawiad ar y galon neu strôc.

  • Os yw eich pwysedd gwaed yn gyson uwchlaw 140/90mmHg (neu 135/85mmHg gartref) ond bod eich risg o gael problemau eraill yn isel, byddwch yn cael eich cynghori i wneud rhai newidiadau i'ch ffordd o fyw
  • Os yw eich pwysedd gwaed yn gyson uwchlaw 140/90mmHg (neu 135/85mmHg gartref) a bod eich risg o gael problemau eraill yn uchel - byddwch yn cael cynnig meddyginiaeth i ostwng eich pwysedd gwaed, yn ogystal â gwneud newidiadau i'ch ffordd o fyw
  • Os yw eich pwysedd gwaed yn gyson uwchlaw 160/100mmHg - byddwch yn cael cynnig meddyginiaeth i ostwng eich pwysedd gwaed, yn ychwanegol at wneud newidiadau i'ch ffordd o fyw.

Mae'r triniaethau amrywiol ar gyfer pwysedd gwaed uchel wedi'u hamlinellu isod.

Newidiadau i ffordd o fyw

Isod, nodir rhai newidiadau y gallech eu gwneud i'ch ffordd o fyw i ostwng pwysedd gwaed uchel. Bydd rhai o'r rhain yn gostwng eich pwysedd gwaed mewn ychydig wythnosau, ond efallai y bydd newidiadau eraill yn cymryd mwy o amser.

Mae'r rhain yn cynnwys:

Gallwch gymryd y camau hyn heddiw, p'un a ydych chi'n cymryd meddyginiaeth pwysedd gwaed ai peidio. 

Yn wir, drwy wneud y newidiadau hyn yn gynnar, gallech osgoi'r angen am feddyginiaeth.

Darllenwch fwy o gyngor ynghylch newidiadau i ffordd o fyw er mwyn atal a gostwng pwysedd gwaed uchel.

Meddyginiaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel

Gellir defnyddio nifer o feddyginiaethau i helpu i reoli pwysedd gwaed uchel. Mae angen i lawer o bobl gymryd cyfuniad o feddyginiaethau gwahanol.

Bydd y feddyginiaeth a argymhellir ar eich cyfer chi ar y cychwyn yn dibynnu ar eich oedran ac ethnigrwydd:

  • Os ydych chi o dan 55 mlwydd oed - byddwch fel arfer yn cael cynnig atalydd ACE neu atalydd derbynnydd  angiotensin-2 (ARB).
  • Os ydych chi'n 55 oed neu'n hyn, neu o unrhyw oedran os ydych o dras Affricanaidd neu Garibïaidd - byddwch fel arfer yn cael cynnig atalydd sianel calsiwm.

Efallai y bydd angen i chi gymryd meddyginiaeth pwysedd gwaed am weddill eich bywyd. Ond efallai y bydd eich meddyg yn gallu lleihau neu atal eich triniaeth os bydd eich pwysedd gwaed yn aros dan reolaeth am nifer o flynyddoedd.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn cymryd eich meddyginiaethau yn unol â'r cyfarwyddyd. Os byddwch yn methu dosau, ni fydd yn gweithio mor effeithiol. Ni fydd y feddyginiaeth yn gwneud i chi deimlo'n wahanol o reidrwydd, ond nid yw hynny'n golygu nad yw'n gweithio.

Gallwch hefyd ofyn unrhyw gwestiynau am eich meddyginiaeth i'ch fferyllydd, neu ofyn iddo am gyngor ar sut i gadw at eich cynllun triniaeth.

Mae meddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio i drin pwysedd gwaed uchel yn gallu achosi sgil-effeithiau, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn profi unrhyw rai. Os ydych chi, bydd newid meddyginiaeth yn helpu yn aml.

Mae meddyginiaethau cyffredin ar gyfer pwysedd gwaed yn cael eu disgrifio isod.

Atalyddion ACE

Mae atalyddion ensym trawsnewid angiotensin (ACE) yn gostwng pwysedd y gwaed trwy ymlacio eich gwaedlestri.

Mae enalapril, lisinopril, perindopril a ramipril yn enghreifftiau cyffredin.

Y sgil-effaith fwyaf cyffredin yw peswch sych parhaus. Mae sgil-effeithiau posibl eraill yn cynnwys cur pen/pen tost, pendro a brech.

Atalyddion derbynnydd Angiotensin-2 (ARBau)

Mae ARBau yn gweithio mewn ffordd debyg i atalyddion ACE. Byddant yn cael eu hargymell yn aml os yw atalyddion ACE yn achosi sgil-effeithiau trwblus.

Mae candesartan, irbesartan, losartan, valsartan a olmesartan yn enghreifftiau cyffredin.

Mae sgil-effeithiau posibl yn cynnwys pendro, cur pen/pen tost, ac annwyd neu symptomau tebyg i'r ffliw.

Atalyddion sianel calsiwm

Mae atalyddion sianel calsiwm yn gostwng eich pwysedd gwaed drwy ehangu eich rhydwelïau.

Mae amlodipine, felodipine a nifedipine yn enghreifftiau cyffredin. Mae meddyginiaethau eraill, fel diltiazem a verapamil ar gael hefyd.

Mae sgil-effeithiau posibl yn cynnwys cur pen/pen tost, pigyrnau chwyddedig a rhwymedd.

Mae yfed sudd grawnffrwyth tra byddwch yn cymryd rhai mathau o atalyddion calsiwm yn gallu cynyddu eich risg o ddioddef sgil-effeithiau. 

Diwretigion

Mae diwretigion, sydd weithiau'n cael eu hadnabod fel tabledi dwr, yn gweithio trwy gael gwared ar ormod o ddwr a halen o'r corff trwy'r wrin. Cânt eu defnyddio'n aml os yw atalyddion sianel calsiwm yn achosi sgil-effeithiau trwblus.

Mae indapamide a bendroflumethiazide yn enghreifftiau cyffredin.

Mae sgil-effeithiau posibl yn cynnwys pendro pan fyddwch yn codi i sefyll, mwy o syched, angen mynd i'r toiled yn aml, a brech.

Efallai y gwelir lefel potasiwm isel (hypokalaemia) a lefel sodiwm isel (hyponatraemia) hefyd ar ôl eu defnyddio dros dymor hir.

Beta-atalyddion

Mae beta-atalyddion yn gallu gostwng pwysedd gwaed drwy wneud i'ch calon guro'n arafach, a chyda llai o rym.

Arferai beta-atalyddion fod yn driniaeth boblogaidd ar gyfer pwysedd gwaed uchel, ond erbyn hyn, maent yn tueddu i gael eu defnyddio dim ond pan na fu triniaethau eraill yn llwyddiannus. Y rheswm dros hyn yw bod beta-atalyddion yn cael eu hystyried yn llai effeithiol na'r meddyginiaethau eraill sy'n cael eu defnyddio i drin pwysedd gwaed uchel.

Mae atenolol a bisoprolol yn enghreifftiau cyffredin.

Mae sgil-effeithiau posibl yn cynnwys pendro, cur pen/pen tost, blinder, a dwylo a thraed oer.

 

Atal

Gellir atal pwysedd gwaed uchel neu ei ostwng yn aml trwy fwyta'n iach, cynnal pwysau iachus, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, yfed alcohol yn gymedrol a pheidio ag ysmygu.

Deiet iach

Dylech leihau faint o halen sydd yn eich bwyd a bwyta digonedd o ffrwythau a llysiau. Mae'r plât bwyta'n iach yn amlygu'r gwahanol fathau o fwydydd sy'n rhan o'n deiet, ac yn dangos faint ohonynt y dylem ei fwyta i gael deiet cytbwys ac iachus.

Mae halen yn codi eich pwysedd gwaed. Po fwyaf o halen rydych yn ei fwyta, yr uchaf yw eich pwysedd gwaed. Dylech geisio bwyta llai na 6g (0.2 owns) o halen bob dydd, sef tua llond llwy de.

Mae bwyta deiet isel mewn braster sy'n cynnwys llawer o ffibr (er enghraifft, pasta, bara a reis grawn cyflawn) a digonedd o ffrwythau a llysiau yn helpu i ostwng pwysedd gwaed hefyd. Ceisiwch fwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Darganfyddwch fwy ynghylch bwyta'n iach.

Cyfyngwch ar faint o alcohol rydych yn ei yfed

Gall yfed alcohol yn rheolaidd uwchlaw'r terfynau sy'n cael eu hargymell godi eich pwysedd gwaed dros gyfnod. Aros o fewn y lefelau sy'n cael eu hargymell yw'r ffordd orau o leihau eich risg o ddatblygu pwysedd gwaed uchel.

  • cynghorir dynion a menywod i beidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yn rheolaidd bob wythnos
  • lledaenwch eich yfed dros dri diwrnod neu fwy os ydych yn yfed cymaint â 14 uned yr wythnos

Darganfyddwch sawl uned sydd yn eich hoff ddiod a cael cynghorion ar dorri i lawr.

Yn ogystal, mae alcohol yn uchel mewn calorïau, a fydd yn gwneud i chi fagu pwysau. Bydd hyn yn cynyddu eich pwysedd gwaed hefyd.

Collwch bwysau

Mae bod dros eich pwysau yn gorfodi'ch calon i weithio'n galetach i bwmpio gwaed o amgylch eich corff, sy'n gallu codi eich pwysedd gwaed. Darganfyddwch a oes angen i chi golli pwysau trwy ddefnyddio'r cyfrifiannell pwysau iach BMI.

Os oes angen i chi golli ychydig o bwysau, mae'n werth cofio y bydd colli ychydig o bwysau yn unig yn gwneud gwahaniaeth mawr i'ch pwysedd gwaed a'ch iechyd yn gyffredinol.

Cewch gynghorion ar colli pwysau yn ddiogel.

Byddwch yn Weithgar

Mae bod yn weithgar a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd yn gostwng pwysedd gwaed trwy gadw eich calon a'ch gwaedlestri mewn cyflwr da. Gall ymarfer corff rheolaidd eich helpu i golli pwysau hefyd, a fydd yn helpu i ostwng eich pwysedd gwaed.

Dylai oedolion wneud o leiaf 150 munud (2 awr a 30 munud) o weithgarwch aerobig dwyster cymedrol (h.y. beicio neu gerdded yn gyflym) bob wythnos. 

Gall gweithgarwch corfforol gynnwys unrhyw beth o chwaraeon i gerdded a garddio. Cewch fwy o syniadau ar fod yn weithgar.

Rhowch y gorau i ysmygu

Nid yw ysmygu'n achosi pwysedd gwaed uchel yn uniongyrchol, ond mae'n golygu bod gennych risg uwch o lawer o gael trawiad ar y galon neu strôc. Bydd ysmygu, fel pwysedd gwaed uchel, yn achosi i'ch rhydwelïau gulhau. Os ydych chi'n ysmygu a bod gennych bwysedd gwaed uchel, bydd eich rhydwelïau'n culhau yn gyflymach o lawer, a bydd eich risg o gael clefyd y galon neu glefyd yr ysgyfaint yn y dyfodol yn cynyddu'n sylweddol. Ceisiwch gymorth ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu.

Darganfyddwch sut caiff eich pwysedd gwaed ei brofi.

Yfwch llai o gaffein

Gallai yfed mwy na phedwar cwpanaid o goffi y dydd gynyddu eich pwysedd gwaed. Os ydych chi'n hoff iawn o goffi, te neu ddiodydd eraill sy'n cynnwys llawer o gaffein (fel cola a rhai diodydd egni), ystyriwch yfed llai ohonynt.

Mae'n iawn yfed te a choffi yn rhan o ddeiet cytbwys, ond mae'n bwysig sicrhau nad y diodydd hyn yw eich unig ffynhonnell hylif.

Mynnwch gael noson dda o gwsg

Mae amddifadedd cwsg tymor hir yn cael ei gysylltu â chynnydd mewn pwysedd gwaed a risg uwch o orbwysedd. Mae'n syniad da i geisio cael o leiaf chwe awr o gwsg bob nos os gallwch chi.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 18/09/2023 10:34:07