Pwysedd gwaed isel, a elwir hefyd yn isbwysedd, yw pan fydd y pwysedd gwaed yn eich rhydwelïau yn annormal o isel.
Mae pwysedd gwaed sy'n naturiol isel yn annhebygol o achosi unrhyw symptomau ac fel arfer nid oes unrhyw beth i boeni yn ei gylch.
Fodd bynnag, os bydd eich pwysedd gwaed yn disgyn yn rhy isel, gall atal faint o waed sy'n llifo i'ch ymennydd ac i organau hanfodol eraill, a gall achosi ansadrwydd, llewygu neu'r bendro a phenysgafnder.
Ewch i weld eich meddyg teulu os cewch unrhyw symptomau pwysedd gwaed isel a'ch bod yn pryderu.
Dylai pob oedolyn gael gwirio eu pwysedd gwaed o leiaf bob pum mlynedd. Os nad ydych chi wedi cael mesur eich pwysedd gwaed neu os nad ydych chi'n gwybod beth yw eich darlleniad, gofynnwch i'ch meddyg teulu i'w wirio.
Beth yw pwysedd gwaed isel?
Mae'r galon yn pwmpio cyflenwad cyson o waed o amgylch y corff drwy rhydwelïau, gwythiennau a chapilarïau. Mae pwysedd gwaed yn fesur o nerth y gwaed ar furiau'r rhydwelïau wrth i'r gwaed lifo drwyddynt.
Mae'n cael ei fesur mewn milimedrau o fercwri (mmHg) a'i gofnodi fel dau fesuriad:
- pwysedd systolig: y pwysedd pan fydd eich calon yn curo ac yn gwasgu gwaed i mewn i'ch rhydwelïau
- pwysedd diastolig: y pwysedd pan fydd eich calon yn gorffwys rhwng curiadau
Er enghraifft, os yw eich pwysedd gwaed systolig yn 120mmHg a'ch pwysedd gwaed diastolig yn 80mmHg, mae eich pwysedd gwaed yn 120 dros 80, sy'n cael ei ysgrifennu'n gyffredin fel 120/80.
Mae pwysedd gwaed normal rhwng 90/60 a 140/90. Os cewch ddarlleniad o 140/90 neu fwy, mae gennych bwysedd gwaed uchel (gorbwysedd). Mae hyn yn cynyddu eich risg o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol, fel trawiad ar y galon neu strôc.
Fel arfer ystyrir bod pwysedd gwaed isel gan bobl sy'n cael darlleniad pwysedd gwaed o dan 90/60.
Pam mae pwysedd gwaed isel gen i?
Gallwch fod â phwysedd gwaed isel am lawer o resymau, gan gynnwys yr amser o'r dydd, oedran, y tymheredd, unrhyw feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd, anaf a rhai afiechydon. Dysgwch fwy am achosion pwysedd gwaed isel.
Triniaeth a hunangymorth
Nid oes angen trin pwysedd gwaed sy'n naturiol isel fel arfer oni bai ei fod yn achosi symptomau fel y bendro neu'n peri i chi gwympo dro ar ôl tro. Os yw'n achosi i chi gael symptomau, bydd eich meddyg teulu'n edrych ar beth allai fod yn ei achosi.
Mae amryw o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i gyfyngu symptomau pwysedd gwaed isel, gan gynnwys:
- codi a sefyll yn raddol
- sicrhau eich bod yn yfed digon o hylif
- gwisgo sanau tynn
- osgoi caffein yn y nos a chyfyngu faint o alcohol rydych yn ei yfed
- cynnwys mwy o halen yn eich deiet
- bwyta prydau llai, yn amlach
Mynnwch fwy o wybodaeth am trin pwysedd gwaed isel.