Cyflwyniad
Canser y pen a'r gwddf yw'r term cyffredinol i ddisgrifio gwahanol ganserau yn yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys:
- y geg a'r gwefusau
- y corn gwddf (laryncs)
- y gwddf (ffaryncs)
- y chwarennau poer
- y trwyn a'r sinysau
- cefn y trwyn a'r geg (nasoffaryncs)
Mae tua 12,400 diagnosis newydd o ganser yn y DU bob blwyddyn. Yn y DU, canser y pen a'r gwddf yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion.
Y prif ffactorau risg ar gyfer canser y pen a'r gwddf yw tybaco ac alcohol. Mae rhai canserau'n gysylltiedig â haint gan firws o'r enw'r firws papiloma dynol (HPV).
Canser y geg
Canser y geg yw'r math mwyaf cyffredin o ganser y pen a'r gwddf.
Gall effeithio ar ardaloedd yn y geg ac o gwmpas y geg, gan gynnwys:
- y gwefusau
- y tafod
- y tu mewn i'r boch
- llawr y geg neu daflod y genau
- y deintgig
Gall symptomau canser y geg gynnwys:
- Briwiau'r geg sydd ddim yn gwella
- Lympiau cyson, heb esboniad, yn eich ceg
Darllenwch fwy am ganser y geg.
Canser y laryngeal
Mae canser y laryncs yn datblygu ym meinwe'r laryncs (y corn gwddf).
Symptomau canser y laryncs:
- newid yn y llais, fel crygni parhaus
- trafferth neu boen wrth lyncu
- anadlu swnllyd
- bod yn fyr o anadl
- peswch parhaus
- lwmp neu chwydd yn eich gwddf
Darllenwch fwy am ganser y laryncs.
Canser y llwnc
Mae canser y gwddf yn derm cyffredinol sy'n disgrifio sawl math gwahanol o ganser. Nid yw'n derm meddygol trachywir felly nid yw meddygon yn tueddu i'w ddefnyddio.
Gall yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gynnwys:
- yr oroffaryncs - cefn y geg
- yr hypoffaryncs - mae'n cysylltu'r oroffaryncs â'r llwnc a'r bibell wynt
- y nasoffaryncs - mae'n cysylltu cefn y trwyn â chefn y geg
Mae symptomau canser y gwddf yn cynnwys:
- poen clust
- dolur gwddf
- lwmp yn y gwddf
- trafferth llyncu
- newid i'r llais neu leferydd
- colli pwysau heb esboniad
- peswch
- bod yn fyr o anadl
- teimlo fel bod rhywbeth yn gaeth yn y gwddf
Darllenwch fwy am ganserau'r gwddf:
Canser y chwarren salivary
Mae chwarennau poer yn cynhyrchu poer, sy'n cadw eich ceg yn llaith ac yn helpu gyda llyncu a threulio. Mae 3 phrif bar o chwarennau poer a thros 600 o chwarennau llai.
Mae symptomau canser y chwarren boer yn cynnwys:
- lwmp neu chwydd ar neu gerllaw'r safn, yn eich ceg, neu'ch gwddf
- fferdod ar ran o'ch wyneb
- gwyro ar un ochr o'ch wyneb
Darllenwch fwy am ganser y chwarren boer:
Canser trwynol a sinws
Mae'r canser hwn yn effeithio ar y ceudod trwynol (y gofod y tu cefn i'r trwyn) neu ar y sinysau (ceudodau bach llawn aer y tu mewn i esgyn y trwyn ac o fewn esgyrn y bochau a'r talcen).
Mae llawer o gyflyrau sy'n gallu achosi'r un symptomau â chanser, ond nid ydynt yn ddifrifol.
Gall symptomau canser y trwyn a'r sinws gynnwys:
- trwyn llawn yn barhaus, sydd ond yn effeithio ar 1 ochr
- trwyn yn gwaedu
- llai o allu i synhwyro arogleuon
- mwcws yn rhedeg o'r trwyn neu i lawr i'r gwddf
Gall pobl sydd â chanser y trwyn a'r sinws gael symptomau sy'n effeithio ar y llygad:
- un llygad yn bolio allan
- colli'r golwg
- golwg ddwbl
- poen uwchlaw neu islaw'r llygad
- llygad ddyfriog
Symptomau eraill:
- Lwmp ar yr wyneb, y trwyn neu daflod y genau
- Poen neu oglais yn yr wyneb
- Pen tost/cur pen
- Dannedd llac
- Trafferth agor y geg
- Nodau lymff chwyddedig yn y gwddf
- Poen neu wasgedd yn y glust
Darllenwch fwy am ganser y chwarren boer:
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
19/03/2024 11:27:58