Canser y geg

Cyflwyniad

Cancer of the mouth
Cancer of the mouth

Gall canser y geg effeithio ar ardaloedd yn y geg ac o gwmpas y geg, gan gynnwys:

  • y gwefusau
  • y tafod
  • y tu mewn i'r boch
  • llawr y geg neu daflod y genau
  • y deintgig

Os gwneir diagnosis cynnar o ganser y geg, mae'n bosibl ei iachau yn llwyr mewn 9 allan o 10 achos.

Symptomau

Mae'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • briwiau poenus yn y geg, sydd ddim yn gwella
  • lwmp yn y geg neu'r gwddf 
  • dannedd llac, neu socedi sydd ddim yn gwella ar ôl tynnu dant
  • fferdod neu deimlad rhyfedd ar y wefus neu'r tafod
  • patsys coch neu wyn yn y geg neu ar y tafod
  • newidiadau mewn lleferydd

Gall symptomau eraill gynnwys:

  • poen neu drafferth wrth lyncu
  • colli pwysau heb esboniad
  • trafferth symud eich safn

Ewch i weld meddyg teulu neu ddeintydd os na fydd y symptomau hyn yn gwella mewn 3 wythnos.

Achosion

Mae'r prif ffactorau risg ar gyfer canser yn cynnwys:

  • ysmygu neu ddefnyddio tybaco mewn ffyrdd eraill (fel tybaco cnoi neu dybaco di-fwg)
  • alcohol
  • haint y firws papiloma dynol (HPV)

Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys:

  • cnoi cnau betel (gyda thybaco ychwanegol neu hebddo)
  • nid yw eich diet yn iach
  • hylendid gwael y geg

Atal

Gallwch atal canser y geg, neu ei atal rhag dychwelyd, trwy:

  • beidio ag ysmygu na defnyddio tybaco
  • peidio ag yfed mwy o alcohol na'r uchafswm sy'n cael ei argymell 
  • bwyta diet cytbwys, iach, sy'n cynnwys ffrwythau ffres, ffrwythau sitrws, olew olewydd a physgod 

Hunanarchwiliad

Yn aml, nid yw canser y geg yn achosi unrhyw symptomau amlwg ar y cychwyn.

Argymhellir eich bod chi'n gwneud hunanarchwiliad unwaith y mis. Mae'n cymryd llai na munud.

Mae gan yr Oral Health Foundation ganllaw defnyddiol ar sut i archwilio eich hun neu aelod o'ch teulu am ganser y geg.

Archwiliadau deintyddol

Mae'n bwysig cael archwiliadau deintyddol rheolaidd. Efallai bydd eich deintydd yn gallu darganfod canser y geg yn ystod archwiliad.

Chwiliwch am ddeintydd lleol

Y firws papiloma dynol (HPV)

Mae'r firws papiloma dynol (HPV) yn deulu o firysau. Gallant effeithio ar y croen a'r leininau y tu mewn i'r corff.

Gallwch ddal haint HPV trwy gysylltiad rhywiol â rhywun sydd wedi dal yr haint yn barod. Nid oes rhaid i chi gael cyfathrach rywiol, dim ond cyswllt rhwng y croen.

Mae tystiolaeth mewn achosion prin fod mathau penodol o HPV yn gallu achosi canser y geg.

Pwy sy'n cael ei effeithio

Canser y geg yw'r canser chweched fwyaf cyffredin. 

Mae tuag 8,300 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn yn y DU.

Mae mwy na 2 o bob 3 achos o ganser y geg yn datblygu mewn oedolion dros 55 oed. Dim ond 1 o bob 8 (12.5%) sy'n digwydd mewn pobl o dan 50 oed.

Mae dynion yn fwy tebygol o gael canser y geg na menywod.

Gall canser y geg ddatblygu mewn oedolion iau. Mae haint HPV yn gysylltiedig â chanserau'r geg ymhlith pobl iau.

Diagnosis

Os oes gennych symptomau canser y geg, ewch i weld meddyg teulu neu ddeintydd. Byddant yn cynnal archwiliad ac yn holi am symptomau. 

Bydd ei ddarganfod yn gynnar yn hybu'ch siawns o oroesi. Rhowch wybod i'ch deintydd neu'ch meddyg am unrhyw symptomau os nad ydynt yn gwella ymhen 3 wythnos. 

Os bydd amheuaeth o ganser y geg, cewch eich atgyfeirio i'r ysbyty am ragor o brofion.

Triniaeth

Mae 3 phrif opsiwn triniaeth ar gyfer canser y geg:

  • llawdriniaeth i dynnu'r celloedd canser
  • radiotherapi
  • cemotherapi

Yn aml, mae cyfuniad o'r triniaethau hyn yn cael eu defnyddio. Er enghraifft, gall cwrs o radiotherapi ddilyn llawdriniaeth. Mae datblygiadau mewn llawdriniaeth, radiotherapi a chemotherapi wedi arwain at gyfraddau iacháu llawer gwell.

Ar y cyfan, bydd tua 6 o bob 10 o bobl sydd â chanser y geg yn byw am o leiaf 5 mlynedd ar ôl eu diagnosis. Bydd llawer yn byw'n hirach o lawer heb i'r canser ddychwelyd.

I gael mwy o wybodaeth am ganser y geg, ewch i

Living with

Mae cymorth ar gael oddi wrth:

  • Cymorth Canser Macmillan 
  • Llinell gymorth Saving Faces ar 07792 357972 (9am tan 5pm)  neu e-bostiwch helpline@savingfaces.co.uk.

Gofalu am rywun sydd â chanser y geg 

Os ydych chi'n gofalu am rywun sydd â chanser y geg, mae'n bwysig gofalu amdanoch eich hun a chael cymaint o help â phosibl. Gall fod angen saib arnoch rhag gofalu os byddwch yn teimlo'n isel ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

Ffoniwch linell gymorth Carers Direct ar 0300 123 1053 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 8pm a rhwng 11am a 4pm ar y penwythnos).



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/03/2024 11:31:08