Clamydia

Cyflwyniad

Clamydia yw un o'r heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig. 

Gwelir clamydia yn fwyaf cyffredin mewn pobl o dan 25 oed, ond mae'n gallu heintio pobl o bob oedran.

Symptomau clamydia

Dydy'r rhan fwyaf o bobl â chlamydia ddim yn sylwi ar unrhyw symptomau, a dydyn nhw ddim yn gwybod bod ganddynt yr haint.

Os byddwch yn datblygu symptomau, gallech chi brofi:

  • poen wrth wneud pi-pi
  • rhedlif anarferol o'r fagina, y pidyn neu'r pen-ôl
  • mewn menywod, poen yn y bol, gwaedu ar ôl cael rhyw a gwaedu rhwng y mislif
  • mewn dynion, poen a chwyddo yn y ceilliau

Os ydych chi'n meddwl eich bod mewn perygl o gael haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) neu os oes gennych unrhyw un o symptomau clamydia, ewch i weld meddyg teulu, gwasanaeth atal cenhedlu cymunedol neu glinig meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM) i gael prawf.

Sut ydych chi'n dal clamydia?

Haint bacterol yw clamydia. Caiff y bacteria eu lledaenu fel arfer trwy ryw neu gyswllt â hylif heintiedig yr organau cenhedlu (semen neu hylif gweiniol).

Gallwch chi gael clamydia trwy:

  • gael rhyw gweiniol, rhefrol neu eneuol heb ddiogelwch
  • rhannu teganau rhyw heb eu golchi neu heb eu gorchuddio â chondom newydd bob tro y cânt eu defnyddio
  • os bydd eich organau cenhedlu yn dod i gysylltiad ag organau cenedlu eich partner - mae hyn yn golygu y gallwch chi gael clamydia gan rywun hyd yn oed os nad os oes treiddiad, orgasm neu ffrydiad had
  • semen neu hylif gweiniol heintiedig yn mynd i mewn i'ch llygad

Gall menyw feichiog ei drosglwyddo i'w baban hefyd.

Ni all clamydia gael ei drosglwyddo trwy gyswllt didaro, fel cusanu a chofleidio, neu o rannu bath, tywelion, pyllau nofio, seddi toiled neu gyllyll a ffyrc.

Ydy clamydia yn ddifrifol?

Er nad ydy clamydia fel arfer yn achosi unrhyw symptomau ac yn gallu cael ei drin fel arfer â chwrs byr o wrthfiotigau, gall fod yn ddifrifol os na chaiff ei drin yn gynnar.

Os caiff ei adael heb ei drin, gall yr haint ledaenu i rannau eraill o'ch corff ac arwain at broblemau iechyd hirdymor, yn enwedig mewn menywod.

Mewn menywod, gall clamydia heb ei drin achosi clefyd llidiol y pelfis (PID), beichiogrwydd ectopig ac anffrwythlondeb.

Mewn dynion, mewn achosion prin, gall clamydia ledaenu i'r ceilliau a'r epididymis (tiwbiau sy'n cario sberm o'r ceilliau), gan achosi iddyn nhw fynd yn boenus a chwyddedig. Yr enw am hyn ydy epididymitis (llid yr argaill) neu lid y ceilliau.

Weithiau, mae'n gallu achosi arthritis adweithiol mewn dynion a menywod hefyd.

Dyma pam mae'n bwysig cael prawf a thriniaeth cyn gynted ag y bo modd os ydych chi'n meddwl efallai bod clamydia gennych chi.

Cael prawf ar gyfer clamydia

Mae prawf ar gyfer clamydia yn cael ei wneud â phrawf wrin neu brawf swab.

Does dim angen i chi gael archwiliad corfforol gan nyrs neu feddyg bob amser.

Os ydych chi'n weithredol rywiol, mae'n syniad da cael prawf ar gyfer clamydia bob blwyddyn, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n iawn.

Mae'n arfer da mynd i gael prawf os ydych chi ar fin dechrau perthynas newydd, ac i'ch partner wneud yr un fath.

Menywod

Os nad oes gennych chi unrhyw symptomau, nid oes angen archwiliad mewnol, ac fe gaiff swab ei gymryd o'r tu mewn i'r fagina.

Os ydych chi wedi cael rhyw rhefrol neu wedi rhoi rhyw geneuol i'ch partner, efallai y cewch eich cynghori i gael swabiau wedi'u cymryd o'r rectwm (y twll pen-ôl) a/neu'r gwddf.

Dynion

Os nad oes gennych chi unrhyw symptomau, gofynnir i chi roi sampl wrin fel arfer. Fodd bynnag, os oes gennych chi symptomau, fel rhedlif o'r pidyn, bydd meddyg neu nyrs yn cymryd swab o flaen eich pidyn. Ar ôl hyn, gofynnir i chi roi sampl wrin.

Dylai dynion sy'n cael rhyw gyda dynion gael swabiau wedi'u cymryd o'r rectwm a/neu'r gwddf.

Gall unrhyw un gael prawf clamydia yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol mewn clinig iechyd rhywiol neu feddygfa, neu gallwch chi archebu prawf ar-lein. Hefyd, gallwch chi brynu pecynnau prawf clamydia i'w gwneud gartref. Os byddwch chi'n dewis gwneud hyn, gwnewch yn siŵr fod marc sicrhau ansawdd CE ar y pecyn. Mae hyn yn golygu y bydd y pecyn yn gweithio'n briodol a'i fod yn ddiogel, ar yr amod eich bod yn ei ddefnyddio'n gywir.

Dewch o hyd i'ch clinig GUM agosaf yma.

Sut caiff clamydia ei drin

Fel arfer, gellir trin clamydia yn hawdd â gwrthfiotigau.

Efallai y byddwch yn cael cwrs o doxycycline i'w gymryd am wythnos neu azithromycin i'w gymryd unwaith y dydd am 3 diwrnod.

Os byddwch chi'n cael doxycycline, ddylech chi ddim cael rhyw (yn cynnwys rhyw geneuol) hyd nes byddwch chi a'ch partner rhywiol presennol wedi gorffen eich triniaeth.

Os byddwch chi'n cael azithromycin, dylech chi aros am 7 diwrnod ar ôl y driniaeth cyn cael rhyw (yn cynnwys rhyw geneuol).

Mae'n bwysig fod eich partner rhywiol presennol ac unrhyw bartneriaid rhywiol diweddar eraill oedd gennych yn cael eu profi a'u trin hefyd i helpu atal lledaeniad yr haint.

Dylid cynnig prawf arall i bobl o dan 25 oed sydd â chlamydia rhwng 3 a 6 mis ar ôl iddynt gael eu trin.

Mae hyn oherwydd bod oedolion ifanc sy'n profi'n bositif am clamydia yn wynebu risg gynyddol o'i ddal eto.

Mae clinigau iechyd rhywiol neu glinigau meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM) yn gallu eich helpu i gysylltu â'ch partneriaid rhywiol.

Gallwch chi neu'r clinig siarad â nhw, neu gellir anfon nodyn atynt yn eu cynghori i gael prawf.

Ni fydd eich enw chi ar y nodyn, felly bydd eich cyfrinachedd yn cael ei ddiogelu.

Atal clamydia

Mae unrhyw un sy'n weithredol rywiol yn gallu dal clamydia.

Rydych chi fwyaf mewn perygl os oes gennych chi bartner rhywiol newydd neu dydych chi ddim yn defnyddio dull atal cenhedlu rhwystrol, fel condom, wrth gael rhyw.

Gallwch chi helpu atal clamydia rhag lledaenu trwy:

  • ddefnyddio condom bob tro rydych chi'n cael rhyw gweiniol neu refrol
  • defnyddio condom i orchuddio'r pidyn yn ystod rhyw geneuol
  • defnyddio llen (darn o blastig neu latecs tenau, meddal) i orchuddio organau cenhedlu'r fenyw yn ystod rhyw geneuol neu wrth rwbio organau cenhedlu menywod gyda'i gilydd
  • peidio â rhannu teganau rhyw

Os ydych chi'n rhannu teganau rhyw, golchwch nhw neu'u gorchuddio â chondom newydd bob tro bydd rhywun gwahanol yn eu defnyddio.

Cwestiynau cyffredin

Gallwch ddod o hyd i atebion i rai cwestiynau cyffredin ynghylch clamydia:

https://111.wales.nhs.uk/LiveWell/LifestyleWellbeing/Sexualhealth?locale=cy&term=A

Symptomau

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Diagnosis

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Triniaeth

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Cymhlethdodau

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 03/04/2024 11:30:55