Mae pesychu gwaed yn gallu bod yn brofiad brawychus, ond nid yw fel arfer yn arwydd o broblem ddifrifol os ydych chi'n ifanc ac yn iach fel arall. Mae'n fwy o achos pryder mewn pobl hyn, yn enwedig y rhai sy'n ysmygu.
Y term meddygol am besychu gwaed yw hemoptysis.
Efallai y byddwch yn pesychu ychydig bach o waed coch llachar, neu boer ewynnog ag ôl gwaed (poer a fflem). Mae'r gwaed fel arfer o'ch ysgyfaint ac yn aml o ganlyniad i besychu hirfaith neu haint ar y frest.
Os yw'r gwaed yn dywyll ac yn cynnwys darnau o fwyd neu rywbeth sy'n edrych yn debyg i goffi mâl, gall fod o'ch system dreulio. Mae hon yn broblem fwy difrifol a dylech chi fynd i'r ysbyty ar unwaith.
Beth i'w wneud os byddwch chi'n pesychu gwaed
Ffoniwch eich meddygfa cyn gynted ag y bo modd os byddwch chi'n pesychu gwaed, hyd yn oed os oes dim ond ychydig o smotiau neu sbeciau.
Bydd eich meddyg teulu yn gwirio a allech fod â chyflwr meddygol difrifol y mae angen ei archwilio a'i drin.
Yn ystod y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, cysylltwch â'ch meddygfa. Gyda'r nos ac ar benwythnosau gallwch ffonio 111 am ddim.
Ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys (A&E) agosaf ar unwaith os ydych chi'n pesychu llawer o waed neu'n cael trafferth anadlu.
Profion posibl y bydd angen eu cynnal
Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwr yn eich ysbyty lleol ar gyfer peyldr-x o'r frest neu sgan manylach, fel sgan tomograffeg gyfrifiadurol (CT).
Efallai y bydd gofyn i chi roi sampl o'ch poer er mwyn gallu ei archwilio am haint. Efallai y bydd angen cynnal profion eraill hefyd, fel profion gwaed.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cynnal profion pellach i ddarganfod o ble mae'r gwaed yn dod. Er enghraifft, efallai y cewch eich cyfeirio at arbenigwr a all benderfynu trefnu prawf o'r enw broncosgopi (lle mae'r prif lwybrau aer yn eich ysgyfaint yn cael eu harchwilio gan ddefnyddio tiwb â chamera ar un pen).
Mae'r dudalen hon yn gallu rhoi syniad gwell i chi o'r hyn sydd efallai'n achosi i chi besychu gwaed, ond peidiwch â'i defnyddio i wneud diagnosis eich hun. Meddyg ddylai wneud hynny bob tro.
Achosion cyffredin pesychu gwaed
Dyma'r rhesymau mwyaf cyffredin dros besychu gwaed:
- peswch hirfaith, difrifol
- haint ar y frest - mae hyn yn fwy tebygol os yw eich poer wedi newid lliw neu'n cynnwys crawn, bod gennych chi dwymyn, neu fod eich brest yn teimlo'n dynn
- bronciectasis - mae hyn yn fwy tebygol os ydych chi'n gwneud swn gwichlyd neu'n brin o anadl
Weithiau, os bydd eich trwyn yn gwaedu'n ddifrifol neu eich bod yn gwaedu o'ch ceg neu'r gwddf, gall hynny achosi i waed ddod allan yn eich poer pan fyddwch chi'n pesychu.
Achosion llai cyffredin pesychu gwaed
Yn llai cyffredin, gall rhywun besychu gwaed o ganlyniad i'r canlynol:
- emboledd ysgyfeiniol (ceulad gwaed yn yr ysgyfaint) - fel arfer bydd hyn yn achosi colli anadl sydyn a phoen yn y frest
- oedema ysgyfeiniol (hylif yn yr ysgyfaint) - bydd eich poer yn binc ac ewynnog, ac mae hyn fel arfer yn digwydd mewn pobl â phroblemau'r galon sy'n bodoli'n barod
- canser yr ysgyfaint - mae hyn yn fwy tebygol os ydych chi dros 40 oed ac yn ysmygu
- twbercwlosis (TB) - haint difrifol yn yr ysgyfaint sy'n gysylltiedig â thwymyn a chwysu; mae hyn yn dod yn fwy cyffredin yn y DU, ond mae modd ei drin â gwrthfiotigau estynedig
- canser y gwddf neu'r corn gwddf
- cymryd gwrthgeulyddion - meddyginiaethau sy'n helpu atal eich gwaed rhag ceulo, fel warfarin, rivaroxaban, neu dabigatran
Weithiau, ni ellir dod o hyd i'r achos, ac nid yw'n digwydd byth eto.