Cynghori

Cyflwyniad

Counselling
Counselling

Mae cwnsela yn fath o therapi siarad sy'n galluogi unigolyn i siarad am ei broblemau a'i deimladau mewn awyrgylch cyfrinachol a dibynadwy.

Mae cwnselydd wedi'i hyfforddi i wrando gydag empathi (trwy roi ei hun yn eich esgidiau chi). Gall eich helpu i ddelio ag unrhyw feddyliau a theimladau negyddol sydd gennych.

Weithiau, defnyddir "cwnsela" i gyfeirio at therapïau siarad yn gyffredinol, ond mae cwnsela yn fath o therapi yn ei rinwedd ei hun hefyd.

Mae therapïau seicolegol eraill yn cynnwys seicotherapi, therapi gwybyddol ymddygiadol, a therapi perthynas, a all fod rhwng aelodau teulu, cwpl neu gydweithwyr.

Darllenwch fwy am therapïau seicolegol eraill.

Pam mae cwnsela'n cael ei ddefnyddio?

Gall therapïau siarad, fel cwnsela, gael eu defnyddio i helpu gyda llawer o wahanol gyflyrau iechyd meddwl, gan gynnwys:

Sut gall cwnsela helpu

Nod cwnsela yw eich helpu i ddelio â phroblemau sy'n achosi poen emosiynol neu sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, a'u goresgyn.

Gall gynnig lle diogel i chi'n rheolaidd i siarad am deimladau anodd, a'u harchwilio. Mae'r cwnselydd yno i'ch cefnogi chi a pharchu eich barn. Ni fydd yn rhoi cyngor fel arfer, ond bydd yn eich helpu i gael eich cipolwg eich hun i'ch problemau, a dealltwriaeth ohonynt.

Gall cwnsela eich helpu i:

  • ymdopi â phrofedigaeth neu ddiwedd perthynas
  • ymdopi â cholli swydd neu straen sy'n gysylltiedig â gwaith
  • archwilio materion fel hunaniaeth rywiol 
  • delio â materion sy'n eich atal rhag cyflawni eich uchelgais
  • delio â theimladau o iselder neu dristwch, a chael golwg fwy cadarnhaol am fywyd
  • delio â theimladau o orbryder, gan eich helpu i boeni'n llai am bethau
  • deall eich hun a'ch problemau yn well
  • teimlo'n fwy hyderus
  • datblygu dealltwriaeth well o safbwyntiau pobl eraill

Yn aml, gall cwnsela gynnwys siarad am deimladau anodd neu boenus, ac wrth i chi ddechrau eu hwynebu, gallech deimlo'n waeth, mewn rhai ffyrdd. Fodd bynnag, gyda help a chefnogaeth eich therapydd, dylech ddechrau teimlo'n well yn raddol.

Gan amlaf, mae angen nifer o sesiynau cyn bod y cwnsela yn dechrau gwneud gwahaniaeth ac mae angen ymrwymiad rheolaidd i wneud y defnydd gorau o'r therapi.

Beth i'w ddisgwyl o'r cwnsela

Yn ystod eich sesiynau cwnsela, cewch eich annog i fynegi eich teimladau a'ch emosiynau. Trwy drafod eich pryderon gyda chi, gall y cwnselydd eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o'ch teimladau a'ch prosesau meddwl, ynghyd ag amlygu ffyrdd o ddod o hyd i'ch atebion eich hun i broblemau.

Gall rhannu eich pryderon ac ofnau gyda rhywun sy'n cydnabod eich teimladau fod yn rhyddhad mawr, a gall eich helpu i ddod i ddatrysiad cadarnhaol.

Gall cwnsela gael ei gynnal:

  • wyneb yn wyneb
  • yn unigol neu mewn grwp
  • dros y ffôn 
  • drwy'r e-bost
  • defnyddio rhaglen gyfrifiadurol arbenigol

Gallech gael cynnig sesiwn unigol o gwnsela, cwrs byr o sesiynau cwnsela dros ychydig wythnosau neu fisoedd, neu gwrs hwy sy'n para sawl mis neu flynyddoedd.

Ymddiried yn eich cwnselydd

Bydd cwnselydd da yn canolbwyntio arnoch chi ac yn gwrando heb eich barnu na'ch beirniadu chi. Gall eich helpu i ddarganfod sut y gallech ddelio â'ch problemau, ond ni ddylai ddweud wrthych beth i'w wneud.

Er mwyn i gwnsela fod yn effeithiol, bydd angen i chi feithrin perthynas ddiogel ac ymddiriedus gyda'ch cwnselydd. Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi a'ch cwnselydd yn tynnu ymlaen, neu os nad ydych yn cael y mwyaf o'ch sesiynau, dylech drafod hyn gyda'ch cwnselydd neu gallwch chwilio am gwnselydd arall.

Os ydych chi'n gweld cwnselydd y GIG sy'n gysylltiedig â'ch meddygfa, efallai y gall eich meddyg teulu drefnu i chi weld cwnselydd arall y GIG. Neu, gallech dalu i weld cwnselydd preifat. Mae llawer o gwnselwyr a mudiadau cwnsela yn cynnig ffioedd ar raddfa symudol, hynny yw, bydd y pris yn rhatach po fwyaf o sesiynau gewch chi.

Pwy sy'n darparu cwnsela?

Oherwydd bod cwnsela yn ymwneud â siarad am faterion sensitif a datgelu meddyliau a theimladau personol, dylai eich cwnselydd fod yn brofiadol ac yn gymwys yn broffesiynol.

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol amrywiol gael hyfforddiant mewn cwnsela neu fod yn gymwys i ddarparu therapïau seicolegol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cwnselwyr – fe'u hyfforddwyd i ddarparu cwnsela i'ch helpu i ymdopi yn well â'ch bywyd ac unrhyw broblemau sydd gennych
  • seicolegwyr clinigol a chwnsela – gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo ar asesu a thrin cyflyrau iechyd meddwl gan ddefnyddio therapïau seicolegol seiliedig ar dystiolaeth 
  • seiciatryddion – meddygon cymwysedig sydd wedi cael hyfforddiant pellach ar wneud diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl a'u trin 
  • seicotherapyddion – yn debyg i gwnselwyr, ond maent wedi derbyn hyfforddiant mwy helaeth fel arfer; hefyd, byddant yn aml yn seiciatryddion neu yn seicolegwyr cymwysedig hefyd
  • seicotherapyddion gwybyddol ymddygiadol – gallant ddod o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol a bod wedi derbyn hyfforddiant ar therapi ymddygiad gwybyddol; Dylai Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP) fod wedi'u cofrestru a'u hachredu

Argaeledd

Os byddwch yn cael eich cyfeirio i gael cwnsela neu therapi seicolegol arall drwy'r GIG, bydd hwnnw am ddim. Fodd bynnag, gallai eich dewis o fath o therapi fod yn gyfyngedig. Os ydych yn ffafrio pa fath o therapi gewch chi, neu amser neu leoliad eich apwyntiadau, gallech ddewis chwilio am therapydd preifat.

Os byddwch yn penderfynu talu i weld therapydd preifat, gwnewch yn siwr ei fod yn therapydd cymwys a'ch bod yn teimlo'n gyfforddus gyda'r therapydd. Gall cost cwnsela preifat amrywio'n sylweddol. Yn dibynnu ble'r ydych yn byw, gall sesiwn gostio rhwng £10 a £70. Gall rhai therapyddion fod yn barod i addasu'u ffioedd yn unol â'ch incwm.

Mae llawer o gwnselwyr preifat yn cynnig sesiwn rad ac am ddim i gychwyn a phrisiau gostyngol i fyfyrwyr, ceiswyr swydd a phobl ar gyflog isel. Dylech ofyn am y ffioedd a chytuno ar bris cyn dechrau ar gwrs o gwnsela.

Elusennau a sefydliadau gwirfoddol

Mae rhai elusennau a mudiadau gwirfoddol yn cynnig cwnsela hefyd. Fel arfer, mae'r sefydliadau hyn yn arbenigo ar faes penodol, fel cwnsela i gyplau, profedigaeth neu gyngor teuluol.

Mae elusennau a allai gynnig cwnsela yn cynnwys:

  • Cruse Bereavement Care – mae'n cynnig cyngor a chymorth ynghylch profedigaeth
  • Relate – mae'n cynnig cyngor a chwnsela ynghylch perthnasoedd 
  • Rape Crisis – mae i fenywod a merched sydd wedi'u treisio neu'u cam-drin yn rhywiol
  • Cymorth i Ddioddefwyr – mae'n rhoi help a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion troseddau 

Mae'n bosibl hefyd y byddwch yn gallu dod o hyd i grwpiau cymorth trwy eich cymuned, eglwys neu wasanaethau cymdeithasol lleol.

Dod o hyd i gwnselydd cymwysedig

Bydd y rhan fwyaf o gwnselwyr dibynadwy wedi cofrestru gyda sefydliad proffesiynol wedi'i achredu gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol (PSA) (corff y llywodraeth), fel Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) neu'r Gymdeithas Genedlaethol er Cwnsela.

Rhaid i seicolegwyr cwnsela a chlinigol gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, a gallant fod yn siartredig hefyd gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Mae Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP) yn cynnal rhestr o ymarferwyr CBT achrededig.

Mae therapyddion sydd wedi cofrestru gyda chymdeithas broffesiynol wedi cwrdd â safonau uchel yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer llywodraethu, gosod safonau, addysg a hyfforddiant, gwybodaeth, rheolaeth a chwynion. Hefyd, rhaid iddynt gynnal safonau proffesiynol a moesegol uchel. Mae hyn yn amddiffyn y cyhoedd yn well ac mae'n sicrhau lefel benodol o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus.

Gallwch ddod o hyd i therapydd cyfagos gan ddefnyddio'r chwiliwr cod post ar wefan BACP.

Agweddau at therapi

Yn 2014, cynhaliodd BACP ymchwil i ddysgu rhagor am agweddau pobl at gwnsela a seicotherapi. Roedd rhai o'r prif ganfyddiadau yn cynnwys:

  • mae 28% o bobl wedi troi at gwnselydd neu seicotherapydd (cynnydd o gymharu ag 21% yn 2010)
  • dywed 54% o ymatebwyr eu bod nhw, aelod o'r teulu, ffrind neu gydweithiwr wedi troi at gwnselydd neu seicotherapydd
  • mae 69% o bobl o'r farn y byddai'r byd yn lle gwell pe bai pobl yn siarad mwy am eu teimladau

Darllenwch fwy am brif ganfyddiadau ymchwil BACP (PDF, 134kb).

Therapïau seicolegol eraill

Yn ogystal â chwnsela, mae llawer o fathau eraill o therapïau seicolegol, gan gynnwys seicotherapi a therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT).

Seicotherapi

Fel cwnsela, mae'r term "seicotherapi" yn cael ei ddefnyddio weithiau i gyfeirio at therapïau siarad yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae seicotherapi yn fath penodol o therapi hefyd. Gall gael ei ddisgrifio fel seicdreiddiol neu seicodynamig yn ogystal. 

Mae seicotherapi yn fath dyfnach o therapi na chwnsela, a gall gael ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag amrywiaeth ehangach o broblemau.

Gall seicotherapydd eich helpu i archwilio eich meddyliau, eich teimladau a'ch credoau, a gall gynnwys trafod digwyddiadau o'r gorffennol, fel digwyddiadau o'ch plentyndod.

Bydd yn eich helpu i ystyried sut mae eich personoliaeth a'ch profiadau bywyd yn dylanwadu ar eich meddyliau, teimladau, perthnasoedd ac ymddygiad presennol. Dylai'r ddealltwriaeth hon eich galluogi i ddelio â sefyllfaoedd anodd yn fwy effeithiol.

Yn dibynnu ar eich problem, gall seicotherapi fod yn therapi tymor byr neu hir. Gall oedolion, pobl ifanc a phlant oll elwa o seicotherapi. Gall sesiynau ddigwydd yn unigol, mewn cyplau, mewn teuluoedd, neu mewn grwpiau gydag aelodau sy'n rhannu problemau tebyg.

Darllenwch fwy am seicotherapi.

Therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT)

Mae therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) yn therapi siarad sy'n eich helpu i ddeall y cysylltiadau rhwng meddyliau, teimladau ac ymddygiad. Mae hyn yn caniatáu i chi reoli eich problemau trwy eich helpu i newid y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn ymddwyn.

Nid yw therapi gwybyddol ymddygiadol yn cael gwared ar eich problemau, ond mae'n eich helpu i'w rheoli mewn ffordd fwy effeithiol. Mae'n eich annog i archwilio sut mae eich gweithredoedd a'ch meddyliau yn gallu effeithio ar y ffordd rydych chi'n teimlo.

Mae wedi'i seilio ar y syniad bod y ffordd rydych chi'n meddwl am sefyllfa yn effeithio ar y ffordd rydych chi'n teimlo ac yn gweithredu. Yn eu tro, mae eich gweithredoedd yn dylanwadu ar y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn teimlo. Felly, mae angen newid meddwl (gwybyddiaeth) a gweithredu (ymddygiad) ar yr un pryd.

Mae CBT yn therapi gweithgar a bydd disgwyl i chi weithio ar eich problemau rhwng sesiynau, gan roi cynnig ar ffyrdd gwahanol o feddwl a gweithredu, fel y cytunoch arnynt gyda'ch therapydd. Y nod yw i chi ddatblygu'r sgiliau i fod yn therapydd arnoch chi'ch hunan.

Fel arfer, mae CBT yn driniaeth tymor byr. Er enghraifft, gallai cwrs gynnwys rhwng 6 a 24 sesiwn awr.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell y defnydd o CBT ar gyfer:

Mae CBT ar gael yn helaeth drwy'r GIG i drin iselder. Os byddwch o'r farn y gallai CBT fod o gymorth, dylech drafod hynny i ddechrau gyda'ch meddyg teulu.

Mae therapyddion preifat ar gael hefyd. Cyn dechrau CBT gyda therapydd preifat, dylech gadarnhau bod Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP) wedi achredu'r therapydd.

Mae pecynnau CBT cyfrifiadurol ar gael hefyd. Caiff y rhain eu cyflwyno trwy gyfres o sesiynau wythnosol a dylent gael eu cefnogi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae NICE yn argymell y rhain i rai pobl ag iselder.

Darllenwch fwy am CBT.

Therapi dyneiddiol

Mae therapi dyneiddiol yn cynnwys eich corff, meddwl, emosiynau, ymddygiad ac ysbrydolrwydd. Mae'n eich annog i feddwl am eich meddyliau a'ch teimladau, a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd.

Mae ymagwedd ddyneiddiol yn cynnnig dull penodol o gwnsela ac mae'n canolbwyntio'n bennaf ar botensial personol unigryw unigolyn i archwilio creadigrwydd, twf, cariad a dealltwriaeth seicolegol.

Therapi grwp

Nod therapi grwp yw eich helpu i ddod o hyd i atebion i'ch problemau trwy eu trafod nhw mewn grwp. Caiff sesiynau eu harwain gan hwylusydd, sy'n cyfeirio llif y sgwrs.

Yn ogystal â therapi grwp, mae grwpiau neu gyrsiau seico-addysgol yn ddefnyddiol iawn i lawer o bobl. Mae'r rhain yn cynnig gwybodaeth a sgiliau heb orfod trafod problemau personol yn fanwl.

Mae NICE yn argymell therapi grwp i bobl ag anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), ac i blant a phobl ifanc ag iselder ysgafn.

Mae llawer o bobl yn bryderus i ddechrau am fynychu grwp, ond sylwant eu bod yn elwa o gyfarfod â phobl sy'n rhannu'r un profiadau a chydweithio i'w goresgyn.

Therapi perthynas

Mewn therapi perthynas, bydd pobl sy'n cael trafferthion mewn perthynas yn gweithio gyda therapydd i ddatrys eu problemau. Gall gael ei ddefnyddio i helpu cyplau, aelodau teulu neu gydweithwyr.

Mae NICE yn argymell therapi perthynas i bobl sydd wedi rhoi cynnig ar therapi unigol heb lwyddiant.

Gall therapi teuluol gael ei ddefnyddio ar gyfer plant ag iselder neu pan fydd cyflwr iechyd meddwl, fel anorecsia neu sgitsoffrenia, ar aelod o'r teulu.

Therapïau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar 

Mae therapïau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar yn eich helpu i ganolbwyntio ar eich meddyliau a'ch teimladau heb iddynt eich llethu chi.

Gallant gael eu defnyddio i helpu trin iselder, straen, gorbryder a dibyniaeth. Gall technegau fel ioga, myfyrdod ac ymarferion anadlu gael eu cynnwys hefyd.

Mae NICE yn argymell therapïau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar i helpu pobl osgoi pyliau mynych o iselder.

Datsensiteiddio ac ailbrosesu trwy symudiadau'r llygaid (EMDR)

Mae datsensiteiddio ac ailbrosesu trwy symudiadau'r llygaid (EMDR) yn driniaeth sy'n defnyddio symudiadau'r llygaid i ysgogi'r ymennydd. Dangoswyd ei fod yn gwneud i atgofion trallodus deimlo'n llai dwys.

Gall EMDR helpu rhywun i ddelio ag atgofio trawmatig, fel y rhai sy'n digwydd ar ôl damwain, neu ar ôl cam-drin rhywiol, corfforol neu emosiynol.

Yn benodol, mae NICE yn argymell EMDR ar gyfer trin anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Cwnsela dros y ffôn

Mae'r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol i bobl sydd eisiau siarad am yr hyn sy'n peri gofid iddyn nhw. Mae popeth yn gyfrinachol ac nid oes unrhyw un yn barnu.

Mae'r Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol - CALL - yn wasanaeth sy'n rhoi cymorth iechyd meddwl ledled Cymru, gan gynnig cymorth emosiynol dros y ffôn. Rhif ffôn y llinell yw 0800 132737.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 08/03/2024 10:50:12